Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan
Gwasanaeth Cymraeg
Hafan | Cysylltu â ni | English  
 

Hawliau Gwybodaeth


Cynllun Cyhoeddi

Cewch weld pa fathau o wybodaeth y byddwn yn eu cyhoeddi’n rheolaidd drwy edrych ar ein Cynllun Cyhoeddi.
Mae’r cynllun cyhoeddi yn rhestr o’r holl wahanol fathau o wybodaeth y byddwn yn eu cyhoeddi, gyda manylion am sut y gallwch eu cael ac a yw’r wybodaeth yn rhad ac am ddim neu a oes rhaid talu.

Mae’r cynllun yn sicrhau bod mesur helaeth o wybodaeth ar gael heb i aelodau’r cyhoedd orfod gwneud niferoedd o geisiadau penodol o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Rydym wedi rhannu’r wybodaeth a gyhoeddwn i’r dosbarthiadau canlynol:

Mae’r cynllun ar ddiwyg PDF (ar gael i’w ddadlwytho o dan Adobe Acrobat). Os na allwch gyrchu’r fersiwn PDF gellir cael copi caled gan y Tîm Hawliau Gwybodaeth.

Cliciwch yma i weld neu ddadlwytho’r Cynllun Cyhoeddi llawn(PDF 132K)