Canllaw ar gwblhau’ch cais corffori
I osgoi cael gwrthod eich cais corffori papur, cwblhewch yr holl adrannau angenrheidiol ar y ffurflen.
Rhowch sylw penodol i’r prif resymau yr ydym yn gwrthod ceisiadau, a darllenwch y canllaw isod ar sut i’w hosgoi.
I’w chael yn iawn y tro cyntaf - mae’n haws ac yn gynt corffori cwmni’n electronig......
Gellir corffori cwmni preifat wedi’i gyfyngu trwy gyfrannau, sydd ag erthyglau enghreifftiol, trwy’r Gwasanaeth Corffori ar y We neu gallwch ddefnyddio Asiant Ffurfio Cwmnïau i gorffori unrhyw fath o gwmni a rhoi cyngor arbenigol i chi.
Prif resymau dros wrthod dogfennau:
- Nid oes memorandwm cymdeithasiad neu nid yw wedi’i ddyddio
Dogfen syml yw hon sy’n cynnwys enw’r cwmni, y tanysgrifwyr a’r dyddiad. I’ch helpu, mae gennym dempledi memorandwm cwmni a chanddo gyfalaf cyfrannau a memorandwm cwmni heb gyfalaf cyfrannau.
- Mae terfyniad enw’r cwmni’n annilys neu nid oes terfyniad
Yn y maes enw’r cwmni, rhaid i chi gynnwys y terfyniad enw priodol, megis Limited neu Ltd. Hefyd, rhaid i chi sicrhau, wrth ddewis math o gwmni yn adran A4, bod y terfyniad enw priodol yn cael ei gynnwys wedyn yn adran A1. Er enghraifft, ni allwch gael terfyniad enw ‘PLC’ i gwmni preifat wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau, ac i’r gwrthwyneb.
- Mae enw’r cwmni’n dyblygu enw sydd eisoes ar y gofrestr
Os bernir bod enw cwmni yr un peth ag enw sydd eisoes ar y gofrestr, bydd yn cael ei wrthod. Defnyddiwch y cyfleuster chwilio am enw cwmni sydd ar gael (‘Company Name Availability Search’) yn ein gwasanaeth WebCHeck, (Saesneg) a fydd yn rhoi cyfatebiaethau 'yr un peth â’ fel y’u diffinnir yn rheoliadau Deddf Cwmnïau 2006. Os na roddir unrhyw gyfatebiaethau, yna mae’r enw cwmni a roddwyd i mewn yn debygol o fod ar gael.
- Mae mwy nag un blwch wedi cael ei ddewis ar gyfer yr erthyglau cymdeithasiad
Yn adran A7 o ffurflen IN01c, rhaid i chi ddewis a ydych yn mabwysiadu’r erthyglau enghreifftiol yn gyfan, neu gyda darpariaethau diwygiedig, neu erthyglau wedi’u teilwra. Rhaid dewis un blwch yn unig yn yr adran hon.
- Datganiad Cyfalaf – Nid oes cyfansymiau yn adran F1
Cofiwch, yn ogystal â’r dosbarth o gyfrannau, y swm ar bob cyfran, nifer y cyfrannau a’r gwerth nominal agregedig, fod yn rhaid i chi gwblhau’r maes Cyfansymiau yn adran F1 hefyd.
- Nid oes Manylion Rhagnodedig yn adran F4 neu maent yn annilys
Sicrhewch eich bod wedi cynnwys y manylion rhagnodedig cywir sy’n briodol i’ch cwmni. Rhagor o ganllawiau ar fanylion rhagnodedig ac enghreifftiau o eiriad derbyniol.
- Nid oes dosbarth o gyfrannau yn adran F4
Sicrhewch fod y maes ‘dosbarth o gyfrannau’ wedi cael ei gwblhau’n briodol.
|