Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cwestiynau Cyffredin am Gyfrifon ac Adroddiadau

Cyffredinol
PAC
Adolygu Busnes
Deddf Cwmnïau
Ffeilio ar y cyd
Meddalwedd
Cyfrifon elusennau wedi’u heithrio rhag archwilio ariannol yng Ngogledd Iwerddon

Cyffredinol

C. A fydd unrhyw newidiadau i’r Trothwyon Eithrio rhag Archwilio Ariannol?

A. Bydd – Y trothwyon eithrio rhag archwilio ariannol newydd .

C. Beth yw'r newidiadau o ran dyddiadau ffeilio cyfrifon?

A. Mae’r cyfnodau ar gyfer ffeilio cyfrifon wedi cael eu gostwng o 10 mis i 9 mis ar gyfer cwmnïau preifat ac o 7 mis i 6 mis ar gyfer cwmnïau CCCau.

C. Pryd cafodd y 10 mis ar gyfer ffeilio'n cyfrifon ei fyrhau i 9 mis?

A. Daeth y cyfnod ffeilio byrrach ar gyfer cyfrifon yn dod i rym i gwmnïau sydd â chyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008.

C. Pa enwau a llofnodion a ddylid eu rhoi ar y cyfrifon at ddiben ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau?

A. Ar gyfer ffeilio, rhaid i gopïau o’r cyfrifon roi’r canlynol:

  • rhaid i’r copi o’r fantolen ddangos enw printiedig y cyfarwyddwr a’i llofnododd ar ran y bwrdd;
  • rhaid i’r copi o’r fantolen hefyd gael ei llofnodi gan gyfarwyddwr;
  • rhaid i’r copi o adroddiad y cyfarwyddwyr gynnwys enw printiedig y cyfarwyddwr neu ysgrifennydd y cwmni a lofnododd yr adroddiad ar ran y bwrdd; ac
  • os oes yn rhaid i’r cwmni amgáu adroddiad archwilydd ariannol gyda’r cyfrifon, rhaid i’r copi o adroddiad yr archwilydd ariannol roi enw’r archwilydd ariannol.

Noder na fydd llofnod darllenadwy ar fantolen yn bodloni’r gofyniad ychwanegol am enw printiedig. Bydd Tŷ’r Cwmnïau’n gwrthod unrhyw gyfrifon nad ydynt yn bodloni’r gofynion uchod.

Lle bo’r archwilydd ariannol yn gwmni, rhaid i adroddiad yr archwilydd ariannol roi enw’r archwilydd ariannol ac enw’r unigolyn a’i llofnododd fel uwch archwilydd ariannol statudol ar ran y cwmni.

C. Os yw’r llofnod yn ddarllenadwy, oes raid i’r cyfarwyddwr brintio ei enw/henw?

A. Oes. Rhaid i bob copi o gyfrifon a gyhoeddir gan neu ar ran y cwmni roi enw’r unigolyn a’i llofnododd ar ran y bwrdd.

C. Beth yw’r rhesymau mwyaf cyffredin dros wrthod cyfrifon?

A. Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth am wrthod cyfrifon. ' hysbysiad am wrthod cyfrifon '.

C. A fydd y rheolau arbennig o ran archwilio cwmnïau elusennol bach yn aros?

A. Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 1 Ebrill 2008 nid oes mwyach reolau arbennig yng nghyswllt eithrio cwmnïau elusennol rhag archwilio ariannol. Gallant fod yn gymwys i'w heithrio rhag archwilio ariannol o dan y gyfraith gwmnïau yn yr un modd ag unrhyw gwmni arall. Gall cwmnïau elusennol hefyd fod yn gaeth i ofynion ar wahân o ran archwilio'u cyfrifon yn ffurfiol neu eu hystyried rywsut arall o dan y gyfraith elusennau. Am wybodaeth bellach gweler www.charity-commission.gov.uk ar gyfer elusennau wedi'u cofrestru yn Loegr neu Gymru, neu www.oscr.org.uk ar gyfer elusennau wedi'u cofrestru yn yr Alban

