|
|
Cwestiynau Cyffedin am Gyfrifon Diwygiedig (Diwygio) C. Beth yw cyfrifon diwygiedig neu ddiwygio? A. Cyfrifon sy’n diwygio set o gyfrifon sydd eisoes wedi cael eu cyhoeddi ond sy’n ddiffygiol mewn rhyw ffordd yw cyfrifon diwygiedig. Yn gyffredinol roedd y cyfrifon gwreiddiol â gwallau ynddynt neu nid oeddent yn cydymffurfio ag un o ofynion Deddf Cwmnïau 2006. Rhaid i unrhyw gyfrifon diwygiedig gael eu marcio’n glir fel ‘Diwygio’ ar y dudalen flaen. C. Pwy sy’n gyfrifol am gyflwyno cyfrifon diwygiedig? A. Rhaid i’r cyfarwyddwyr, neu’r aelodau dynodedig yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC), baratoi cyfrifon diwygiedig a’u hanfon at Dŷ’r Cwmnïau os yw’n ymddangos bod y cyfrifon gwreiddiol yn ddiffygiol. C. Beth fydd Tŷ’r Cwmnïau’n ei wneud os dynir i’w sylw nad yw cyfrifon cwmni’n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Cwmnïau? A. Lle bo’n ymddangos bod y cyfrifon gwreiddiol yn ddiffygiol, bydd Tŷ’r Cwmnïau’n ysgrifennu at gyfarwyddwyr y cwmni, neu’r aelodau dynodedig yn achos PAC, ac yn gofyn iddynt naill ai roi esboniad boddhaol am y cyfrifon neu baratoi cyfrifon diwygiedig. C. Beth yw’r math mwyaf cyffredin o ddiffyg o ran cyfrifon? A. Camgymeriad syml mewn rhifyddeg yw’r gwall mwyaf cyffredin. Ar ôl i chi ganfod beth mae angen ei newid, rhaid i chi baratoi set o gyfrifon diwygiedig. Mae ein canllaw Bywyd Cwmni – Rhan 1 Gofynion Blynyddol, yn rhoi mwy o wybodaeth am baratoi a ffeilio cyfrifon, ond ni all roi gwybodaeth fanwl am yr hyn y mae’n rhaid i’r dogfennau hyn ei gynnwys – i gael gwybod hyn mae angen i chi edrych ar y ddeddfwriaeth berthnasol. Efallai y byddwch hefyd yn ystyried gofyn i gyfrifydd am gyngor. C. Beth sy’n digwydd os nad wyf yn cyflwyno cyfrifon diwygiedig? A. Gall Tŷ’r Cwmnïau erlyn y cwmni neu’r PAC am beidio â chydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth berthnasol. C. Faint o amser sydd gennyf i gyflwyno cyfrifon diwygiedig i Dŷ’r Cwmnïau? A. Ar ôl i’r cyfrifon diwygiedig gael eu cymeradwyo rhaid iddynt gael eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau ac i unrhyw berson y mae ganddo hawl i dderbyn cyfrifon cyn pen 28 diwrnod ar ôl dyddiad y diwygiad. C. Pa gyfnod mae’n rhaid i’r cyfrifon diwygiedig ymdrin ag ef? A. Rhaid iddynt ymdrin â’r un cyfnod ag yr oedd y cyfrifon gwreiddiol yn ymdrin ag ef. C. Beth sy’n digwydd i’r cyfrifon diffygiol gwreiddiol? A. Mae’r cyfrifon diffygiol gwreiddiol yn aros yn y cofnod cyhoeddus. Oherwydd hyn, mae’n fuddiol labelu’r dogfennau â’r gair ‘Diwygio’. C. Pwy sy’n gyfrifol am baratoi’r cyfrifon diwygiedig? A. Rhaid i’r cyfrifon diwygiedig gael eu paratoi gan y cyfarwyddwyr, neu’r aelodau dynodedig yn achos PAC, fel pe baent yn eu cymeradwyo fel ar ddyddiad y cyfrifon gwreiddiol. C. Oes angen i’r cyfrifon diwygiedig gael eu dyddio? A. Oes. Rhaid i’r cyfrifon nodi’r dyddiad y cymeradwywyd y cyfrifon diwygiedig. C. Beth mae angen ei gynnwys yn y cyfrifon diwygiedig? A. Rhaid i’r cyfrifon gynnwys y tri datganiad canlynol mewn lle amlwg:
A hefyd cynnwys y manylion canlynol mewn lle amlwg:
Rhaid i’r cyfarwyddwyr neu aelodau dynodedig PAC gymeradwyo a llofnodi’r fantolen. C. Oes angen i’r cyfrifon diwygiedig gael eu harchwilio? A. Os lluniodd yr archwilwyr ariannol adroddiad ar y cyfrifon gwreiddiol, rhaid iddynt lunio adroddiad arall. Yn benodol, rhaid i’r adroddiad:
