|
|
Cwestiynau Cyffredin am Ffeilio Eilwaith Beth yw ‘Ffeilio Eilwaith’ (Ffurflenni RP04 ac LL RP04)? Mae ‘Ffeilio Eilwaith’ yn gyfleuster newydd sy’n galluogi cwmnïau a Phartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) i ailgyflwyno ffurflenni penodol oedd wedi cael eu cofrestru ynghynt gan y cofrestrydd ond oedd â gwybodaeth anghywir ynddynt. Er enghraifft, dyddiad geni anghywir ar hysbysiad penodi cyfarwyddwr (Ffurflen AP01) ac ati. Sut ydw i’n Ffeilio ffurflen Eilwaith? Gwneir hyn trwy ailgyflwyno ffurflen wedi’i llenwi’n llawn (fersiwn wedi’i chywiro o’r ffurflen wreiddiol oedd â gwybodaeth anghywir ynddi), ynghyd â Ffurflen RP04 (ar gyfer cwmnïau) neu Ffurflen LL RP04 (ar gyfer PAC) ynghlwm wrthi. Rhaid i ffurflen RP04 neu ffurflen LL RP04 ar wahân fod ynghlwm wrth bob ffurflen sy’n cael ei ffeilio eilwaith. Fydd y ffurflen wreiddiol â’r wybodaeth anghywir ynddi’n cael ei thynnu o’r gofrestr? Na fydd. Bydd y wybodaeth a’r ffurflen anghywir wreiddiol yn aros ar y gofrestr am gyfnod amhenodol, neu hyd nes y gwneir cais llwyddiannus i’w chywiro naill ai trwy orchymyn llys neu drwy gais i’r Cofrestrydd. Fodd bynnag, bydd manylion y cwmni neu’r PAC sydd wedi’u cofnodi ar systemau Tŷ’r Cwmnïau yn cael eu cywiro a bydd pobl sy’n chwilio hefyd yn gallu gweld y ddogfen wedi’i chywiro sydd wedi cael ei ‘Ffeilio Eilwaith’ (yn ogystal â’r ffurflenni RP04 neu LL RP04 sy’n cyd-fynd â hi). Bydd hyn hefyd yn esbonio beth sydd wedi digwydd. Pryd fydd y cyfleuster ffeilio eilwaith ar gael? Roedd y cyfleuster ‘Ffeilio Eilwaith’ ar gael ar 6 Ebrill 2011 Pa ffurflenni a ellir eu ‘Ffeilio Eilwaith’? Ar gyfer cwmnïau:
Ar gyfer PAC:
A oes unrhyw gyfyngiadau eraill? Oes. Dim ond ffurflenni yr oedd ynddynt wybodaeth anghywir a oedd wedi cael eu cyflwyno’n gywir pan gawsant eu ffeilio’n wreiddiol y gellir eu ‘Ffeilio Eilwaith’. Lle nad oedd y ffurflen neu’r ddogfen wreiddiol wedi cael ei chyflwyno’n gywir mae’n bosibl y bydd modd rhoi un arall yn ei lle trwy ei hailgyflwyno ynghyd â ffurflen RP01 neu LL RP01. Hefyd rhaid bod y ffurflen wreiddiol wedi cael ei chyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 (ar neu ar ôl 1 Hydref 2009), h.y. ar un o’r mathau o ffurflen a restrir uchod. Beth os oes angen i mi ddiwygio ffurflen a ffeiliwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 1985? Bydd arfer Tŷ’r Cwmnïau o dderbyn ffurflenni ‘Diwygio’ yn parhau mewn perthynas â rhai dogfennau Deddf Cwmnïau 1985 (a Gorchymyn 1986 mewn perthynas â Gogledd Iwerddon); er enghraifft, mewn perthynas â ffurflenni 288A a 88(2) ac ati. Unwaith eto, fodd bynnag, lle