C. A fydd Tŷ’r Cwmnïau yn gwneud ffeilio electronig yn orfodol?

A. Nid oes amserlen gennym i gael gwared ar unrhyw opsiynau ffeilio ar bapur ar hyn o bryd.

Wrth i’n gwasanaeth e-ffeilio aeddfedu ac wrth i nifer y dogfennau sy’n cael eu ffeilio ar bapur leihau, byddwn ni’n ystyried cael gwared ar y dewisiadau ffeilio ar bapur o dipyn i beth. Cyn dileu unrhyw opsiynau ffeilio ar bapur, byddwn ni’n ymgynghori â’n cwsmeriaid ac yn mynd nôl i’r senedd i bennu sut i fynd ati i orchymyn hyn.

C. A gaf i ffeilio’r un cyfrifon gyda Thŷ’r Cwmnïau a CThEM?

A. Os ydych chi’n ffeilio cyfrifon bach sydd wedi eu heithrio rhag archwilio, mae’n bosibl y cewch ffeilio cyfrifon gan ddefnyddio’r opsiwn cyd-ffeilio cyfrifon (yn Saesneg yn unig). Bydd hyn yn eich galluogi chi i gofnodi data eich cyfrifon unwaith a’i gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau a CThEM.

PAC

C. Ydy’r newidiadau sy’n dod yn sgil DC 06 yn effeithio ar Bartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)?

A. Ydy. Daeth y gofynion ar y ffurflen a chynnwys cyfrifon ac adroddiadau PAC o dan Ran 15 o Ddeddf Cwmnïau 2006, (fel y’u gweithredir gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cyfrifon ac Archwilio) (Gweithredu Deddf Cwmnïau 2006) 2008) a’r rheoliadau newydd a wneir trwyddynt, i rym yn gyffredinol ar gyfer cyfrifon ac adroddiadau a ddechreuodd ar, neu ar ôl 1 Hydref 2008.

C. A gaiff PAC fanteisio ar y trothwyon bach/canolig uwch?

A. Cânt. Fodd bynnag, dim ond i PACau sydd â chyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 1 Hydref 2008 y bydd y trothwyon bach/canolig uwch yn gymwys.

Arolwg Busnes

C. Beth yw Arolwg Busnes?

A. Mae Arolwg Busnes yn adolygiad teg o fusnes y cwmni yn ystod y cyfnod cyfrifeg. Rhaid iddo fod yn ddadansoddiad cytbwys a chynhwysfawr o ddatblygiad a chyflawniad y cwmni, gyda disgrifiad o'r prif risgiau. (Gweler Adran 417 o Ddeddf Cwmnïau 2006).

C. I bwy mae hyn yn gymwys?

A. Rhaid i Adroddiad y Cyfarwyddwyr o fewn y cyfrifon gynnwys Arolwg Busnes. Mae hyn yn gymwys i bob cwmni, ar wahân i rai sy'n ffeilio cyfrifon cwmni bach.

C. Pryd daeth hyn i rym?

A. Bydd yr Arolwg Busnes yn gymwys i bob cyfrifon sy’n bodloni cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 1 Hydref 2007.

Deddf Cwmnïau

C. Pryd daeth gofynion y Ddeddf newydd yng nghyswllt cyfrifon/adroddiadau i rym?

A. At ei gilydd, daeth gofynion Rhan 15 o Ddeddf Cwmnïau 2006 gyda golwg ar ffurf a chynnwys cyfrifon ac adroddiadau, ynghyd â'r rheoliadau newydd sydd i'w gwneud o dani, i rym ar gyfer cyfrifon ac adroddiadau yn dechrau ar neu wedi 6 Ebrill 2008. Bydd cyfrifon ac adroddiadau sy'n dechrau cyn hynny yn dal i gael eu paratoi yn unol â Deddf Cwmnïau 1985.

Fodd bynnag, daeth gofynion adran 417 o Ddeddf Cwmnïau 2006 o ran adolygu busnes newydd i rym ar gyfer adroddiadau sy'n bodloni blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 1 Hydref 2007.

