Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Darpariaethau Trosiannol Deddf Cwmnïau 2006

Mae’r tabl isod yn dangos darpariaethau trosiannol Deddf Cwmnïau 2006 ar gyfer y mathau o ffurflen a dogfen a gaiff eu ffeilio’n fwyaf cyffredin yn Nhŷ’r Cwmnïau; daw’r Ddeddf i rym llawn ar 1 Hydref 2009. Mae gwybodaeth bellach am y darpariaethau trosiannol i’w gweld yn The Companies Act 2006 (Commencement Order No8 Transitional Provisions and Savings) Order 2008 (SI no. 2008/2860 C.126).

Mae ffurflenni Deddf 2006 yn gymwys i’r Deyrnas Unedig yn ei chrynswth, h.y. Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. I ffeilio o dan Ddeddf 1985, y ddeddfwriaeth gymwys yw Deddf Cwmnïau 1985 a Gorchymyn Gogledd Iwerddon 1986.

* Bydd y darpariaethau trosiannol hyn yn gymwys i Bartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig ond gyda’r ffurflenni cyfatebol ar gyfer partneriaethau o’r fath.

Y Ffurflen neu’r Ddogfen i’w Ffeilio Deddf 1985 Deddf 2006
*Cais Corffori
Rhoir gwybodaeth bellach am y Memorandwm Cymdeithasiad a’r Erthyglau Cymdeithasiad ar ddiwedd y tabl hwn.
Os caiff eich cais ei dderbyn ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen 10 a 12. Os caiff eich cais ei dderbyn ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen IN01.
Bydd unrhyw ffurflenni IN01 sy’n dod i law cyn y dyddiad hwn yn cael eu gwrthod.
*Cyfarwyddwr ac ysgrifennydd Os yw dyddiad y penodi, y terfynu penodiad neu’r newid manylion ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio’r Ffurflen 288a, 288b neu 288c briodol. Os yw dyddiad y penodi, y terfynu penodiad neu’r newid manylion ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio’r AP01, AP02, AP03, AP04, TM01, TM02, CH01, CH02, CH03 neu CH04 briodol.
*Ffurflen Flynyddol Os yw’r dyddiad diwallu ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen 363a. Os yw’r dyddiad diwallu ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen AR01.
Bydd ffurflenni blynyddol gyda dyddiad diwallu ar neu wedi 1 Hydref sy’n dod i law heb ffi yn cael eu gwrthod.
*Newid Cyfeiriad y Swyddfa Gofrestredig Os caiff y ffurflen ei llofnodi ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen 287. Os caiff y ffurflen ei llofnodi ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen AD01.
*Newid y Dyddiad Cyfeirnod Cyfrifeg Os caiff y ffurflen ei llofnodi ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen 225. Os caiff y ffurflen ei llofnodi ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen AA01.
Clustnodi Cyfrannau Os yw dyddiad y clustnodi ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen 88(2). Os yw dyddiad y clustnodi ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen SH01.
*Cais Diddymu Os caiff y ffurflen ei derbyn ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen 652a. Os caiff y ffurflen ei derbyn ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen DS01.
*Tynnu cais diddymu’n ôl Os caiff y ffurflen ei derbyn ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen 652c. Os caiff y ffurflen ei derbyn ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen DS02.
Ailgofrestru Os caiff eich cais ei dderbyn ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio ffurflenni priodol Deddf 85. Os caiff eich cais ei dderbyn ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio ffurflenni priodol Deddf 06.
*Morgais – Cofrestru Arwystl Os yw dyddiad creu’r arwystl ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen 395. Os yw dyddiad creu’r arwystl ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen MG01.
*Morgais - Cofrestru Arwystl mewn Cyfres o Ddyledebion Os caiff dyledeb gynta’r gyfres ei chyflawni ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen 397. Os caiff dyledeb gynta’r gyfres ei chyflawni ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen MG07.
*Morgais – Cofrestru Arwystl y caiff eiddo ei feddiannu o dano Os caiff yr eiddo ei feddiannu ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen 400. Os caiff yr eiddo ei feddiannu ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen MG06.
*Morgais – Bodloni Arwystl Os caiff y ffurflen ei derbyn ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen 403a. Os caiff y ffurflen ei derbyn ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen MG02.
