|
Cwestiynau Cyffredin am Erthyglau Cymdeithasiad
Pa bryd y bydd yr erthyglau enghreifftiol drafft ar gael? Gwnaed Rheoliadau Cwmnïau (Erthyglau Enghreifftiol) 2008 ar 16 Rhagfyr 2008. Mae fersiwn derfynol yr Erthyglau Enghreifftiol ar gael yn awr..
I bwy y bydd yr erthyglau enghreifftiol drafft yn gymwys?
Mae Erthyglau Enghreifftiol yn berthnasol i gwmnïau preifat a chyhoeddus a gorfforir ar neu ar ôl 1 Hydref 2009 sy’n dewis eu mabwysiadu’n gyfan neu gyda diwygiadau. Hefyd meant yn berthnasol yn awtomatig i gwmnïau a ffurfir o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 oni fônt yn cofrestru eu herthyglau eu hunain. Mae’r erthyglau enghreifftiol hyn yn berthnasol i gwmnïau newydd a gorfforir ar neu ar ôl 1 Hydref 2009. Os yw’r cwmni arfaethedig yn dewis mabwysiadu erthyglau enghreifftiol heb unrhyw ddiwygiadau nid oes angen iddo anfon copi o’r erthyglau i Dŷ’r Cwmnïau
Beth yw Tabl A?
Rhaid i bob cwmni fabwysiadu Erthyglau Cymdeithasiad pan fyddant yn corffori. Mae Tablau A i F Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) 1985 (a elwir Tabl A fel arfer) yn nodi erthyglau enghreifftiol safonol, y gall cwmnïau eu defnyddio fel sail i'w herthyglau eu hunain. Os na fydd cwmnïau yn cofrestru eu herthyglau cymdeithasiad eu hunain, bydd Tabl A yn berthnasol yn eu habsenoldeb.
Pam y diwygiwyd Tabl A?
Cafodd Tablau A i F eu diwygio er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â newidiadau a wneir i'r gyfraith gwmnïau. Aeth y Llywodraeth ati i lunio rheoliadau ym mis Medi 2007 a oedd yn gwneud diwygiadau i reoliadau Tabl A er mwyn galluogi cwmnïau newydd sy'n cael eu sefydlu ar 1 Hydref 2007 neu wedi hynny, i fanteisio ar Ddarnau o Ddeddf Cwmnïau 2006 a ddaeth i rym erbyn y dyddiad hwnnw, ac i osgoi gwrthdaro gyda'r Darnau hyn.
Beth sydd wedi newid?
Nodir y newidiadau a wnaethpwyd yn Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) (Diwygiad) 2007 a Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) (Diwygiad) (Rhif 2) 2007, sydd ar gael ar wefan OPSI a / neu a nodir mewn datganiad ar wefan BIS.
I bwy y mae Tabl A newydd yn berthnasol?
Mae Tabl A newydd yn berthnasol i gwmnïau newydd a gorfforwyd ar 1 Hydref 2007 neu ar ôl hynny, na fyddant yn cofrestru eu herthyglau eu hunain pan fyddant yn gwneud cais i gael eu corffori. Nid oes yn rhaid i gwmnïau ddefnyddio Tabl A fodd bynnag ac mae modd iddynt ysgrifennu eu herthyglau eu hunain neu eu seilio ar erthyglau Tabl A. Os na fydd cwmnïau yn cofrestru eu herthyglau cymdeithasiad eu hunain, bydd Tabl A yn berthnasol yn eu habsenoldeb
Pryd gafodd y Tabl A newydd ei gyflwyno?
Daeth y Tabl A newydd i rym ar ddydd Llun, 1 Hydref 2007.
Sut mae'r newidiadau hyn yn ymwneud â'r erthyglau enghreifftiol drafft newydd a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2009?
Cafodd y rheoliadau sy'n nodi'r erthyglau enghreifftiol eu gwneud ym mis Rhagfyr 2008 a chychwynnodd ar 1 Hydref 2009. Ni fydd y newidiadau i Dabl A yn cael unrhyw effaith ar yr erthyglau enghreifftiol nac ar amseriad eu cyflwyno. Pan daeth yr erthyglau enghreifftiol i rym yn 2009 , buont yn disodli Tabl A fel yr erthyglau rhagosodedig: ond ni fydd cwmni sydd eisoes â Thabl A diwygiedig yn erthyglau iddo, yn cael ei effeithio gan yr erthyglau enghreifftiol oni bai ei fod yn dewis newid iddynt.
Rydw i ar fin cofrestru cwmni newydd – sut mae hyn yn effeithio arnaf?
Mae'r newidiadau a wnaethpwyd gan y Llywodraeth i Dabl A ym mis Medi 2007 wedi sicrhau bod yr erthyglau a fydd yn berthnasol pan na fydd cwmni yn cofrestru ei erthyglau ei hun, yn cyd-fynd â'r gyfraith gwmnïau a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2007.
Sut fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gwmni sy'n bodoli eisoes?
Nid yw'r Tabl A newydd yn effeithio ar gwmnïau sy'n bodoli eisoes oni bai eu bod yn dewis ei fabwysiadu. Gall cwmnïau sy'n bodoli eisoes ddewis diwygio'u herthyglau cymdeithasiad presennol, trwy gyfrwng penderfyniad arbennig, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r newidiadau a wnaethpwyd i'r gyfraith fel y'u mynegwyd yn y Tabl A diwygiedig.
Ydy Tabl A ar gael ar wefan Tŷ'r Cwmnïau?
Ydy, mae'r fersiwn diweddaraf Tabl A ar gael ar wefan Tŷ'r Cwmnïau.
Beth yw'r diwygiadau diweddaraf i Dablau C ac E a pha bryd y byddant yn dod i rym?
Ym mis Ebrill 2006 diwygiwyd darpariaeth 54 o Dabl C a darpariaeth 2 o Dabl E i’w gwneud yn gyson â Deddf Cwmnïau 2006.
Roedd Rheoliad 54 o Dabl C (pleidlais aelodau) yn amwys yn nhermau a oedd yn caniatáu i’r dirprwyon sy’n gweithredu ar ran aelodau o gwmni wedi ei gyfyngu drwy warant yr hawl newydd i bleidleisio trwy godi dwylo a ragnodir gan adrannau 284 a 324 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Bellach sonnir yn benodol am ddirprwyon yn y rheoliad.
Mae Rheoliad 38 o Dabl E yn pennu cyfnod rhybudd o 7 diwrnod ar gyfer cyfarfodydd cyffredinol cwmnïau anghyfyngedig. Roedd hyn yn gwrthdaro ag adran 307 o Ddeddf Cwmnïau 2006 sy’n mynnu o leiaf 14 diwrnod o rybudd, felly dilëwyd rheoliad 38 o Dabl E. .
A fydd hefyd fodel enghreifftiol o erthyglau ar gyfer cwmnïau sydd wedi'u cyfyngu drwy warant?
Bydd.
|