|
|
Ffeilio Eilwaith - Ffurflenni RP04 ac LL RP04 O 6 ed Ebrill 2011 ymlaen bydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu gwasanaeth newydd a fydd yn galluogi cwsmeriaid i gyflwyno ffurf arall (a elwir ‘Ffeilio Eilwaith’), o ffurflenni penodol a gyflwynwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 (lle bo’r ffurflen wreiddiol wedi cael ei chyflwyno ar neu ar ôl 1 Hydref 2009) oedd â gwallau ynddynt. Er enghraifft, os oedd dyddiad geni anghywir wedi cael ei gofrestru ynghynt ar “hysbysiad penodi cyfarwyddwr” (Ffurflen AP01) yna gellid ‘Ffeilio Eilwaith’ ffurflen AP01 arall gyda’r dyddiad geni cywir arni. Fodd bynnag, rhaid cyflwyno naill ai ffurflen RP04 neu ffurflen LL RP04 gyda’r ffurflen sy’n cael ei Ffeilio Eilwaith. Bydd arfer Tŷ’r Cwmnïau o dderbyn ffurflenni “Diwygio” yn parhau mewn perthynas â dogfennau Deddf Cwmnïau 1985 a Gorchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986 a’r rheiny a gyflwynwyd cyn 1 Hydref 2009. Dim ond ar bapur y gellir cyflwyno dogfennau ‘Ffeilio Eilwaith’ a dogfennau ‘Diwygio’. Ni cheir Ffeilio ffurflen Eilwaith ond os oedd y ffurflen wreiddiol wedi cael ei chyflwyno a’i chofrestru’n gywir a lle bo gwallau o hyd ar y ffurflen a’r gofrestr. Lle nad oedd y ffurflen wreiddiol wedi’i chyflwyno’n gywir mae’n bosibl y gellir ffeilio dogfen arall yn ei lle os cyflwynir ffurflen RP01 gyda hi. D.S. – Os bydd ffurflen ‘Ffeilio Eilwaith’ yn cael ei chofrestru nid yw hyn yn galluogi Tŷ’r Cwmnïau i dynnu’r ffurflen wreiddiol (na’r wybodaeth anghywir a geir ynddi) yn weinyddol. Ar gyfer cwmnïau bydd angen i ffurflen RP04 gael ei chyflwyno gyda phob ffurflen sy’n cael ei ffeilio eilwaith ac ar gyfer partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC) bydd angen i ffurflen LL RP04 gael ei chyflwyno gyda phob ffurflen sy’n cael ei ffeilio eilwaith. Dim ond ar gyfer un o’r ffurflenni isod y gallwch cyflwyno ‘Ffeilio Eilwaith: Cwmnïau:
Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC):
Gellir cael mwy o wybodaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.
|
||