Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
Mae amser yn mynd yn brin: Terfyn Amser Ffeilio Cyfrifon 30 Medi 2013

Mae amser yn mynd yn brin: Terfyn Amser Ffeilio Cyfrifon 30 Medi 2013

Mae'n rhaid i fwy na 300,000 o gwmnïau cofrestredig ffeilio eu cyfrifon dim hwyrach na dydd Llun 30 Medi 2013. Os ydych chi'n un ohonyn nhw, peidiwch â'i gadael tan y funud olaf ac wynebu perygl cosb - ffeiliwch yn gynnar a ffeiliwch ar lein.

Peidiwch ag oedi, ffeiliwch eich cyfrifon ar-lein heddiw

Os ydych chi'n ffeilio'ch cyfrifon ar lein cyn y terfyn amser  byddwch yn dawel eich meddwl eu bod wedi dod i law ac wedi cael eu cofrestru. Bydd ein gwasanaeth WebFiling yn anfon neges e-bost atoch yn cadarnhau eu bod wedi dod i law ac un arall yn cadarnhau eu bod wedi'u cofrestru.

Gall ffeilio cyfrifon ar lein gymryd cyn lleied â 15 munud o'r dechrau i'r diwedd, felly pam trafferthu gyda phapur, amlenni, llythyrau esboniadol a'r ansicrwydd ychwanegol ynghylch a fydd y cyfrifon yn cyrraedd yn brydlon.

Er y gall ffeilio cyfrifon ar lein fod yn gynt ac yn haws, peidiwch â'i gadael tan y funud olaf.

Ffeiliwch ar lein - i osgoi gwrthodiadau

Os ydych chi'n ffeilio'ch cyfrifon ar lein cewch osgoi gwrthodiadau gan ddefnyddio'r gwiriadau sy'n rhan o'r broses i sicrhau bod eich cyfrifon yn bodloni'r gofynion.

Mae'n bosibl y bydd angen i gyfrifon a gyflwynir gael eu gwirio â llaw a dim ond yn ystod oriau swyddfa mae hyn yn cael ei wneud. Gallai fod yn rhy hwyr i osgoi cosb os caiff eich cyfrifon eu gwrthod a bod angen eu hailgyflwyno. Ffeiliwch ar lein gryn dipyn cyn y dyddiad cau er mwyn caniatáu digon o amser i ymdrin â gwrthodiad pe bai hynny'n digwydd.

ffeilo'ch cyfrifon ar-lein


Argaeledd gwasanaethau ar-lein

Mae ein gwasanaethau ar-lein ar gael 24/7, ond dylech wirio bod eich cwmni wedi'i gofrestru ar gyfer WebFiling a bod y cyfrifon rydych eisiau eu ffeilio wedi'u galluogi ar y gwasanaeth. Bydd angen cod dilysu cwmni i ffeilio ar lein arnoch, felly gadewch ddigon o amser iddo gyrraedd trwy'r post i gyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni.

Nid yw ffeilio cyfrifon ar lein ar gael eto i:

  • gwmnïau bach sydd eisiau ffeilio cyfrifon cryno gydag adroddiad archwilio ariannol arbennig
  • cwmnïau canolig sy'n manteisio ar eithriadau rhag datgelu
  • Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)
  • Cwmnïau Buddiant Cymunedol (CBC)
  • Cwmnïau sy'n paratoi cyfrifon IFRS

Ffeilio cyfrifon ar bapur yn gynnar

Mae cyfrifon sy'n cael eu ffeilio ar bapur angen gwiriadau â llaw na chânt eu cyflawni ond yn ystod oriau swyddfa. Ni fernir bod cyfrifon ar bapur wedi'u ffeilio hyd nes y dônt i law mewn ffurf dderbyniol.

Os caiff cyfrifon a gyflwynir yn agos at y dyddiad cau eu gwrthod i'w diwygio (Saesneg), mae'n bosibl na fydd digon o amser i'w diwygio a'u dychwelyd. Gosodir cosb o hyd os yw'r cyfrifon a ailgyflwynir yn dod i law ar ôl y dyddiad cau. Dylech ffeilio'n gynnar a chaniatáu amser ar gyfer hyn.

Dim ond yn ein swyddfa yng Nghaerdydd y mae staff ar gael i dderbyn dogfennau. Mae yna gyfleusterau blwch llythyrau yn Llundain ** a Chaeredin, ond nid yn Belfast.

Rhaid i gyfrifon gael eu cyflwyno mewn fformat derbyniol i Dŷ'r Cwmnïau ar neu cyn y dyddiad dyledus. Ni dderbynnir oedi cludo fel esgus dros gyflwyno hwyr, a hyd yn oed os cyflwynir cyfrifon ddiwrnod yn hwyr caiff cosb ei gosod.

** Mae ein swyddfa yn Llundain wedi symud o Bloomsberry Street a does dim cyfleusterau i anfon post ymlaen
Brig
Ein polisi ar gwcis