Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Canllawiau ar osgoi gwrthod ffurflenni cyfalaf cyfrannau SH03, SH06, SH14 ac SH05

Pa un ydych chi’n lleihau cyfalaf cyfrannau neu’n clustnodi cyfrannau newydd, bwriwch olwg ar y rhesymau mwyaf cyffredin pam y mae Tŷ’r Cwmnïau’n gwrthod ffurflenni cyfalaf cyfrannau a’r hyn y gallwch ei wneud i’w ffeilio’n gywir y tro cyntaf. Sylwer, mae’r ffurflenni ar gael yn Saesneg yn unig.

Canllawiau manylach ar gyfalaf cyfrannau

SH03 – Ffurflen prynu ei gyfrannau ei hun
(rheswm dros ei gwrthod: gadael allan y dyddiad y daeth y cyfrannau i law’r cwmni)

Mae mwy na 50% oherwydd bod y ‘Dyddiad y daeth y cyfrannau i law’r cwmni’ (Adran 2) wedi’i adael allan

Rhowch i mewn y ‘Dyddiad y daeth y cyfrannau i law’r cwmni’ (Adran 2)

SH03 - Ffurflen prynu ei gyfrannau ei hun
(rheswm dros ei gwrthod: gadael allan stamp Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) neu ardystiad)

Mae mwy na 25% o’r gwrthodiadau oherwydd nad yw’r ffurflen wedi cael ei stampio gan CThEM neu ei hardystio

Os yw’r trafodyn yn werth mwy na £1,000 rhaid i’r ffurflen gael ei stampio gan CThEM (yn Adran 2) cyn ei ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau.

NEU os nad yw stamp gan CThEM yn ofynnol...

Os nad yw’r trafodyn yn werth mwy na £1,000 ticiwch y blwch yn Adran 4 (Nid yw stamp gan CThEM yn ofynnol).

SH06 – Hysbysiad am ganslo cyfrannau
(rheswm dros ei gwrthod: Manylion Rhagnodedig annigonol)

Mae 35% o’r gwrthodiadau oherwydd y rhoddwyd Manylion Rhagnodedig annigonol

Rhowch y Manylion Rhagnodedig yn y Datganiad o Gyfalaf (adran 7). Os nad ydych yn siŵr beth i’w ddarparu, darllenwch Beth yw Manylion Rhagnodedig?

SH014 – Hysbysiad newid arian cyfred
(rheswm dros ei gwrthod – ffurflen wedi’i defnyddio’n anghywir)

Mae’r holl wrthodiadau oherwydd bod y ffurflen wedi cael ei defnyddio at y diben anghywir, fel defnyddio Ffurflen SH14 yn anghywir i gofrestru isrannu (punnoedd i geiniogau) neu gyfuno cyfalaf cyfrannau.

Defnyddiwch Ffurflen SH14 dim ond i newid arian cyfred cyfalaf cyfrannau cwmni (e.e. doleri i bunnoedd).

Nodyn: os ydych chi eisiau isrannu neu gyfuno cyfalaf cyfrannau cwmni, defnyddiwch Ffurflen SH02.

SH05 – Hysbysiad canslo cyfrannau trysorfa gan CCC
(rheswm dros ei gwrthod – mae’r swm i’w ganslo’n fwy na’r swm a ddelir yn y Drysorfa annigonol)

Mae 50% o’r gwrthodiadau oherwydd swm y ‘cyfrannau Trysorfa i gael eu canslo’ yn fwy na’r swm cyfan a ddelir eisoes yn y Drysorfa.

Sicrhewch y rhoddir y swm cywir ar Ffurflen SH05 (Adran 2) a bod Ffurflen(ni) SH03 wedi cael ei/eu ffeilio ynghynt gyda swm cywir y cyfrannau a ddelir yn y Drysorfa (a brynwyd i’r Drysorfa).

SH05 – Hysbysiad canslo cyfrannau trysorfa gan CCC
(rheswm dros ei gwrthod - Manylion Rhagnodedig annigonol)

Mae 50% o’r gwrthodiadau oherwydd y rhoddwyd Manylion Rhagnodedig annigonol

Rhowch y Manylion Rhagnodedig yn y Datganiad o Gyfalaf (adran 6). Os nad ydych yn siŵr beth i’w ddarparu, darllenwch Beth yw Manylion Rhagnodedig?

Brig
Ein polisi ar gwcis