|
|
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin - Pryd mae dyddiad dyledus fy ffurflen flynyddol a sut mae mynd ati i’w ffeilio?Mae ffurflen flynyddol yn giplun o wybodaeth gyffredinol am gyfarwyddwyr, ysgrifennydd (os penodwyd un), cyfeiriad swyddfa gofrestredig, cyfranddeiliaid a chyfalaf cyfrannau cwmni. Mewnlofnodwch i’n gwasanaeth WebFiling i wirio manylion eich cwmni ac i gadarnhau eich dyddiadau ffeilio. Cewch weld pa mor syml yw hi drwy wylio ein harddangosiad fideo (Saesneg yn unig) Y ffordd rwyddaf a rhataf o lenwi eich ffurflen flynyddol yw trwy ddefnyddio ein gwasanaeth WebFiling am ffi o £13, neu drwy ddefnyddio Pecyn Software Filing priodol. Ymunwch â gwasanaeth eAtgoffa a bydd Tŷ’r Cwmnïau yn anfon e-bost atoch chi pan fydd eich ffurflen flynyddol yn ddyledus i’w ffeilio. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn darparu canllawiau manwl hefyd i’ch helpu chi i ddeall y Ffurflen Flynyddol a sut i ffeilio ar bapur. Tŷ’r CwmnïauArddangosiad fideo WebFiling.(Saesneg yn unig) Gweld pa mor symyl yw hi i ddefnyddio WebFiling i gyflwyno’ch dogfennau... |
|