caiff ffurflen ‘Diwygio’ ei chyflwyno i’r cofrestrydd bydd y ffurflen wreiddiol yn aros ar y gofrestr gyhoeddus. A oes unrhyw fwriad i ehangu’r cyfleuster hwn i gynnwys mwy o fathau o ffurflenni? Rydym wedi dewis y ffurflenni hyn yn fwriadol gan mai hwy yw’r ffurflenni ar gyfer cwmnïau a PAC a ddefnyddir amlaf. Fodd bynnag, ar ôl i’r cyfleuster newydd hwn fod yn weithredol am gyfnod, byddwn wedyn yn ystyried sut mae’n gweithio ac efallai’n ystyried ehangu’r mathau o ffurflenni y gellir eu ‘Ffeilio Eilwaith’ rywbryd yn y dyfodol. A gaf i ffeilio ffurflen eilwaith yn electronig? Na chewch. Er bod modd ffeilio llawer o’r ffurflenni hyn yn electronig y tro cyntaf, rhaid i ffurflen sy’n cael ei ‘Ffeilio Eilwaith’ a’r ffurflen RP04 neu LL RP04 sydd ynghlwm wrthi gael eu cyflwyno ar bapur. Fodd bynnag, os yw’ch cwmni wedi’i gofrestru ar gyfer PROOF rhaid i chi hefyd ffeilio ffurflen PR03 gyda’r ffurflen RP04 a’r ffurflen sy’n cael ei ‘Ffeilio Eilwaith’. Gellir cael ffurflen PR03 trwy ffonio 0303 1234 500. Oes rhaid talu ffi? Nac oes. Yr unig ddogfen y codir ffi amdani y gellir ei ‘Ffeilio Eilwaith’ ar hyn o bryd yw’r Ffurflen Flynyddol. Fodd bynnag, gan mai ffi flynyddol yw’r ffi hon, pan fo Ffurflen Flynyddol yn cael ei ‘Ffeilio Eilwaith’ nid oes rhaid ei thalu eto (h.y. oni chafodd y Ffurflen Flynyddol a ffeiliwyd yn wreiddiol ei chyflwyno heb ffi). A gaf i ffeilio ffurflen eilwaith a gwneud cais i’r ffurflen wreiddiol anghywir gael ei thynnu o’r gofrestr yn weinyddol? Os yw ffurflen sy’n cael ei ‘Ffeilio Eilwaith’ yn cael ei chofrestru nid yw’n caniatáu ar gyfer tynnu’r ffurflen wreiddiol (na gwybodaeth anghywir a geir ynddi) o’r gofrestr. Fodd bynnag, gan ddibynnu ar y math o wybodaeth a’r ffurflen ei hun, yn ogystal â’r rheswm am yr hyn oedd yn anghywir yn y ffurflen wreiddiol, mae’n bosibl y bydd modd gwneud cais am gywiro (tynnu) y wybodaeth neu’r ffurflen o dan orchymyn llys neu drwy gais i’r cofrestrydd ( RP02A neu RP02B ar gyfer cwmnïau ac LL RP02A neu LL RP02B ar gyfer PAC). Ydi’n ofynnol i mi ysgrifennu “diwygiedig” neu “diwygio” ar ben dogfen sy’n cael ei hail-ffeilio? Nac ydi, ni ddylech ysgrifennu “diwygiedig” na “diwygio” ar ben y ddogfen sy’n cael ei hail-ffeilio. Caiff y ddogfen ei gosod ar ein systemau ynghyd â chopi o’r RP04/LL RP04 yr ydych wedi’i chyflwyno ynghyd â hi. Bydd hyn yn ei nodi i bobl sy’n chwilio amdani fel dogfen sy’n cael ei hail-ffeilio. Cofiwch, yn y dyfodol mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod dogfennau sy’n cael eu hail-ffeilio â’r gair “diwygiedig” neu "diwygio" wedi’i nodi arnynt. |
||