Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Integreiddio Cofrestrfa Gwmnïau Gogledd Iwerddon

Cyflwyniad

Wrth ddechrau Deddf Cwmnïau 2006 yn llawn ym mis Hydref 2009, bydd yn darparu ar gyfer un gyfraith gwmnïau fydd yn gymwys i’r Deyrnas Unedig i gyd. Bydd cwmnïau’n gwmnïau y DU yn hytrach na chwmnïau Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon, a bydd yr un ddeddfwriaeth yn gymwys iddynt oll. O ganlyniad, bydd Cofrestrfa Gwmnïau Gogledd Iwerddon (CRNI) yn integreiddio’n llawn â Thŷ’r Cwmnïau, Caerdydd, ar 1 Hydref 2009.  Mae CRNI ar hyn o bryd yn rhan o Adran Menter, Masnach a Buddsoddi GI (DETINI); ond o fis Hydref ymlaen bydd yn trosglwyddo i Dŷ’r Cwmnïau o dan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS).

Bydd Gogledd Iwerddon yn cadw swyddogaeth a phresenoldeb cofrestrfa yn debyg i batrwm Tŷ’r Cwmnïau, yr Alban. Mae hyn yn golygu y bydd y swyddfa’n aros ym Melffast a bydd Cofrestrydd Gogledd Iwerddon.

Mae ar hyn o bryd tua 38,000 o gwmnïau byw wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon.

Manylion Cysylltu
Newidiadau Ffurflen
Cynhyrchion a Gwasanaethau
Ffioedd
Swyddfeydd Cofrestredig
Canghennau
Rhifau Cwmni

Manylion Cysylltu

O 1 Hydref 2009 ymlaen, bydd angen i gwsmeriaid ddefnyddio manylion cysylltu cyffredinol Tŷ’r Cwmnïau:

Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500  amserau agor: 9yb - 5yp (amser y DU) dydd Llun i ddydd Gwener  
Ni fydd rhif canolfan cysylltu Gogledd Iwerddon 0845 6048888 ar gael mwyach o 1 Hydref ymlaen.

E-bost:enquiries@companies-house.gov.uk

Ni fydd cyfeiriad e-bost Gogledd Iwerddon info.companiesregistry@detini.gov.uk ael ar gael mwyach o 1 Hydref ymlaen.

Bydd swyddfa Gogledd Iwerddon yn aros yn ei chyfeiriad presennol:
Companies House
Second Floor
The Linenhall
32-38 Linenhall Street
Belfast
Northern Ireland BT2 8BG
neu
DX 481 N.R. Belfast 1

Gwefan

O 1 Hydref, caewyd gwefan  Cofrestrfa Gwmnïau GI (CRNI) ac mae’r holl wybodaeth berthnasol ynglŷn â Deddf Cwmnïau 2006 ar gael drwy wefan Tŷ’r Cwmnïau. Defnyddiwch Ganolfan Cysylltu Tŷ’r Cwmnïau am ganllaw a ffurflenni CRNI ar gyfer digwyddiadau cyn 1 Hydref 2009.

Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 amserau agor: 9yb - 5yp (amser y DU) dydd Llun i ddydd Gwener

Newidiadau Ffurflen

Ni fydd ffurflenni CRNI yn gymwys mwyach o 1 Hydref 2009 ymlaen. Mae cyfres gwbl newydd o ffurflenni o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 y bydd angen eu defnyddio o 1 Hydref ymlaen.

BrigBrig

Cynhyrchion a Gwasanaethau

Caiff data Gogledd Iwerddon eu huno â chronfeydd data Tŷ’r Cwmnïau a byddant ar gael drwy’r gwasanaethau ar-lein o ddechrau Hydref 2009 ymlaen.  Mae’r gwasanaethau gwybodaeth gwmni ar-lein yn cynnwys

Ni fydd Gwasanaethau Ar-lein Gogledd Iwerddon (https://www.secure.detini.gov.uk/crni/) ar gael mwyach o 1 Hydref ymlaen.  Os oes gan gwsmeriaid gyfrif rhagdalu gyda Chofrestrfa Gwmnïau Gogledd Iwerddon, caiff y cyfrif hwn ei gau a’r balans sy’n aros ei ad-dalu.

Bydd cwmnïau Gogledd Iwerddon hefyd yn cael manteisio ar wasanaeth ‘WebFiling’ Tŷ’r Cwmnïau ar gyfer ffeilio ar-lein o ddechrau mis Hydref 2009 ymlaen.  Mae’r wybodaeth gwmni y gellir ei chyflwyno’n electronig drwy WebFiling yn cynnwys:

  • Y Ffurflen Flynyddol
  • Penodi / Terfynu Penodiad / Newid Manylion Swyddogion
  • Newid Cyfeiriad y Swyddfa Gofrestredig
  • Newid Dyddiadau Cyfeirnod Cyfrifeg
  • Cyfrifon Cwmnïau Segur
  • Cyfrifon Cryno wedi’u Heithrio rhag Archwilio Ariannol

Mae’r gwasanaethau ar-lein hyn ar agor 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos, i chwilio a ffeilio gwybodaeth.

Ffioedd

Cafodd holl ffioedd statudol ar ein rhestr brisiau eu cadarnhau gan y Senedd drwy offerynnau statudol a deuant i rym ar 1 Hydref 2009.

Yr unig ffioedd sydd heb eu pennu drwy offerynnau statudol yw cynhyrchion newydd (adferiad gweinyddol a cheisiadau am drefnu na fydd cyfeiriad ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd), swmp-gynhyrchion, microfiche, copïau ffacs a chwiliadau perchnogion papurau newydd. Mae’r rhain i gyd yn cael eu pennu’n weinyddol a deuant i rym ar 1 Hydref 2009.

Bydd dolen sy’n cysylltu â’r diffiniad sy’n pennu ffioedd yn weinyddol ac â’r rheoliadau yn ymddangos gyda hyn ar ein gwefan.

Swyddfeydd Cofrestredig

A fydd yn ofynnol i gwmnïau Gogledd Iwerddon fod â swyddfa gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon o hyd ar ôl 1 Hydref 2009?

Bydd. Er mai un gyfraith gwmnïau a fydd ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd, bydd yn dal yn ofynnol i fod â swyddfa gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon.  

Canghennau

Wrth integreiddio Cofrestrfa Gogledd Iwerddon â Thŷ’r Cwmnïau, beth fydd yr effaith ar gofrestru canghennau?

O dan Ddeddf Cwmnïau 2006, cwmnïau wedi’u cofrestru y tu allan i’r DU fydd cwmnïau tramor.  Os bydd un o gwmnïau Gogledd Iwerddon am agor cangen yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, ni fydd yn rhaid mwyach iddo gofrestru o dan yr awdurdodaethau penodol ar wahân.

Rhifau Cwmni

A fydd cwmnïau Gogledd Iwerddon yn cadw’r blaenddodiad NI yn eu rhifau cwmni?

Byddant, bydd cwmnïau’n cadw blaenddodiad cyfredol eu rhif cwmni.  

BrigBrig
Brig
Ein polisi ar gwcis