|
|
Y 10 Cwestiwn Mwyaf Cyffredin - Beth yw Cosbau Ffeilio Hwyr? Sut mae mynd ati i apelio? Beth yw cosbau ffeilio hwyr? Cafodd cosbau ffeilio hwyr eu cyflwyno ym 1992 i annog cyfarwyddwyr cwmnïau cyfyngedig i ffeilio'u cyfrifon a'u hadroddiadau'n brydlon, a hynny am fod angen yr wybodaeth ar gyfer y cofnod cyhoeddus. A fydd pob cwmni sy'n ffeilio'i gyfrifon yn hwyr yn cael cosb? Bydd, ni waeth am ei faint, ei statws neu p'un a fo'n masnachu neu beidio. Mae hyn yn cynnwys cwmnïau segur, cwmnïau rheoli fflatiau a chwmnïau elusennol. A yw’r cosbau’n berthnasol i gwmnïau rheoli fflatiau a chwmnïau segur? Ydyn. Ydy maint y gosb yr un fath i bob cwmni? Nac ydy. Ceir graddfa gosbau i gwmnïau preifat a graddfa uwch arall i gwmnïau cyfyngedig cyhoeddus Beth yw’r cosbau ffeilio hwyr?
* Yn ogystal, lle methwyd â chydymffurfio â’r gofynion ffeilio ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol hefyd (os dechreuodd y flwyddyn ariannol ar 6 Ebrill 2008 neu ers hynny), bydd y gosb dwbl y swm a nodwyd yn y tabl A gaiff fy nghwmni ei gosbi os oedir y cyfrifon yn y post? Caiff. Dim ond wrth iddynt gyrraedd Tŷ'r Cwmnïau yr ystyrir bod cyfrifon wedi eu cyflwyno. A fydd y Cofrestrydd yn derbyn cyfrifon a anfonir trwy ffacs? Na fydd. Gellir ffeilio rhai categorïau o gyfrifon yn electronig gan ddefnyddio ein gwasanaeth Software Filing neu wasanaeth WebFiling Tŷ’r Cwmnïau. Rhaid cyflwyno unrhyw gyfrifon eraill trwy’r post. Beth ddylwn i ei wneud os yw’r dyddiad ffeilio’n agos? Defnyddiwch wasanaeth sy’n gwarantu dosbarthiad y diwrnod nesaf. Peidiwch â dibynnu ar y post dosbarth cyntaf i ddosbarthu llythyr y diwrnod nesaf. Cofiwch na chewch chi unrhyw amser ychwanegol i ffeilio os gwrthodir eich cyfrifon. Rhaid i chi sicrhau bod eich cyfrifon yn gyflawn ac yn dderbyniol i’w ffeilio. Beth ddylwn i ei wneud os na allaf i gyflwyno’r cyfrifon mewn pryd Cysylltwch â Thŷ'r Cwmnïau ar unwaith. O dan amodau arbennig, cewch wneud cais i ymestyn y cyfnod ar gyfer cyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau. Sut bydda i'n gwybod pan fydd cosb wedi'i gosod? Os cyflwynwch chi'ch cyfrifon yn hwyr, byddwn yn awtomatig yn anfon hysbysiad cosb i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig. Beth ddylwn i ei wneud os caiff fy nghwmni ei gosbi
Beth sy'n digwydd os na fydda i'n talu'r gosb? Os na thalwch chi'r gosb, byddwn yn gofyn i'n casglwyr dyledion gymryd camau. Yn y pen draw, caiff y mater ei benderfynu yn y Llys Sirol neu'r Llys Siryf lle cewch gyfle i gynnig amddiffyniad. A fydd y Cofrestrydd yn derbyn unrhyw amgylchiadau lliniarol os cyflwynir y cyfrifon yn hwyr? Bydd. Mae gan y Cofrestrydd ryddid i beidio â chasglu cosb, ond dim ond o dan yr amgylchiadau mwyaf eithriadol y bydd yn ei weithredu o blaid y cwmni. Rhaid i gyfarwyddwyr gyflawni eu holl ddyletswyddau cyfreithiol hyd yn oed os ydynt yn dioddef afiechyd neu’n oedrannus. Os oes rhywbeth yn amharu ar allu cyfarwyddwr i gyflawni ei ddyletswyddau, dylai sicrhau ei fod yn penodi rhywun yn ei le neu fod y cyfarwyddwyr eraill yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn gwneud trefniadau priodol. Ni all y Cofrestrydd ymarfer ei ddisgresiwn trwy beidio â chasglu cosbau ffeilio hwyr ar sail afiechyd na henaint. Bu natur disgresiwn y Cofrestrydd yn destun adolygiad barnwrol yn 2002. Gweld copi o’r dyfarniad (Saesneg yn unig) Darllenwch y negeseuon atgoffa am ofynion ffeilio y mae Tŷ’r Cwmnïau yn eu hanfon i gyfeiriad eich swyddfa gofrestredig. Dylech ganiatáu digon o amser i sicrhau bod eich cyfrifon yn cyrraedd y Cofrestrydd o fewn y cyfnod a ganiateir o dan y Ddeddf Cwmnïau. Nid yw’r post dosbarth cyntaf yn cynnig unrhyw sicrwydd, felly os yw’r dyddiad ffeilio ar y gorwel, dylech ystyried defnyddio dulliau danfon sicr er mwyn gwneud yn siŵr bod eich cyfrifon yn cyrraedd mewn da bryd. Cofiwch: ni fydd y Cofrestrydd yn hepgor cosb os yw eich cyfrifon yn hwyr oherwydd y post. Erbyn hyn, cewch ffeilio rhai categorïau o gyfrifon trwy wefan Tŷ’r Cwmnïau gan ddefnyddio ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling. Os byddwch chi’n ffeilio’ch cyfrifon trwy ddulliau electronig, cewch neges e-bost sy’n cydnabod bod eich cyfrifon wedi dod i law. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cynnig cyngor a chymorth ar Gosbau Ffeilio Hwyr. |
|||||||||||||||||