Lle bo’r archwilydd ariannol yn gwmni rhaid i adroddiad yr archwilydd ariannol roi enw’r archwilydd ariannol ac enw’r sawl a’i llofnododd fel uwch archwilydd ariannol statudol ar ran y cwmni. C. Roedd y cwmni wedi’i eithrio rhag archwilio ariannol o’r blaen. Ar ôl i’r cyfrifon gael eu diwygio, nid yw’r cwmni wedi’i eithrio rhag archwilio ariannol mwyach. Beth mae’n rhaid i mi wneud? A. Rhaid i’r cwmni gyflwyno adroddiad archwilydd ariannol i Dŷ’r Cwmnïau cyn pen 28 diwrnod ar ôl dyddiad diwygio’r cyfrifon. C. Oes angen i adroddiad diwygiedig y cyfarwyddwyr gael ei archwilio? A. Os lluniodd yr archwilwyr ariannol adroddiad ar y cyfrifon gwreiddiol, rhaid iddynt lunio adroddiad arall i’r aelodau. Yn benodol, rhaid i adroddiad yr archwilydd ariannol;
Lle bo’r archwilydd ariannol yn gwmni rhaid i adroddiad yr archwilydd ariannol roi enw’r archwilydd ariannol ac enw’r sawl a’i llofnododd fel uwch archwilydd ariannol statudol ar ran y cwmni. C. Allaf i ddal i ffeilio cyfrifon cryno diwygiedig? A. Bydd hynny’n dibynnu ar ba mor fawr yw’r diwygiadau ac a fyddent yn effeithio ar gynnwys y cyfrifon cryno. Pe na bai’r cwmni neu’r PAC yn gymwys i ffeilio cyfrifon cryno endidau bach neu ganolig ar ôl y diwygiad neu lle bo’r diwygiad yn effeithio ar gynnwys y cyfrifon cryno, rhaid i’r cyfarwyddwyr neu aelodau dynodedig y PAC naill ai:
Lle byddai’r cyfrifon cryno, o’u paratoi trwy gyfeirio at y cyfrifon diwygiedig, yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Cwmnïau, rhaid i’r cyfarwyddwyr neu aelodau dynodedig y PAC gyflwyno:
Lle bo cyfrifon cryno wedi cael eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau nad ydynt yn cydymffurfio â darpariaeth y Ddeddf Cwmnïau, ond lle bo’r cyfrifon a baratowyd i’r aelodau yn cydymffurfio:
C. Beth sy’n digwydd i’r set wreiddiol o gyfrifon ar ôl i’r cyfrifon diwygiedig gael eu cyflwyno? A. Y cyfrifon diwygiedig sy’n cael eu trin fel y cyfrifon statudol am y cyfnod ariannol hwnnw. Ni fydd Tŷ’r Cwmnïau yn dileu’r ddogfen wreiddiol o gofnod y cwmni. C. Rwyf wedi anfon cyfrifon diwygiedig i mewn ond maent wedi cael eu gwrthod fel set ddyblyg o’r cyfrifon gwreiddiol. A. Rhaid i unrhyw gyfrifon diwygiedig gael eu marcio’n glir fel ‘Diwygio’ ar y dudalen flaen. Os nad ydynt wedi’u marcio fel hyn cânt eu gwrthod fel cyfrifon dyblyg. C. Dim ond rhan o gyfrifon y cwmni rwyf eisiau’i diwygio. Oes rhaid i mi gyflwyno cyfrifon diwygiedig llawn? A. Nac oes. Os nad oes angen i chi ddiwygio ond rhan o’ch cyfrifon, cewch ddewis gwneud hynny trwy gyflwyno nodyn atodol. Mae hyn yn golygu paratoi nodyn sy’n dangos y cywiriadau sydd i gael eu gwneud i’r ddogfen wreiddiol. Mae diwygio trwy nodyn atodol yn golygu bod y cyfrifon diwygiedig yn cynnwys y cyfrifon diffygiol gwreiddiol a’r nodyn atodol. Mae angen i’r nodyn atodol gael ei lofnodi. C. Oes yna gamgymeriadau cyffredin sy’n arwain at gwynion? A. Oes, rydym ni’n cael amrywiaeth fawr o gwynion. Ar y cyfan mae’r cwynion mynychaf yn cael eu hachosi gan gamgymeriadau rhifyddol syml. Ond rydym hefyd yn ymdrin â chwynion ynghylch cwmnïau mawr a bach nad oes ganddynt hawl i eithriad rhag archwilio ariannol neu nad ydynt wedi datgelu gwybodaeth ynghylch eu his-gwmnïau, er enghraifft. Rhaid i gyfarwyddwyr y cwmni fodloni eu hunain bod y cyfrifon yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. C. Beth yw’r darpariaethau sy’n ymwneud â diwygio cyfrifon diffygiol? A. Mae Adran 454 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn darparu ar gyfer diwygio cyfrifon diffygiol yn wirfoddol. Mae Adran 455 yn rhoi awdurdod i’r Ysgrifennydd Gwladol ofyn am gyfrifon diwygiedig. Mae’r adrannau hyn yn cael eu cymhwyso i PAC trwy Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cyfrifon ac Archwilio) (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2008 (OS 2008/1911). C. Ble allaf i gael mwy o wybodaeth? A. Mae mwy o wybodaeth am gyfrifon ac adroddiadau ar gael yn ein canllaw Bywyd Cwmni – Rhan 1 Gofynion Blynyddol. Neu gallwch gael mwy o wybodaeth o’r darnau canlynol o ddeddfwriaeth:
|
||