C. Beth yw cyfeiriadau penodol Deddf 2006 at fyrhau cyfnodau ffeilio cyfrifon a pha bryd y deuant i rym?

A. Bydd adran 442, 'Period allowed for filing accounts', yn dechrau ar 6 Ebrill 2008. Felly, mae’n yn gymwys i bob cyfnod cyfrifeg sy'n dechrau ar 6 Ebrill 2008 neu wedyn. .

C. A fydd y diffiniad o 'fuddiant cyfrannog' sydd wedi'i gynnwys yn adran 260 o Ddeddf Cwmnïau 1985 yn cael ei ailddeddfu mewn deddfwriaeth eilaidd yn ymwneud â chyfrifeg?

A. Bydd. Byddwn yn ailddatgan adran 260 o Ddeddf 1985 heb ei haddasu, yn y rheoliadau sydd i'w gwneud o dan Ran 15 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

C. Ydy'r darpariaethau newydd sy'n ymwneud â datganiadau anwir neu gamarweiniol mewn adroddiadau yn gymwys i gyfrifon ar ôl 20 Ionawr, neu os yw'r flwyddyn gyfrifeg yn dechrau cyn 20 Ionawr heb fod yn gymwys nes cyhoeddi'r cyfrifon?

A. Nid yw adran 463 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (atebolrwydd am ddatganiadau anwir neu gamarweiniol mewn adroddiadau) yn gymwys i adroddiad cyfarwyddwyr, adroddiad cydnabyddiaeth cyfarwyddwyr na datganiad ariannol cryno a gafodd ei anfon gyntaf at yr aelodau ac eraill yn unol ag adran 238 neu 251 o Ddeddf 1985, neu Erthygl 246 neu 259 o Orchymyn 1986, cyn Ionawr 2007. Felly, mae'n dibynnu ar ba bryd y caiff dogfennau eu hanfon i'r aelodau, nid ar ba flwyddyn ariannol y cyfeiriant ati.

Cyd-ffeilio

C. Beth yw cyd-ffeilio cyfrifon?

A. Bydd yr opsiwn cyd-ffeilio cyfrifon yn eich galluogi chi i gyflwyno cyfrifon statudol bach sydd wedi eu heithrio rhag archwilio i’r naill gorff a’r llall, neu godi cyfrifon cryno i’w ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau yn unig.

Mae’n galluogi cwmnïau a’u hasiantau i gynhyrchu a chyflwyno’r gwahanol setiau o gyfrifon cwmni y mae angen eu cyflwyno i CThEM a Thŷ’r Cwmnïau gan ddefnyddio un set o ddata.

C. Ble mae cael gafael ar y templed Cyd-ffeilio?

A. Gall defnyddwyr WebFiling ddadlwytho’r templed o wefan WebFiling neu o Wasanaethau Ar-lein CThEM. Bydd hyn yn gofyn am yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar CThEM ac ar Dŷ’r Cwmnïau ac yn cynnig opsiwn i gyflwyno cyfrifon ar wahân i’r naill gorff neu’r llall, neu i’r ddau. Cewch gyflwyno Cyfrifon Cryno i Dŷ’r Cwmnïau o hyd.

I ddefnyddwyr Software Filing (h.y. y rhai sy’n defnyddio rhaglenni meddalwedd arbennig i gynhyrchu eu cyfrifon) bydd y prif ddarparwyr pecynnau yn cyflwyno atebion cyfatebol dros y flwyddyn nesaf. Holwch ddarparwyr eich meddalwedd am fanylion eu cynlluniau nhw yn y maes hwn.

C. Pa fanylion diogelwch sydd eu hangen arnaf i ffeilio cyfrifon gyda Thŷ’r Cwmnïau a CThEM?

A. Er mwyn ffeilio cyfrifon, bydd arnoch angen :

  • Manylion cyflwyno Government Gateway (cewch archebu’r rhain o wefan CThEM) a
  • Chod Dilysu’ch Cwmni oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau

Bydd ar ddefnyddwyr WebFiling angen cod diogelwch sy’n eu hadnabod fel defnyddiwr trwy eu cyfeiriad e-bost hefyd. Mae rhagor o fanylion ar gael yn http://www.tyrcwmniau.gov.uk/welsh/infoAndGuide/faq/webFiling_W.shtml

