Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Deddf Cwmnïau 2006

Newidiadau o ran cyfrifon (Rhan 15) cwmnïau sydd â chyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008

Datganiadau i'w cynnwys ar gyfrifon wedi'u paratoi yn unol â Deddf Cwmnïau 2006 a rheoliadau cysylltiedig.

Cwmnïau bach sy'n paratoi cyfrifon cryno

Dylai adroddiad arbennig yr archwilydd ddweud bod gan y cwmni, ym marn yr archwilydd, hawl i gyflwyno cyfrifon cryno yn unol ag adran 444(1) neu (3) o Ddeddf Cwmnïau 2006 a bod y cyfrifon wedi'u paratoi'n briodol yn unol â'r rheoliadau a wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol, fel y bo'r achos.

Cwmnïau bach wedi'u heithrio rhag archwilio ariannol

Mae'n rhaid i gwmnïau bach sydd wedi'u heithrio rhag archwilio ariannol ac â chyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 06/04/2008 gynnwys y datganiadau canlynol ar y fantolen:

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ……………………... (dd/mm/bbbb), yr oedd gan y cwmni hawl i gael ei eithrio rhag archwilio ariannol o dan adran 477 o Ddeddf Cwmnïau 2006 sy'n ymwneud â chwmnïau bach.

Dyletswyddau cyfarwyddwyr:

  • Nid yw'r aelodau wedi mynnu gan y cwmni sicrhau archwiliad ariannol o'i gyfrifon ar gyfer y flwyddyn dan sylw o dan adran 476,
  • Mae'r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu cyfrifoldebau am gydymffurfio â gofynion y Ddeddf ynglŷn â chofnodion cyfrifeg a pharatoi cyfrifon.

Cafodd y cyfrifon hyn eu paratoi yn unol â'r darpariaethau sy'n gymwys i gwmnïau'n perthyn i'r drefn cwmnïau bach.

Nodyn: Caiff cwmnïau na fyddant yn cyflwyno cyfrifon cryno hefyd ddewis peidio â chynnwys copi o adroddiad y Cyfarwyddwyr a/neu gopi o'r cyfrif elw a cholled.  Yma, mae'n rhaid i'r fantolen gynnwys hefyd y datganiad canlynol:

'Cafodd y cyfrifon eu cyflwyno yn unol â'r darpariaethau sy'n gymwys i gwmnïau'n perthyn i'r drefn cwmnïau bach.'

Cwmnïau segur wedi'u heithrio rhag archwilio ariannol

Mae'n rhaid i gwmnïau segur sydd wedi'u heithrio rhag archwilio ariannol ac â chyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 06/04/2008 gynnwys y datganiadau canlynol ar y fantolen:

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ……………………... (dd/mm/bbbb), yr oedd gan y cwmni hawl i gael ei eithrio rhag archwilio ariannol o dan adran 480 o Ddeddf Cwmnïau 2006 sy'n ymwneud â chwmnïau segur.
Dyletswyddau cyfarwyddwyr:

  • Nid yw'r aelodau wedi mynnu gan y cwmni sicrhau archwiliad ariannol o'i gyfrifon ar gyfer y flwyddyn dan sylw o dan adran 476,
  • Mae'r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu cyfrifoldebau am gydymffurfio â gofynion y Ddeddf ynglŷn â chofnodion cyfrifeg a pharatoi cyfrifon.

Rhaid i gwmni preifat sy'n gymwys fel un bach gynnwys hefyd y datganiad canlynol ar y fantolen:

‘Cafodd y cyfrifon hyn eu paratoi yn unol â'r darpariaethau sy'n gymwys i gwmnïau'n perthyn i'r drefn cwmnïau bach.‘

Cwmnïau o faint canolig

Cwmnïau o faint canolig sydd â chyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 06/04/2008;

  • Rhaid i'r fantolen (a lle bo hynny'n briodol, adroddiad y cyfarwyddwyr) gynnwys datganiad bod y cyfrifon wedi'u paratoi yn unol â darpariaethau arbennig adran 445(3) o'r Ddeddf Cwmnïau gyda golwg ar gwmnïau o faint canolig.
  • Dylai adroddiad arbennig yr archwilydd ddweud bod gan y cwmni, ym marn yr archwilydd, hawl i gyflwyno cyfrifon cryno yn unol ag adran 445(3) o Ddeddf Cwmnïau 2006 a bod y cyfrifon wedi'u paratoi'n briodol yn unol â'r rheoliadau a wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol, fel y bo'r achos.
Cyfrifon yn cynnwys Adroddiad Archwilydd neu Adroddiad Arbennig Archwilydd

Os teimla'r cwmni bod yr archwilydd neu unrhyw un arall mewn perygl o ddioddef trais neu fygwth difrifol yn sgil nodi enw'r archwilydd, caiff fabwysiadu penderfyniad i hepgor yr enw.  Rhaid peidio â chyflwyno copi o'r penderfyniad hwn i Dŷ'r Cwmnïau ond byddai angen i adroddiad yr archwilydd gynnwys y datganiad canlynol: ‘Yn unol ag adran 506 o Ddeddf Cwmnïau 2006, cafodd penderfyniad ei fabwysiadu a rhoddwyd gwybod amdano i'r Ysgrifennydd Gwladol.'

Brig
Ein polisi ar gwcis