|
|
Cwestiynau Cyffredin am Gyfeiriadau Preswyl Arferol C.Beth yw cyfeiriad preswyl arferol? A. Y cyfeiriad preswyl arferol yw cyfeiriad cartref arferol y person o dan sylw. Mae angen ei ffeilio gyda’r Cofrestrydd o hyd, ond ni fydd ar gael ar y cofnod cyhoeddus i bawb ei weld. Caiff ei gadw ar gofrestr breifat a dim ond sefydliadau a bennir ymlaen llaw gaiff weld y gofrestr hon. C.Beth yw cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau? A. Mae’r cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn un y gall cyfarwyddwr ei ddefnyddio i dderbyn gohebiaeth gan drydydd partïon mewn perthynas â’r cwmni. Gall y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau fod yr un fath â chyfeiriad preswyl y person neu gyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni, neu gall fod yn rhywle arall. Mae cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau hefyd yn cael ei adnabod fel cyfeiriad gohebiaeth. C.A fydd modd gweld fy nghyfeiriad ar y gofrestr gyhoeddus? A. Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i gyfarwyddwyr ddarparu cyfeiriad gwasanaeth i’r cofnod cyhoeddus, a all fod yn wahanol i’w cyfeiriad preswyl arferol. Cedwir eu cyfeiriad preswyl arferol ar gofnod ar wahân y mae’r gallu i’w gweld yn gyfyngedig. Mae hyn wedi disodli’r hen system, lle mai dim ond swyddogion oedd mewn perygl difrifol o ddioddef trais a bygythiadau a allai ofyn am i’w cyfeiriadau preswyl gael eu cadw oddi ar y cofnod cyhoeddus. C. A fydd fy nghyfeiriad cyflwyno dogfennau yn dal i ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus os yw’r un peth â’m cyfeiriad preswyl arferol? A. Os yw cyfarwyddwr yn dewis defnyddio ei gyfeiriad preswyl arferol fel ei gyfeiriadcyflwyno dogfennau, bydd y cyfeiriad gwasanaeth yn dal i ymddangos ar y cofnod cyhoeddus, ond bydd y ffaith bod y ddau gyfeiriad yr un peth yn wybodaeth warchodedig. Ni fydd Tŷ’r Cwmnïau’n cadarnhau a yw’r cyfeiriadau yr un peth os bydd ymholiad sy’n gofyn hyn. C. Oes yna unrhyw sefydliadau y bydd Tŷ’r Cwmnïau’n datgelu fy nghyfeiriad preswyl arferol iddynt, er ei fod yn wybodaeth warchodedig? A. Ni fydd cyfeiriad preswyl arferol cyfarwyddwr ar gael ond i awdurdodau cyhoeddus penodedig at ddiben cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus, ac i asiantaethau hanes credyd er mwyn iddynt fetio ceisiadau am gredyd a gwaith cysylltiedig ac i fodloni gofynion y Rheoliadau Gwyngalchu Arian. Mae angen i awdurdodau cyhoeddus penodedig ac asiantaethau hanes credyd fel ei gilydd wneud cais i Dŷ’r Cwmnïau i gael gweld y wybodaeth hon. Mae eu ceisiadau’n cael eu fetio’n drylwyr ac nid yw’r wybodaeth yn cael ei datgelu ond os ydynt yn bodloni’r holl feini prawf a nodir yn Companies (Disclosure of Address) Regulations 2009 (SI2009/214). Rhoddir rhestr o’r awdurdodau cyhoeddus penodedig a all wneud cais am weld gwybodaeth warchodedig yn atodlen 1 i’r rheoliadau hyn. C. A gaf i ddileu fy nghyfeiriad o’r gofrestr? A. Fel arfer ar ôl i wybodaeth gael ei rhoi ar y cofnod cyhoeddus mae’n aros yno am byth. Fodd bynnag, mae Deddf Cwmnïau 2006 yn caniatáu gwneud cais i’r Cofrestrydd ddileu cyfeiriad o’r cofnod cyhoeddus lle bo’r ffaith bod cyfeiriad ar gael ar y cofnod cyhoeddus yn creu perygl trais neu fygythion. Gall y canlynol wneud cais: unigolyn sy’n gyfarwyddwr, neu’n bwriadu bod yn gyfarwyddwr; unigolyn oedd yn gyfarwyddwr, yn ysgrifennydd neu’n gynrychiolydd parhaol; cwmni mewn cysylltiad â’i gyfranddeiliaid ar ffurflen flynyddol neu ffurflen clustnodi cyfrannau, neu danysgrifwyr i’r memorandwm; ac unigolyn sydd wedi cofrestru arwystl ond nad ef yw’r pridiannai. Noder mai dim ond cyfeiriadau a roddwyd i’r cofrestrydd ers 2003 y gallwn eu dileu. C. Mae fy nghyfeiriad yn ymddangos ar wefan trydydd parti. Sut allaf sicrhau y caiff ei ddileu? A. Gwybodaeth gyhoeddus yw’r Gofrestr Cwmnïau ac ychydig iawn o reolaeth sydd gan Dŷ’r Cwmnïau dros y ffordd y defnyddir gwybodaeth a brynir ganddo. Gallwch ystyried gwneud cais i Dŷ’r Cwmnïau i gael dileu’ch cyfeiriad o’n cofrestr (gweler yr ateb i’r cwestiwn uchod). Fodd bynnag, hyd yn oed os ydych yn llwyddo i gael dileu’ch cyfeiriad o’r gofrestr, bydd angen o hyd i chi gysylltu ag unrhyw drydydd partïon yn uniongyrchol er mwyn trafod dileu’ch gwybodaeth o’u gwefannau. Nid oes gan Dŷ’r Cwmnïau unrhyw bwerau i orfodi trydydd parti i ddileu’ch gwybodaeth. |
||