Ymgorffori Cwmni Newydd – furflenni papur
Gellir corffori cwmnïau yn uniongyrchol â Thŷ ‘r Cwmnïau gan ddefnyddio ffurflen bapur.
Er mwyn corffori cwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau neu drwy warrant, neu Gwmni Cyhoeddus Cyfyngedig, bydd rhaid anfon y 3 dogfen canlynol:
- Y Ffurflen IN01c Cais am gofrestru cwmni
- Memorandwm Cymdeithasiad* (gyda chyfalaf cyfrannau neu
heb gyfalaf cyfrannau)
Mae hwn yn gynnwys enwau a llofnodion y tanysgrifwyr sy’n cadarnhau eu bwriad i ffurfio cwmni ac mewn achos cwmni cyfyngedig trwy gyfrannau, rhaid i bob tanysgrifiwr cytuno â derbyn o leiaf un gyfran.
- Erthyglau Cymdeithasiad
Mae’r erthyglau’n gynnwys manylion materion rheolaeth mewnol y cwmni, rhediad ac atebolrwydd y cwmni – llyfr rheolau’r cwmni. Gall cwmni ddewis defnyddio’r Erthyglau Enghreifftiol safonol. Yn yr achos hwnnw, nid oes angen eu ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau.
Canllawiau defnyddiol ar gwblhau eich ffurflen IN01c a sut i osgoi ‘ch cais cael ei gwrthod.
Cwblhewch y dogfennau uchod a’u dychwelyd ynghyd â’r ffi** berthnasol i:
Adran Cwmnïau Newydd
Tŷ’r Cwmnïau, Ffordd y Goron, Caerdydd CF14 3UZ
Companies House 4 Abbey Orchard Street, Westminster, London SW1P 2HT
Companies House 4th Floor Edinburgh Quay 2, 139 Fountain bridge, Edinburgh EH3 9FF
Companies House Belfast 2nd Floor The Linenhall, 32-38 Linenhall Street, Belfast BT2 8BG
** Y ffioedd ar gyfer corffori ar bapur:
- £40 yw ffi’r gwasanaeth safonol – bydd y dogfennau yn cael eu prosesu mewn 8 i 10 diwrnod
- £20 yw ffi’r gwasanaeth safonol ar gyfer cwmni Cymreig sy’n cyflwyno dogfennau yn y Gymraeg – bydd y dogfennau yn cael eu prosesu mewn 8 i 10 diwrnod
- £100 yw ffi’r gwasanaeth yr un diwrnod- rhaid i’r dogfennau dod i law cyn 15.00 o’r gloch (rhaid marcio’r amlen CORFFORI YR UN DIWRNOD)
Dolennau defnyddiol eraill :
|