|
|
Canllaw ar gwblhau ffurflen Manylion arwystl MR01Gallwch arbed amser ac arian trwy ffeilio'ch arwystl morgais ar lein... I osgoi cael gwrthod eich arwystl morgais, cwblhewch yr holl adrannau angenrheidiol ar y ffurflen. Gweler y canllaw isod, y nodiadau a'r rhestr wirio ar y ffurflen. Dylid defnyddio ffurflen MR01 dim ond lle mae'r dyddiad creu ar neu ar ôl 6 Ebrill 2013. Canllaw cyffredinol ar gyflwyno dogfennauRhaid i'r dogfennau wedi'u cwblhau'n gywir gael eu cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau cyn pen 21 diwrnod gan ddechrau gyda'r diwrnod ar ôl y diwrnod y crëwyd yr arwystl e.e. rhaid i arwystl sydd wedi'i ddyddio 06/04/2013 gael ei gyflwyno erbyn 27/04/2013. Sicrhewch y defnyddir y math cywir o ffurflen ar gyfer y cwmni h.y. ffurflen MR01 ar gyfer cwmni sydd wedi'i gofrestru yn Lloegr/Cymru/yr Alban/Gogledd Iwerddon neu ffurflen LL MR01 ar gyfer Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig. Rhaid cyflwyno gyda'r ffurflen gopi ardystiedig o'r offeryn ysgrifenedig wedi'i lofnodi gan y cwmni arwystlo; caiff y copi ardystiedig ei gadw yn Nhŷ'r Cwmnïau a bydd ar gael ar gyfer y gofrestr gyhoeddus. Peidiwch â chyflwyno'r offeryn ysgrifenedig gwreiddiol. Rhaid i'r ffurflen, yr offeryn ysgrifenedig a'r ffi gael eu cyflwyno gyda'i gilydd; ni allwn gadw cais anghyflawn tra bo dogfennau na chawsant eu cynnwys yn cael eu cyflwyno ac ni allwn chwaith gysylltu â chyflwynydd i ofyn am ddogfennau na chawsant eu cynnwys. Offeryn YsgrifenedigRhaid cyflwyno gyda'r ffurflen gopi ardystiedig o'r offeryn ysgrifenedig wedi'i lofnodi gan y cwmni arwystlo. Os yw wedi'i gyflawni fel "Gweithred" yna dylai sêl gyffredin y cwmni fod wedi'i gosod arno neu mae'n rhaid iddo gael ei lofnodi gan ddau berson (naill ai Cyfarwyddwr/wyr/Ysgrifennydd neu Gyfarwyddwr a thyst). Yn achos Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC); o leiaf dau lofnodydd o blith aelodau'r PAC neu un aelod gyda llofnod tyst. Os yw wedi'i gyflawni'n wrthrannol dim ond yr wrthran / y gwrthrannau sydd wedi'i / wedi'u llofnodi gan y cwmni/cwmnïau sy'n ofynnol gennym. Manylion cwmni (adran 1)Rhowch enw a rhif cwmni'r cwmni arwystlo i mewn – rhaid i'r ddau fod yr un peth â'r enw a rhif a gedwir yng nghofnodion Tŷ'r Cwmnïau. Dyddiad creu'r arwystl (adran 2)Rhowch ddyddiad creu'r offeryn ysgrifenedig i mewn. I gael manylion llawn y mathau o arwystl a dyddiad creu, gweler y tabl isod:
