|
Newidiadau i’r Gofynion o ran Hysbysu am Gydsoddiadau Trawsffiniol Daw Rheoliadau Cwmnïau (Gofynion Adrodd am Gydsoddiadau a Rhaniadau) 2011 i rym ar 1 Awst 2011. Mae’r Offeryn Statudol hwn yn diwygio Rheoliadau Cwmnïau (Cydsoddiadau Trawsffiniol) 2007. Mae’r rheoliadau diwygiedig yn cyflwyno cyfleuster newydd a fydd yn galluogi cwmnïau i gyhoeddi telerau drafft cydsoddiad ar wefan. Rhaid i gwmnïau ddarparu hysbysiad i’r perwyl hwn ar ffurflen CB01. Os yw cwmnïau’n dewis peidio â defnyddio’r cyfleuster hwn, rhaid iddynt atodi copi caled o’r telerau drafft wrth y ffurflen gyflawn o hyd. 1. Beth fydd Tŷ’r Cwmnïau yn disgwyl ei gael o 31 Gorffennaf 2011 ymlaen?
Rhaid cyflwyno’r dogfennau hyn i’r Cofrestrydd o leiaf 2 fis cyn dyddiad cyfarfod cyntaf yr aelodau (yn swyddfa Caerdydd ar gyfer Lloegr a Chymru; swyddfa Caeredin ar gyfer yr Alban; a swyddfa Belffast ar gyfer Gogledd Iwerddon). 2. Beth yw’r gofynion wrth gyhoeddi telerau drafft cydsoddiad ar wefan? Rhaid bodloni’r amodau canlynol:
I gael rhagor o wybodaeth am Gydsoddiadau Trawsffiniol, cyfeiriwch at y Llyfryn Canllaw GP07 |
|||