|
Tabl A
Cafodd Tablau A ac C eu diwygio lle roedd tablau presennol yn gwrthdaro â’r darpariaethau a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2007, e.e. dyletswyddau newydd cyfarwyddwyr a newidiadau o ran penderfyniadau a chyfarfodydd.
Beth yw Tabl A?
Rhaid i bob cwmni fabwysiadu Erthyglau Cymdeithasiad pan fyddant yn corffori. Mae Tablau A i F Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) 1985 (a elwir Tabl A fel arfer) yn nodi erthyglau enghreifftiol safonol, y gall cwmnïau eu defnyddio fel sail i’w herthyglau eu hunain. Os na fydd cwmnïau yn cofrestru eu herthyglau cymdeithasiad eu hunain, bydd Tabl A yn berthnasol yn eu habsenoldeb.
Pam y diwygiwyd Tabl A?
Cafodd Tablau A i F eu diwygio er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â newidiadau a wneir i’r gyfraith gwmnïau. Aeth y Llywodraeth ati i lunio rheoliadau ym mis Medi 2007 a oedd yn gwneud diwygiadau i reoliadau Tabl A er mwyn galluogi cwmnïau newydd sy’n cael eu sefydlu ar 1 Hydref 2007 neu wedi hynny, i fanteisio ar Ddarnau o Ddeddf Cwmnïau 2006 a ddaeth i rym erbyn y dyddiad hwnnw, ac i osgoi gwrthdaro gyda’r Darnau hyn.
Pam oedd angen gwneud diwygiad pellach ar y funud olaf?
Aeth y Llywodraeth ati i sicrhau bod diwygiadau drafft i Dabl A ar gael er mwyn i bobl wneud sylwadau yn eu cylch, ac yn ystod yr haf, bu’n ystyried y sylwadau a wnaethpwyd wrth iddi gwblhau’r rheoliadau a fyddai’n gweithredu’r diwygiadau hynny. Codwyd ychydig faterion pellach ar ôl cwblhau’r rheoliadau hynny, a olygodd y bu’n rhaid gwneud dau newid pellach i Dabl A. Aethom ati i gwblhau hyn yn gyflym er mwyn sicrhau y byddai Tabl A yn cydymffurfio â’r gyfraith o 1 Hydref 2007.
Beth sydd wedi newid?
Nodir y newidiadau a wnaethpwyd yn Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) (Diwygiad) 2007 a Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) (Diwygiad) (Rhif 2) 2007, sydd ar gael ar wefan OPSI a / neu a nodir mewn datganiad ar wefan BERR.
I bwy y mae Tabl A newydd yn berthnasol?
Mae Tabl A newydd yn berthnasol i gwmnïau newydd a gorfforwyd ar 1 Hydref 2007 neu ar ôl hynny, na fyddant yn cofrestru eu herthyglau eu hunain pan fyddant yn gwneud cais i gael eu corffori. Nid oes yn rhaid i gwmnïau ddefnyddio Tabl A fodd bynnag ac mae modd iddynt ysgrifennu eu herthyglau eu hunain neu eu seilio ar erthyglau Tabl A. Os na fydd cwmnïau yn cofrestru eu herthyglau cymdeithasiad eu hunain, bydd Tabl A yn berthnasol yn eu habsenoldeb
Pryd gafodd y Tabl A newydd ei gyflwyno?
Daeth y Tabl A newydd i rym ar ddydd Llun, 1 Hydref 2007.
Rydw i ar fin cofrestru cwmni newydd – sut mae hyn yn effeithio arnaf?
Mae’r newidiadau a wnaethpwyd gan y Llywodraeth i Dabl A ym mis Medi 2007 wedi sicrhau bod yr erthyglau a fydd yn berthnasol pan na fydd cwmni yn cofrestru ei erthyglau ei hun, yn cyd-fynd â’r gyfraith gwmnïau a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2007.
Sut fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gwmni sy’n bodoli eisoes?
Nid yw’r Tabl A newydd yn effeithio ar gwmnïau sy’n bodoli eisoes oni bai eu bod yn dewis ei fabwysiadu. Gall cwmnïau sy’n bodoli eisoes ddewis diwygio’u herthyglau cymdeithasiad presennol, trwy gyfrwng penderfyniad arbennig, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r newidiadau a wnaethpwyd i’r gyfraith fel y’u mynegwyd yn y Tabl A diwygiedig.