*Morgais Albanaidd – Cofrestru Arwystl Os yw dyddiad creu’r arwystl ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen 410. Os yw dyddiad creu’r arwystl ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen MG01s.
* Morgais Albanaidd - Cofrestru Arwystl mewn Cyfres o Ddyledebion Os caiff dyledeb gynta’r gyfres ei chyflawni ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen 413. Os caiff dyledeb gynta’r gyfres ei chyflawni ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen MG07s.
* Morgais Albanaidd - Cofrestru Arwystl y caiff eiddo ei feddiannu o dano Os caiff yr eiddo ei feddiannu ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen 416. Os caiff yr eiddo ei feddiannu ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen MG06s.
* Morgais Albanaidd - Bodloni Arwystl Os caiff y ffurflen ei derbyn ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen 419a. Os caiff y ffurflen ei derbyn ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen MG02s neu MG03s.
Ffurflen MG02s y dylid ei defnyddio i fodloni arwystl sefydlog; mae Ffurflen MG03s yn ymwneud â bodloni arwystl nofiol.
*Gorchmynion Cyfrinachedd
Bydd deiliad Gorchymyn Cyfrinachedd Cyfredol sydd â gorchymyn mewn grym yn union cyn 30 Medi 2009 yn dod yn “fuddiolydd adran 243” o dan Ddeddf 06 ar 1 Hydref 2009
Os caiff eich cais am orchymyn cyfrinachedd ei dderbyn ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen 723B. Os caiff eich cais ei dderbyn ar neu wedi 1 Hydref 09, yna bydd yn gais o dan adran 243.  Gellir cael y ffurflen briodol drwy gyflwyno cais i’n canolfan cyswllt.
*Cofrestr aelodau neu gofrestr ddyledebwyr Os caiff y ffurflen ei derbyn ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio Ffurflen 353 neu 190. Caiff y gofyniad hwn ei adalw ar 1 Hydref 09 ac fe ystyrir bod pob cofrestr wedi dychwelyd i’r swyddfa gofrestredig.
*Lleoliad archwilio amgen ar gyfer cofnodion cwmni a phenderfyniadau Dyma ofyniad newydd os na chaiff cofnodion eich cwmni mo’u cadw ar gael i’w harchwilio yn swyddfa gofrestredig y cwmni. Ffurflen AD02 y mae’n rhaid ichi ei ffeilio ar neu wedi 1 Hydref 09.
* Lleoliad cofnodion cwmni a phenderfyniadau Dyma ofyniad newydd os na chaiff cofnodion eich cwmni mo’u cadw ar gael i’w harchwilio yn swyddfa gofrestredig y cwmni. Ffurflen AD03 neu AD04 y mae’n rhaid ichi ei ffeilio ar neu wedi 1 Hydref 09.
Cyfarfodydd/Penderfyniadau Cafodd darpariaethau Deddf 06 gyda golwg ar gyfarfodydd a phenderfyniadau eu gweithredu ar 1 Hydref 07.
Cafodd penderfyniadau drwy bleidlais eu dileu.  Byddwn yn eu cofrestru’n benderfyniadau arbennig os deuant i law ar neu cyn 30 Medi 09.
Gwrthodir penderfyniadau drwy bleidlais a gaiff eu ffeilio ar neu wedi 1 Hydref 09.
*Enwau Cwmni Mae ceisiadau Newid Enw sy’n dod i law ar neu cyn 30 Medi 09 yn cynnwys penderfyniad a’r ffi. Mae ceisiadau Newid Enw sy’n dod i law ar neu wedi 1 Hydref 09 yn cynnwys penderfyniad, y ffi a’r hysbysiad priodol (Ffurflenni NM01-NM05).
Memorandwm Os caiff eich cais corffori ei dderbyn ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio’r ‘hen’ Femorandwm Cymdeithasiad o dan Ddeddf 1985.
Rhaid i benderfyniad a fabwysiadwyd ar neu cyn 30 Medi 09 i ddiwygio’r memorandwm gael ei ffeilio gyda’r memorandwm diwygiedig.
Os caiff eich cais corffori ei dderbyn ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio’r Memorandwm Cymdeithasiad ‘newydd’ o dan Ddeddf 2006.
O 1 Hydref 09 ymlaen daw’r memorandwm yn ddogfen hanesyddol ac ni ellir mo’i ddiwygio.
Ar gyfer cwmnïau presennol caiff darpariaethau’r ‘hen’ femorandwm nad ydynt yn rhan o’r memorandwm ‘newydd’ eu trin yn awtomatig fel darpariaethau o dan yr erthyglau.
Erthyglau Os caiff eich cais corffori ei dderbyn ar neu cyn 30 Medi 09, rhaid ichi ddefnyddio’r ‘hen’ Erthyglau o dan Ddeddf 1985.
Rhaid i benderfyniad a fabwysiadwyd ar neu cyn 30 Medi 09 i ddiwygio’r erthyglau gael ei ffeilio gyda’r erthyglau diwygiedig.
Os caiff eich cais corffori ei dderbyn ar neu wedi 1 Hydref 09, rhaid ichi ddefnyddio’r Erthyglau ‘newydd’ o dan Ddeddf 2006.
Ar gyfer cwmnïau presennol rhaid i unrhyw erthyglau a gaiff eu ffeilio yn sgil penderfyniad a fabwysiadwyd ar neu wedi 1 Hydref 09 gynnwys darpariaethau’r memorandwm nad ydynt wedi’u hymgorffori yn y memorandwm ‘newydd’ (h.y. manylion tanysgrifwyr).
Brig
Ein polisi ar gwcis