Enw'r personau, asiantau ernes neu ymddiriedolwyr sydd â hawl i'r arwystl (adran 3)Rhowch enw'r person(au) sydd â hawl i'r arwystl i mewn (rhaid i'r enw(au) adlewyrchu'r offeryn ysgrifenedig yn fanwl gywir). Os oes mwy na phedwar enw, rhowch unrhyw bedwar o'r enwau i mewn ac yna ticiwch y datganiad: "Rwy'n cadarnhau bod yna fwy na phedwar person, asiant ernes neu ymddiriedolwr sydd â hawl i'r arwystl." Disgrifiad (adran 4)Rhowch i mewn ddisgrifiad byr o unrhyw dir (gan gynnwys adeiladau), llong, awyren neu eiddo deallusol penodol sydd wedi cael ei h/arwystlo. Dyma'r unig wybodaeth sy'n ofynnol yn yr adran hon; os nad oes unrhyw dir, llong, awyren neu eiddo deallusol penodol, rhaid gadael yr adran hon yn wag neu nodi Amh. neu Dim. Arwystl neu ernes sefydlog (adran 5)Os yw'r offeryn ysgrifenedig yn cynnwys unrhyw gymalau arwystl sy'n creu arwystl neu ernes sefydlog (ac eithrio'r arwystlon ar y tir, llong, awyren neu eiddo deallusol yr ydych wedi'u nodi yn adran 4), rhaid i chi dicio'r blwch priodol. Arwystl ansefydlog (adran 6)Os yw'r offeryn ysgrifenedig yn cynnwys arwystl ansefydlog, rhaid i chi dicio'r blwch priodol. Os ydych chi wedi ticio'r ateb cadarnhaol, ac mae'r arwystl ansefydlog yn cwmpasu holl eiddo ac ymgymeriad y cwmni, rhaid i chi dicio'r blwch priodol. Gwystl Negyddol (adran 7)Os oes gan yr offeryn ysgrifenedig delerau sy'n gwahardd yr arwystlwr rhag creu unrhyw ernes arall a fydd â blaenoriaeth gydradd â'r arwystl neu uwch na'r arwystl, rhaid i chi dicio'r blwch priodol. Datganiad ymddiriedolwr (adran 8)Cewch dicio'r blwch os yw'r arwystlwr yn gweithredu fel ymddiriedolwr. Gallwch ein hysbysu'n ddiweddarach gan ddefnyddio ffurflen MR06. Llofnod (adran 9)Rhaid i'r holl ffurflenni gael eu llofnodi gan berson sydd â buddiant mewn cofrestru'r arwystl h.y. eu llofnodi gan y cwmni, y darparwr benthyciad neu gan gynrychiolydd y cwmni neu'r darparwr benthyciad sy'n cynnwys Cyfreithwyr/Cyfrifwyr. Rhaid iddo fod yn llofnod llawysgrifol neu lofnod wedi'i gynhyrchu'n awtomatig; nid yw teip yn dderbyniol. Adran 1075 Cywiro dogfen yn anffurfiolOs gwelwn, ar ôl archwilio'r ffurflen, fod ynddi wallau, fel arfer byddwn yn ei gwrthod a'i hanfon yn ôl at y cyflwynydd, gan nad ydym fel arfer yn gallu cysylltu â chyflwynwyr i gywiro gwallau ar ffurflenni. Fodd bynnag, o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 mae yna ddarpariaeth i gofrestru ar gyfer ein gweithdrefn cywiro anffurfiol. Ar ôl cofrestru, os ydych yn cyflwyno cais ac rydym yn nodi gwall ym manylion yr arwystl sydd wedi'u datgan ar y ffurflen (h.y. adran 1 – 7 cynhwysol) byddwn yn anfon neges e-bost i'r cyfeiriad e-bost a roddwyd ac yn aros am ymateb. Ni fyddwch yn gallu defnyddio cywiro anffurfiol os byddwn yn canfod gwallau y tu allan i'r cyfnod ffeilio 21 diwrnod, waeth pryd y daw'r ddogfen i law. I gael mwy o wybodaeth am gofrestru arwystl morgais a'r ddarpariaeth i gywiro gwybodaeth, gweler ein canllawiau manwl a dolenni defnyddiol eraill isod: Canllaw (GP3) Bywyd Cwmni – Rhan 2 Ffeilio yn sgil Digwyddiadau Arddangosiad fideo WebFiling Gweld pa mor symyl yw hi i ddefnyddio WebFiling i gyflwyno'ch dogfennau... (Saesneg yn unig) |
|||||||||||||