Dylai cwmnïau sy’n bodoli eisoes fod yn ymwybodol o effeithiau penodol canlynol y rheoliadau diwygio a wnaethpwyd ar 28 Medi 2007:
Caiff Rheoliad 50 Tabl A ei ddileu ar gyfer cwmnïau preifat a chyhoeddus gan ei fod yn gwrthdaro gydag adrannau 281 a 282 Deddf Cwmnïau 2006. Effaith adrannau hyn Deddf 2006, a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2007, yw na ellir cymeradwyo penderfyniad wrth i’r cadeirydd ddefnyddio pleidlais fwrw. Dylai cwmnïau sy’n bodoli eisoes ac sy’n cynnwys geiriau i’r un perwyl â rheoliad 50 Tabl A Deddf Cwmnïau 1985 yn eu herthyglau cymdeithasiad, nodi y gallai erthygl o’r fath fod yn aneffeithiol o 1 Hydref 2007.
Diwygiwyd Rheoliad 54 Tabl A er mwyn adlewyrchu’r hawliau newydd i ddirprwyon bleidleisio wrth godi dwylo a ddarparwyd gan adrannau 284(2)(b) a 324(1) Deddf 2006. Bellach, mae’r rheoliad hwn yn darllen:
54. Yn unol ag unrhyw hawliau neu gyfyngiadau sydd ynghlwm gydag unrhyw gyfrannau, wrth godi dwylo, bydd gan bob aelod (sy’n unigolyn) sy’n bresennol yn bersonol neu thrwy gyfrwng dirprwy neu (yn gorfforaeth) sy’n bresennol trwy gynrychiolydd awdurdodedig priodol neu thrwy gyfrwng dirprwy, oni bai bod y dirprwy (yn y naill achos neu'r llall) neu’r cynrychiolydd ei hun yn aelod y mae ganddynt yr hawl i bleidleisio, un bleidlais, ac yn ystod pôl, bydd gan bob aelod un bleidlais am bob cyfran y maent yn ddeiliad ar ei chyfer.
Gallai cwmnïau sy’n bodoli eisoes, y mae eu herthyglau yn cynnwys geiriau i’r un perwyl â fersiwn heb ei ddiwygio rheoliad 54 Tabl A Deddf Cwmnïau 1985, fel nad ydynt yn adlewyrchu hawliau dirprwyon yn benodol, weld bod adran 324 Deddf Cwmnïau 2006 er hyn yn rhoi hawliau i ddirprwyon o 1 Hydref 2007.
Sut mae’r newidiadau hyn yn ymwneud â’r erthyglau enghreifftiol drafft newydd a fydd yn dod i rym ar 1 Hydref 2009?
Bydd y rheoliadau sy’n nodi’r erthyglau enghreifftiol yn cael eu gwneud ym mis Rhagfyr 2008 a byddant yn cychwyn ar 1 Hydref 2009. Ni fydd y newidiadau i Dabl A yn cael unrhyw effaith ar yr erthyglau enghreifftiol nac ar amseriad eu cyflwyno. Pan fydd yr erthyglau enghreifftiol yn dod i rym yn 2009 nesaf, byddant yn disodli Tabl A fel yr erthyglau rhagosodedig: ond ni fydd cwmni sydd eisoes â Thabl A diwygiedig yn erthyglau iddo, yn cael ei effeithio gan yr erthyglau enghreifftiol oni bai ei fod yn dewis newid iddynt.
A yw Tabl A ar gael ar wefan Tŷ’r Cwmnïau?
Ydy, mae fersiwn diweddaraf Tabl A ar gael ar wefan Tŷ’r Cwmnïau.
Tabl A ar gyfer cwmnïau preifat pdf (ar gael yn Saesneg yn unig) (PDF 97k)
Tabl A ar gyfer cwmnïau cyhoeddus pdf (ar gael yn Saesneg yn unig) (PDF 100k)
Tabl C pdf (ar gael yn Saesneg yn unig) (PDF 25k)
|