|
|
Cyfarwyddiadur DVDCyfeiriadur DVD-ROMMae'r Cyfeiriadur DVD ROM yn cynnwys manylion sylfaenol dros 3 miliwn o gwmnïau byw a gofrestrwyd yng Nghymru, Lloegr, YrAlban a Gogledd Iwerddon ynghyd â chwmnïau sydd wedi’u diddymu yn ystod y mis diwethaf. Fe allwch chi chwilio’r DVD hefyd, gan gyfuno hyd at 6 chwiliad. Y dewisiadau wrth chwilio yw enw’r cwmni, rhif y cwmni, llinellau cyfeiriad y swyddfa gofrestredig, côd post, dyddiad corffori neu amrediad o ddyddiadau, Codau SIC(03) neu ddisgrifiad, math o gwmni, statws y cwmni neu fath o gyfrifon. Cynhyrchir cyfaeiriadur bob mis a gallwch brynu un copi am £30 neu danysgrifiad blwyddyn am £300. Mae copïau ar gael o Ganolfannau Gwybodaeth Tŷ'r Cwmnïau, neu gallwch brynu DVD ROM dros y ffôn oddi wrth Ganolfan Cysylltu Tŷ'r Cwmnïau ar (0)303 1234 500. Rheolir y cyfeiriadur DVD Rom am chwe mis o'r dyddiad prynu, ni fydd y data ar gael i chi ar ôl i'r cyfnod hwnnw ddod i ben. Sylwch nad yw’r Cyfeiriadur DVD-ROM yn dangos manylion trosiant blynyddol, rhifau ffôn na manylion y cyfarwyddwyr. Ni ellir allfudo’r wybodaeth a ddangosir, ond rydym yn darparu fersiwn unigol o’r cyfeiriadur gyda ffeiliau y gellir eu hallfudo am £1,000. Y nifer fwyaf o ganlyniadau y gellir eu hallfudo ar unrhyw adeg yw 30,000. Am wybodaeth bellach neu ymholiadau ynghylch y DVD ROM, ffoniwch (0)303 1234 500 neu e-bostiwch enquiries@companies-house.gov.uk Cyfeiriadur DVD-ROM - Mynegai o Gwmnïau sydd wedi newid eu Henw ac sydd wedi YmddatodMae'r Mynegai o Gwmnïau sydd wedi Newid eu Henw ac sydd wedi Ymddatod ar DVD Rom yn cynnwys gwybodaeth am dros 3 miliwn o gwmnïau yn Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd wedi newid eu henwau neu wedi ymddatod yn ystod y 24 o flynyddoedd diwethaf. Ar y DVD Rom gallwch chwilio yn ôl rhif cwmni, enw cwmni, math o gwmni, statws cwmni, newid enw, dyddiad ymddatod/cau a llinellau cyfeiriad gan gynnwys; Llinellau cyfeiriad trwy law (C/O), rhifau Swyddfa Bost (P/O) a Chodau Post. Mae'r wybodaeth yn cael ei diweddaru bob blwyddyn a gellir prynu DVD Rom am £30. Gellir cyrchu'r wybodaeth am gyfnod penagored. Mae'n addas ar gyfer cyfrifiaduron sy'n defnyddio Windows a rhaid gosod Internet Explorer fel prif borwr rhagosodedig y cyfrifiadur. Gallwch brynu DVD-Rom dros y ffôn oddi wrth Ganolfan Cysylltu Tŷ’r Cwmnïau ar (0)303 1234 500. Nid yw'r cynnyrch hwn yn gytûn â chyfrifiaduron AppleMac. Sylwch nad yw’r Cyfeiriadur DVD-ROM yn dangos manylion trosiant blynyddol, rhifau ffôn na manylion y cyfarwyddwyr. Ni ellir allfudo’r wybodaeth a ddangosir. Am wybodaeth bellach neu ymholiadau ynghylch y DVD ROM, ffoniwch (0)303 1234 500 neu e-bostiwch enquiries@companies-house.gov.uk |
|