|
Os dymunwch wybodaeth am gwmnïau gweler Dod o hyd i wybodaeth am gwmni
Sut ydw i’n cyrchu gwybodaeth nad yw ar gael drwy Gynhyrchion a Gwasanaethau Tŷ’r Cwmnïau?
Dilynwch y cynghorion isod i sicrhau bod eich cais am wybodaeth yn cael ei drin mor fuan ac esmwyth â phosib.
Cyn gofyn am wybodaeth
I gyflymu’ch ymholiad, edrychwch i gael gweld a yw’r wybodaeth a geisiwch eisoes ar ein gwefan:
Sut i ofyn am wybodaeth
Os na welwch yr wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Hawliau Gwybodaeth drwy lythyr neu e-bost. I’n helpu i ddelio â’ch ymholiad, gofalwch:
- e-bostio neu ysgrifennu at y Tîm Hawliau Gwybodaeth yn y cyfeiriad isod
- dweud yn glir wrthym pa wybodaeth a ddymunwch
- cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad post neu gyfeiriad e-bost
Tîm Hawliau Gwybodaeth, Tŷ’r Cwmnïau, Ffordd y Goron, Caerdydd, CF14 3UZ
Teleffon 029 2038 0616
Ffacs: 029 2038 0149
Email: informationrights@companieshouse.gov.uk
A oes terfyn amser i Dŷ’r Cwmnïau ateb i’m cais?
O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, rhaid i ni ateb eich cais am wybodaeth cyn pen 20 diwrnod gwaith.
O dan y Ddeddf Diogelu Data, rhaid i ni ateb eich cais am wybodaeth cyn pen 40 diwrnod calendr.
A fydd Tŷ’r Cwmnïau bob tro yn rhoi’r wybodaeth i mi y byddaf yn gofyn amdani?
Rhaid dadlennu gwybodaeth oni bai bod rheswm cyfreithiol da dros beidio â gwneud hynny. Os ydym yn gwrthod rhoi gwybodaeth i chi, yna rhaid i ni egluro pam. Mae peth gwybodaeth yn eithriedig o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Ddeddf Diogelu Data am nifer o resymau. Am ragor o wybodaeth am eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth hon, gweler Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
A fyddaf yn gorfod talu am y wybodaeth?
O dan diogelu data, mae’r hawl gan y mwyafrif o sefydliadau godi tâl hyd at uchafswm o £10.
O dan rhyddid gwybodaeth, darperir y wybodaeth yn ddi-dâl yn y mwyafrif o achosion, ond gellir codi tâl am rai costau megis llungopïo a chostau postio.
Mae’n bosibl y codir tâl am wybodaeth y mae Tŷ’r Cwmnïau eisoes yn ei rhyddhau drwy ei gynnyrch a’i wasanaethau.
Cwynion
Gall unrhyw un nad yw’n fodlon ar yr ymateb i’w gais wneud cwyn neu geisio adolygiad o’n hymateb drwy ysgrifennu at y Tîm Hawliau Gwybodaeth o fewn dau fis calendr i’r ymateb. Caiff yr adolygiad ei gynnal gan uwch-aelod o Dŷ’r Cwmnïau na chwaraeodd ran flaenorol yn yr achos. Os na fyddwch wedyn yn fodlon ar ganlyniad eich cwyn, gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sy’n gorfodi ac yn goruchwylio’r Deddfau Rhyddid Gwybodaeth a Gwarchod Data, am ddyfarniad. At ei gilydd, ni all yr ICO roi dyfarniad nes ichi ddisbyddu’n trefn gwyno ni. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: The Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire SK9 5AF.
|