Enwau Cwmnia Nodau Masnach
Er mwyn helpu ein cwsmeriaid i osgoi unrhyw amheuaeth ynghylch y swyddogaethau mae Tŷ'r Cwmnïau a'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn eu cyflawni o ran enwau cwmni a nodau masnach, mae'r tabl isod yn egluro swyddogaethau'r ddwy swyddfa.
| Beth mae'r Swyddfa Eiddo Deallusol yn ei wneud |
Beth mae Tŷ'r Cwmnïau'n ei wneud |
| Ymdrin â cheisiadau i gofrestru nodau masnach fel enwau, logos, lluniau ac ati a ddefnyddir gan fasnachwyr i geisio sicrhau bod y cyhoedd yn adnabod eu cynnyrch neu wasanaethau penodol hwy. |
Ymdrin â cheisiadau i gofrestru enwau cwmnïau, partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig a sefydliadau eraill sy'n cofrestru o dan y Ddeddf Cwmnïau ac sy’n ymddangos ar fynegai'r cofrestrydd. |
Gwirio bod eich nod masnach yn bodloni rhestr o ofynion cyfreithiol, gan gynnwys:
- A yw'n hawdd ei adnabod?
- A yw'n disgrifio'r nwyddau neu'r gwasanaethau?
- A yw'n dramgwyddus?
|
Gwirio nad yw enw arfaethedig y sefydliad yn 'dramgwyddus', yn awgrymu cysylltiad â llywodraeth neu'n cynnwys gair cyfyngedig, sensitif. |
| Gwirio a yw'r un nod neu nod tebyg wedi'i gofrestru eisoes gan rywun arall. |
Gwirio a yw enw arfaethedig y sefydliad 'yr un peth' ag unrhyw sefydliad cofrestredig arall sy'n bodoli ac sy’n ymddangos ar y mynegai.
|
| Cyhoeddi'r nod er mwyn caniatáu i eraill wrthwynebu'r cofrestriad ar sail gyfreithiol benodol. |
Cyhoeddi tystysgrif sy'n cadarnhau'r cofrestriad. |
| Mae nodau derbyniol yn cael eu hychwanegu at y gofrestr nodau masnach. |
Mae enwau cofrestredig yn cael eu hychwanegu at y gofrestr gwmnïau sydd ar gael i'r cyhoedd. |
|