Bydd ar ddefnyddwyr Software Filing angen cod cyflwyno, sy’n gysylltiedig â chyfrif e-ffeilio. Mae rhagor o fanylion ar gael yn http://www.tyrcwmniau.gov.uk/welsh/toolsToHelp/efiling_W.shtml

C. A fydd y templed yn gweithio gyda phob math o gyfrifon?

A. Bydd y templed yn gweithio ar gyfer y rhan fwyaf o gyfrifon cwmni bach sydd wedi eu heithrio rhag archwilio. Mae tabl o eithriadau ar flaen y templed ynghyd â chyngor i ddefnyddwyr ar addasrwydd y templed. Nid yw’r templed yn addas i ffeilio cyfrifon PAC, CBC neu gwmni wedi ei gyfyngu drwy warant nac i ffeilio cyfrifon a baratowyd o dan Ddeddf Cwmnïau 1985.

Mae rhestr gyflawn o’r eithriadau ar y templed

C. A oes angen i mi gofnodi data fy nghyfrifon ddwywaith er mwyn ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau a CThEM?

A. Egwyddor cyd-ffeilio cyfrifon yw y caiff cwsmeriaid gofnodi data eu cyfrifon unwaith, cyn cyflwyno cyfrifon ar wahân i CThEM a Thŷ’r Cwmnïau.

C. Rydw i’n cynhyrchu cyfrifon llawn ar gyfer CThEM, oes modd i mi ffeilio cyfrifon cryno gyda Thŷ’r Cwmnïau hefyd?

A. Oes. Bydd y templed WebFiling yn eich galluogi chi i gofnodi a chyflwyno cyfrifon cryno i Dŷ’r Cwmnïau os nad ydych chi am gyflwyno data’r cyfrifon llawn

C. Sut gallaf i fod yn siŵr taw dim ond data’r cyfrifon cryno fydd yn mynd i Dŷ’r Cwmnïau?

A. Ar y templed cyd-ffeilio, fe welwch chi restr o’r eitemau a godwyd o’r templed i greu’r Cyfrifon Cryno i’w cyflwyno.

Cewch weld ac argraffu’r is-set o ddata sy’n ffurfio’ch Cyfrifon Cryno cyn eu cyflwyno

C. Mae gen i ddyddiadau ffeilio gwahanol gyda CThEM a Thŷ’r Cwmnïau. A gaf i ddefnyddio’r templed i ffeilio data gyda Thŷ’r Cwmnïau yn gyntaf a mynd nôl yn ddiweddarach i’w ffeilio gyda CThEM?

A. Cewch. Ar ôl cyflwyno’r cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau, cewch ddychwelyd at y templed i gyflawni gofynion CThEM. .

Mae gan Dŷ’r Cwmnïau a CThEM wahanol ddyddiadau ffeilio a gwahanol gosbau ffeilio hwyr. Cyfrifoldeb y cyfarwyddwyr yw sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u dyddiadau ffeilio.

C. Os byddaf i’n ffeilio cyfrifon cryno yn gyntaf gyda Thŷ’r Cwmnïau, a gaf i ehangu’r data wedyn er mwyn cyflwyno cyfrifon llawn i CThEM?

A. Cewch. Mae’r templed yn caniatáu ar gyfer hyn .

C. A oes modd i gwmnïau segur ddefnyddio’r templed i ffeilio eu cyfrifon?

A. Oes. Mae hyn yn berthnasol i gwmnïau segur sydd erioed wedi masnachu . Dylai cwmnïau sydd erioed wedi masnachu lenwi’r DCA (Cyfrifon Cwmni Segur) sydd ar gael trwy wasanaeth WebFiling Tŷ’r Cwmnïau.

Meddalwedd

C. Pryd gall ddatblygwyr meddalwedd ddechrau profi eu meddalwedd?

A. Agorodd ein gwasanaeth profi yng ngwanwyn 2010 er mwyn galluogi unrhyw ddatblygwyr meddalwedd sy’n barod i brofi dilysrwydd eu ffeiliau iXBRL ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau.

