|
Cyfyngu mynediad i’r Gofrestr Aelodau (neu cyfranddeiliaid) Adrannau 116 - 119
Mae’r cyfyngiad hwn yn gymwys i bob cais allanol am gael gweld y Gofrestr Aelodau.
Yn sgil cais am gael gweld y Gofrestr Aelodau, gall y cwmni ofyn am enw a chyfeiriad yr ymgeisydd, neu os sefydliad sydd dan sylw, am enw rhyw unigolyn, a hefyd y diben ac a gaiff yr wybodaeth ei datgelu. Mae’n drosedd i wneud datganiad anwir wrth roi’r manylion sydd angen ar gyfer y datgelu.
Rhaid i’r cwmni naill ai cydymffurfio â’r cais yn ddiymdroi neu fe gaiff wneud cais i’r llysoedd am gyfyngu mynediad i’r Gofrestr o fewn 5 diwrnod gwaith.
I bwy mae hyn yn gymwys?
Mae’r cyfyngiad hwn yn gymwys i bob cais allanol am gael gweld y Gofrestr Aelodau o’r tu allan i’r cwmni.
O ganlyniad i gais am gael gweld y gofrestr aelodau, pa wybodaeth y caiff y cwmni ofyn amdani?
Enw a chyfeiriad yr ymgeisydd, neu os sefydliad sydd dan sylw, am enw rhyw unigolyn, a hefyd diben y cais ac a gaiff yr wybodaeth ei datgelu. Mae’n drosedd i wneud datganiad anwir wrth roi’r manylion sydd angen ar gyfer y datgelu.
Pa opsiynau sydd gan y cwmni gyda golwg ar ddatgelu gwybodaeth y gofrestr aelodau?
Rhaid i’r cwmni naill ai cydymffurfio â’r cais yn ddiymdroi neu fe gaiff wneud cais i’r llysoedd am gyfyngu mynediad i’r Gofrestr o fewn 5 diwrnod gwaith.
Pryd byddai’r llys yn caniatáu i’r cwmni beidio â chydymffurfio â’r cais am fynediad?
Dim ond os yw’n fodlon na cheisir y mynediad at ddiben priodol y byddai’r llys yn caniatáu i’r cwmni beidio â chydymffurfio.
Beth yw diben priodol o ran mynediad i gofrestr aelodau’r cwmni?
Mater i’r llys ei benderfynu yw a oes diben priodol i gais penodol.
|