|
|
Ffi newydd: Lleihau cyfalaf trwy ddatganiad hydaledd a lleihau cyfalaf trwy orchymyn llys (Ffurflen SH19 – Adran 644 a 649 o Ddeddf Cwmnïau 2006) Bydd ffi ynghlwm wrth y ffurflen SH19: Datganiad Cyfalaf (Adran 644 a 649) o 6 Ebrill 2010 ymlaen. Rhaid cynnwys y ffi wrth gyflwyno’r ffurflen hon i Dŷ’r Cwmnïau ar, neu ar ôl 6 Ebrill; nid oes angen talu ffi wrth gyflwyno ffurflen ar 5 Ebrill neu cyn hynny. Mae’r ffioedd yn gysylltiedig â lleihau cyfalaf trwy ddatganiad hydaledd (s644) a lleihau cyfalaf trwy orchymyn llys (s649). Codir ffi o £10 ar gyfer y gwasanaeth safonol a ffi o £50 ar gyfer gwasanaeth yr un diwrnod, a rhaid eu talu wrth gyflwyno’r ffurflen SH19.
|
|||||||||||