C. Beth yw iXBRL? (InlineXBRL)

A. iXBRL yw’r safon data darllenadwy i gyfrifiadur ar gyfer adrodd ariannol. Fe’i mabwysiadwyd gan CThEM a Thŷ’r Cwmnïau er mwyn hwyluso ffeilio cyfrifon trwy ddulliau electronig.

C. A yw’r gofynion tagio iXBRL yr un fath ar gyfer CThEM a Thŷ’r Cwmnïau?

A. Mae’r holl wybodaeth am gyfrifon sydd ei hangen ar Dŷ’r Cwmnïau ar gael yn rhestr gofynion tagio sylfaenol UK GAAP (Arferion Cyfrifeg Derbyniol Safonol y Deyrnas Unedig a bennwyd gan CThEM.

Cyfrifon elusennau wedi’u heithrio rhag archwilio ariannol yng Ngogledd Iwerddon

Yn gyffredinol rhaid i gwmnïau sydd wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon ddilyn yr un rheolau sy’n ymwneud â chyfrifon ac archwilio ariannol ag unrhyw gwmni arall yn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae yna amodau ychwanegol i gwmnïau elusennol yng Ngogledd Iwerddon pan fônt yn ystyried a ydynt wedi’u heithrio rhag archwilio ariannol.

C. A yw’n ofynnol i bob cwmni yng Ngogledd Iwerddon baratoi cyfrifon o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 (Deddf 2006)?

A. Ydi, dylai cyfrifon pob cwmni gael eu paratoi o dan Ran 15 o Ddeddf 2006 ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 6ed Ebrill 2008.

C. All cwmnïau yng Ngogledd Iwerddon fanteisio ar yr eithriad rhag archwilio ariannol yn Neddf 2006?

A. Gallant. Mae’n ofynnol i bob cwmni gael archwiliad ariannol ar eu cyfrifon yn unol â Rhan 16 o Ddeddf 2006 oni fônt wedi’u heithrio. Bydd y rhan fwyaf o gwmnïau’n gymwys i gael eu heithrio rhag archwilio ariannol o dan Ddeddf 2006 naill ai fel cwmni bach (a477) neu gwmni segur (a480).  Fodd bynnag, mae yna amodau ychwanegol ar gyfer elusennau bach yng Ngogledd Iwerddon – gweler C3.

C. All elusen fach yng Ngogledd Iwerddon hawlio eithriad rhag archwilio ariannol?

A. Gall. Gall cwmni yng Ngogledd Iwerddon sy’n elusen hawlio eithriad llwyr neu rannol rhag archwilio ariannol fel cwmni bach ond bydd yr amodau’n wahanol ar gyfer unrhyw gwmni bach arall. Mae hyn oherwydd bod eithrio cwmnïau elusennol yng Ngogledd Iwerddon rhag archwilio ariannol yn adran 477 o Ddeddf 2006 yn ddarostyngedig i’r darpariaethau perthnasol yng Ngorchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986, a gadwyd fel rhan o gychwyn Deddf 2006.

C.  Beth yw’r amodau ar gyfer elusennau bach yng Ngogledd Iwerddon sydd wedi’u heithrio rhag archwilio ariannol?

A. Mae cwmni sy’n elusen ac sy’n bodloni’r amodau isod ar gyfer y flwyddyn ariannol honno yn cael ei eithrio’n llwyr rhag y gofyniad i gael archwiliad ariannol. Mae cwmni’n bodloni’r amodau mewn perthynas â blwyddyn ariannol:

(a) os yw’n cymhwyso fel cwmni bach mewn perthynas â’r flwyddyn honno at ddibenion adran 477 o Ddeddf 2006,
(b) os nad yw ei incwm gros yn fwy na £90,000, ac
(c) os nad yw cyfanswm ei fantolen am y flwyddyn honno’n fwy na £2.8 miliwn.

