|
|
Siarter Wybodaeth Tŷ’r CwmnïauMae’r Siarter Wybodaeth hon yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gan Dŷ’r Cwmnïau pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n ei chadw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddata personol amdanoch chi. Mae’r siarter yn cynnwys data personol a gwybodaeth arall mae’r Cofrestrydd Cwmnïau’n ei chadw mewn cysylltiad â’i rwymedigaethau o dan y Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth gysylltiedig. Caiff y siarter hon ei hadolygu bob blwyddyn a’i diweddaru i gymryd i ystyriaeth unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth a pholisïau. Mae angen inni drin gwybodaeth bersonol amdanoch fel y gallwn roi gwasanaethau i chi ac i’r cyhoedd. Dyma sut y byddwn yn gofalu am yr wybodaeth honno: Prif swyddogaethau Tŷ’r Cwmnïau yw:
Bydd Tŷ’r Cwmnïau hefyd yn cyflawni swyddogaethau wedi’u dirprwyo ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, er enghraifft gorfodi cyflwyno cyfrifon blynyddol a ffurflenni blynyddol; cyfarwyddo cwmnïau i newid eu henw lle mae hwnnw’n debyg i rai sydd eisoes ar y cofnod cyhoeddus, etc. Wrth gynnal a gweinyddu’r gofrestr gyhoeddus, byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol am unigolion o dan gategorïau data cyhoeddus ac anghyhoeddus. Wrth drin y wybodaeth hon, byddwn yn gwneud hynny mewn modd sy’n parchu hawliau unigolion ac sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol megis y Ddeddf Cwmnïau a Deddf Diogelu Data 1998. Data Cyhoeddus Yn unol â’r Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth gysylltiedig, byddwn:
Data anghyhoeddus Pan fyddwn yn ceisio gwybodaeth bersonol gennych, addawn:
Yn gyfnewid, gofynnwn i chithau:
Cysylltwch â’r Tîm Hawl i Wybodaeth i gael mwy o wybodaeth am:
E-bost informationrights@companieshouse.gov.uk
E-bost: jwalters@companieshouse.gov.uk Am gyngor annibynnol ynghylch gwarchod data, preifatrwydd a materion rhannu data, gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Wycliffe House, Gwefan: www.ico.gov.uk
|
||