Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Wedi’i diweddaru 22/09/09 - Hysbysiad Pwysig ynghylch y gwasanaethau a fydd ar gael gan Dŷ’r Cwmnïau wrth drosi i’r Ddeddf Cwmnïau newydd ym mis Hydref 2009

Erbyn hyn, rydyn ni bron â rhoi Deddf Cwmnïau 2006 ar waith yn derfynol. Bydd hynny’n digwydd ar 1 Hydref 2009.  I wneud hyn, mae angen newidiadau sylweddol yn systemau Tŷ’r Cwmnïau, a fydd yn cymryd amser i’w cyflawni, gan greu cyn lleied â phosibl o doriad yn y gwasanaeth.

Yng ngoleuni’r uchod, bydd y gwaith hanfodol y mae angen inni ei wneud yn digwydd rhwng dydd Mercher 30 Medi a dydd Llun 5 Hydref yn gynwysedig. Yn ystod y cyfnod hwn, effeithir ar y gwasanaethau canlynol. 

Sylwch wrth ffeilio dogfennau mai’r dyddiad y daethant i law fydd yn cael ei rhoi i’r dogfennau, ni waeth pryd y byddan nhw’n cael eu prosesu ac yn ymddangos ar y gwasanaethau allbwn. Efallai bydd ychydig o oediadau yn y wybodaeth yn cael ei diweddariad ar ein cofrestr gyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn.

Gwasanaethau Gwybodaeth Ar-lein
Gwasanaethau Ffeilio Ar-lein
Canolfannau Gwybodaeth
Y Ganolfan Gysylltu

Gwasanaethau Gwybodaeth Ar-lein:

Gwasanaeth Mercher 30  Medi Iau 1  Hydref Gwener 2 Hydref Sadwrn 3 Hydref Sul 4 Hydref Llun 5 Hydref
Y wefan Ar agor Ar agor Ar agor Ar agor Ar agor Ar agor
CH Direct Ar agor # Ar agor # Ar agor *# Ar gau Ar gau Ar agor
WebCHeck Ar agor Ar agor Ar agor * Ar gau Ar gau Ar agor
Allrwydi Ar agor Ar agor Ar agor * Ar gau Ar gau Ar agor
XML Gateway Ar agor Ar agor Ar agor * Ar gau Ar gau Ar agor

* cau’r gwasanaethau am hanner nos
# Bydd prosesu o Gopïau Ardystiedig yr un dydd yn gorffen am 2pm ar 30 Medi ac yn ail dechrau ar Ddydd Llun 5 Hydref

Bydd ein gwasanaethau gwybodaeth ar-lein yn ailddechrau fel arfer ddydd Llun 5 Hydref am 7.00am.

Bydd Desg Gymorth Companies House Direct ar gael fel arfer ar 30 Medi a 1, 2, 5 Hydref.

Gwasanaethau Ffeilio Ar-lein:

WedFiling Mercher 30  Medi Iau 1  Hydref Gwener 2 Hydref Sadwrn 3 Hydref Sul 4 Hydref Llun 5 Hydref
Cyfrifon Ar gael Ar gael Ar gael Ar gau Ar gau Ar gael
Dogfennau 287 Yn gorffen am hanner nos Heb fod ar gael Heb fod ar gael Ar gau Ar gau Ar gael ar gyfer dogfen gyfatebol Deddf 2006 = AD01
Mathau eraill o ddogfennau Ar gael Ar gael ar gyfer ffeilio o dan Ddeddf 1985 yn unig Ar gael ar gyfer ffeilio o dan Ddeddf 1985 yn unig Ar gau Ar gau Ar gael

Software Filing Mercher 30  Medi Iau 1  Hydref Gwener 2 Hydref Sadwrn 3 Hydref Sul 4 Hydref Llun 5 Hydref

Corffori Safonol

Bydd unrhyw corfforiadau heb cael eu prosesu ar 30 Medi yn cael eu gwrthod. Gweler trefniadau trosiannol am ragor o wybodaeth
Ar gael Dal dogfennau ond nid eu prosesu Dal dogfennau ond nid eu prosesu Ar gau Ar gau Ar gael
Corffori yr Un Dydd Yn gorffen am 3.00pm Heb fod ar gael Heb fod ar gael Ar gau Ar gau Ar gael
Mathau eraill o ddogfennau Ar gael er mwyn cyflwyno dogfennau yn ystod y cyfnod. Bydd y dogfennau yn cael eu dal a ni fyddan nhw’n cael eu prosesu.

Sylwch mai’r dyddiad y daethant i law fydd yn cael ei rhoi i’r dogfennau, ni waeth pryd y byddan nhw’n cael eu prosesu ac yn ymddangos ar y gwasanaethau allbwn.

Canolfannau Gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau:

Bydd Canolfannau Gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau ar agor fel arfer ond effeithir ar y gwasanaethau canlynol:

Gwasanaeth Mercher 30  Medi Iau 1  Hydref Gwener 2 Hydref Llun 5 Hydref
Gwasanaeth Chwilio’r Systemau Gwybodaeth Ar agor Ar agor Ar agor Ar agor
Gwasanaethau yr Un Dydd Yn gorffen am 2:00pm Heb fod ar gael Heb fod ar gael Ar agor

Bydd gwasanaethau Prosesu yr Un Dydd ar gyfer Corffori, Newid Enw, Ail-gofrestru a Chopïau Ardystiedig papur yn ailddechrau ddydd Llun 5 Hydref.

Canolfan Gysylltu Tŷ’r Cwmnïau:

Bydd Canolfan Gysylltu Tŷ’r Cwmnïau ar agor fel arfer ond effeithir ar y gwasanaethau canlynol:

Gwasanaeth Mercher 30  Medi Iau 1  Hydref Gwener 2 Hydref Llun 5 Hydref
Gwirio Enwau Cwmnïau ac Archebu Delweddau o Ddogfennau Ar gael Ar gael Ar gael Ar gael
Copïau Ardystiedig yr Un Dydd Yn gorffen am 2:00pm Heb fod ar gael Heb fod ar gael Ar gael

Rydyn ni’n sylweddoli’n llawn na fydd yna groeso i unrhyw darfu ar ein gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwn. Er hynny, gobeithio y byddwch yn deall bod angen gwneud hyn er mwyn sicrhau bod y newidiadau yn Neddf Cwmnïau 2006 yn cael eu rhoi ar waith yn llwyddiannus.

Hoffem ddiolch i chi ymlaen llaw am barhau i gydweithredu, gan ymddiheuro am unrhyw anhwylustod i chi neu’ch cleientau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso ichi gysylltu â ni.