Neu gall elusen o bosibl gael ei heithrio’n rhannol rhag y gofyniad i gael archwiliad ariannol os oes adroddiad cyfrifwyr addas i’r cyfrifon ac os yw’r cwmni’n bodloni’r amodau canlynol mewn perthynas â blwyddyn ariannol:

(a) mae’n cymhwyso fel cwmni bach mewn perthynas â’r flwyddyn honno at ddibenion adran 477 o Ddeddf 2006,
(b) mae ei hincwm gros yn y flwyddyn honno’n fwy na £90,000 ond nid yn fwy na £250,000, ac
(c) nad yw cyfanswm ei fantolen am y flwyddyn honno’n fwy nag £1.4 miliwn.

C. Oes yna unrhyw elusennau bach yng Ngogledd Iwerddon nad oes ganddynt hawl i gael eu heithrio rhag archwilio ariannol?

A. Oes. Nid oes gan gwmni hawl i’r naill eithriad na’r llall os, ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn honno:

  • y bu’n gwmni cyhoeddus,
  • y bu’n gwmni yswiriant awdurdodedig, yn gwmni bancio, yn ddyroddwr arian electronig, yn gwmni buddsoddi dan y Gyfarwyddeb Gwasanaethau Buddsoddi neu’n gwmni rheoli Ymgymeriadau ar gyfer Buddsoddi ar y Cyd mewn Gwarannau Trosglwyddadwy (UCITS),
  • y bu’n cyflawni gweithgarwch yn y farchnad yswiriant,
  • y bu’n gymdeithas cyflogwyr fel y’i diffinnir yn Erthygl 4 o Orchymyn Cysylltiadau Diwydiannol (Gogledd Iwerddon) 1992,
  • y bu’n rhiant-gwmni neu’n is-ymgymeriad.

C. Pa ddatganiadau ddylai elusen fach yng Ngogledd Iwerddon eu dangos ar ei mantolen?

A. Rhaid i gyfrifon cwmni elusennol yng Ngogledd Iwerddon sy’n hawlio eithriad rhag archwilio ariannol fel cwmni bach, felly, wneud y datganiadau canlynol ar y fantolen uwchben llofnod y cyfarwyddwr:

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben <rhowch y dyddiad>, roedd gan y cwmni’r hawl i gael ei eithrio o dan Erthygl 257A(3) (neu Erthygl 257A(4) yn achos eithrio’n rhannol) o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986.
Nid yw unrhyw aelodau wedi mynnu i’r cwmni gael archwiliad ariannol o’i gyfrifon am y flwyddyn dan sylw yn unol ag Erthygl 257B(2).
Mae’r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu cyfrifoldebau am gydymffurfio â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 mewn perthynas â chofnodion cyfrifyddu a pharatoi cyfrifon.

Rhaid i gyfrifon cwmnïau bach/cryno hefyd wneud y datganiad canlynol ar y fantolen uwchben llofnod y cyfarwyddwr: 
Mae’r cyfrifon hyn wedi cael eu paratoi’n unol â’r darpariaethau sy’n berthnasol i gwmnïau sy’n ddarostyngedig i’r drefn cwmnïau bach.

C. Oes yn rhaid i’r cyfarwyddwr lofnodi cyfrifon elusen yng Ngogledd Iwerddon?

A. Rhaid i’r copi o’r fantolen a gyflwynir i’r Cofrestrydd gynnwys y canlynol ar ddiwedd y fantolen: enw’r sawl a’i llofnododd ar ran y bwrdd a rhaid iddo gael ei lofnodi gan gyfarwyddwr.

C. Oes yn rhaid i mi ddatgan mai elusen yw’r cwmni?

A. Nac oes. Fodd bynnag, wrth gwblhau’ch cyfrifon byddai o gymorth pe baech yn egluro mai elusen yw’r cwmni trwy gynnwys y rhif elusen ar y cyfrifon. Os na allwn ddweud mai elusen yw’r cwmni, mae’n bosibl y caiff y cyfrifon eu gwrthod am gynnwys Gorchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986.
Mae angen i elusennau segur yng Ngogledd Iwerddon gydymffurfio â Rhan 16 o Ddeddf 2006. I gael canllawiau ar baratoi cyfrifon cwmni segur o dan Ddeddf 2006, gweler ein Canllaw , Bywyd Cwmni – Rhan 1 Gofynion Blynyddol

Brig
Ein polisi ar gwcis