|
|
Cwestiynau Cyffredin am Ganghennau a Mannau BusnesC. A gaf i gofrestru cangen neu leoliad busnes ar ôl 1 Hydref 2009? A. Mae Rheoliadau Cwmnïau Tramor 2009/1801, a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2009, yn creu un drefn o gofrestru sefydliad yn y DU i gymryd lle’r hen drefn ddeuol o gofrestru canghennau a lleoliadau busnes. Ar ôl 1 Hydref, dim ond sefydliad yn y DU y cewch ei gofrestru. C. Beth am leoliadau busnes a changhennau sy’n bodoli eisoes? A. Byddwn yn tybio’n awtomatig bod yr holl ganghennau a lleoliadau busnes a gofrestrwyd cyn 1 Hydref 2009 yn sefydliadau yn y DU ar ôl 1 Hydref 2009. C. A oes unrhyw newidiadau penodol i leoliadau busnes sy’n bodoli eisoes? A. Cyn 1 Hydref 2009, roedd gan y lleoliad busnes yr un rhif cofrestru â’r cwmni tramor – gyda’r llythrennau ‘FC’ ‘SF’ neu ‘NF’ ar ddechrau’r rhif. Ar ôl 1 Hydref 2009, cafodd pob lleoliad busnes rif ‘BR’, sy’n golygu y bydd gan bob sefydliad sydd gan gwmni tramor yn y DU y llythrennau blaen ‘BR’ cyn y rhif cofrestru. Mae hyn yn ogystal â rhif y cwmni tramor a fydd yn aros yr un fath (yn cychwyn ag FC, SF neu NF). C. Roedd gen i gangen neu leoliad busnes cyn 1 Hydref 2009. A oes angen i mi ffeilio unrhyw beth er mwyn ei drosi’n sefydliad yn y DU? A . O dan Reoliadau Cwmnïau Tramor 2009, mae gofynion ffeilio penodol yn berthnasol i sefydliadau cwmnïau tramor yn y DU. Bydd angen i unrhyw ganghennau neu leoliadau busnes a gofrestrwyd cyn 1 Hydref 2009 sicrhau bod y wybodaeth sydd gan Dŷ’r Cwmnïau yn gyson â’r gofynion ar gyfer sefydliad yn y DU ar ôl 1 Hydref 2009. Os oes gwybodaeth ar goll, bydd angen i’r gangen neu’r lleoliad busnes ffeilio ffurflen drosiannol (OS TN01) er mwyn sicrhau bod y wybodaeth gywir gan Dŷ’r Cwmnïau. Roedd Deddf Cwmnïau 1985 yn gofyn bod canghennau’n ffeilio mwy o wybodaeth na lleoliadau busnes, ac felly mae’n fwy tebygol y bydd angen i leoliad busnes ffeilio OS TN01. Fodd bynnag, mae’r gofyniad yn berthnasol i’r ddau. C. Ble mae dod o hyd i’r rheoliadau? A. Y Rheoliadau Cwmnïau Tramor (2009 (NO. 1801) yw’r ddeddfwriaeth berthnasol. Canghennau a mannau busnes Gogledd Iwerddon C. Oes angen i mi ddiwygio cofrestriad fy nghangen / man busnes yng Ngogledd Iwerddon? A. Ar 1 Hydref 2009, diwygiodd Rheoliadau Cwmnïau Tramor 2009 (OS 2009/1801) y gyfraith er mwyn creu un drefn o dan y gyfraith cwmnïau ar gyfer cwmnïau tramor a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig (Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon). Cwmnïau y DU fydd y cwmnïau yn hytrach na chwmnïau Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, a bydd yr un ddeddfwriaeth yn berthnasol i bawb. Am hynny, ni fydd angen i gwmni Prydain Fawr gofrestru cangen neu leoliad busnes yng Ngogledd Iwerddon mwyach, nac i’r gwrthwyneb chwaith C. Sut mae dileu cofrestriad cangen/lleoliad busnes nad oes angen amdano mwyach? A. Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi ysgrifennu at bob cwmni y mae’r ddeddfwriaeth yn effeithio arno ac roedd ffurflen bwrpasol ynghlwm i’ch galluogi i gadarnhau a ydych am ddileu cofrestriad lleoliad busnes neu gangen. Bydd y llythyr yn gofyn i chi ddychwelyd y ffurflen (drwy’r post neu trwy e-bost) i gadarnhau’r camau priodol i’w cymryd. Fel arall, cewch gyflwyno hysbysiad ar bapur brig y cwmni ag arno lofnod rhywun ag awdurdod o fewn y cwmni (fel cyfarwyddwr neu gynrychiolydd parhaol) i wneud cais o’r fath. Os ydych chi am anfon eich hysbysiad eich hun, dylech ei anfon i’r cyfeiriad hwn: Gwasanaeth Cofrestru Cwmnïau C. A ddylwn i ffeilio’r cais am ddileu ym Melffast ynteu Caerdydd? A. Dylech anfon eich cais i’n prif swyddfa yng Nghaerdydd (gweler y manylion uchod). C. Beth os oes morgeisi’n ddyledus ar y gangen neu’r mannau busnes? A. Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn ymdrin ag unrhyw faterion sy’n ymwneud â’r gangen neu’r lleoliad busnes cyn gwneud cais am gau’r busnes. Mae’n bosibl y bydd angen i chi geisio’ch cyngor eich hun am y ffordd orau o ddelio ag unrhyw daliadau sy’n ddyledus. C. A fydd hyn yn effeithio ar statws Credyd y Cwmni? A. Daeth cofrestriad y gangen/man busnes i ben ar 1 Hydref 2009 yn sgil newid yn y gyfraith. Nid oes angen i gwmni Prydain Fawr gofrestru lleoliad busnes yng Ngogledd Iwerddon mwyach, nac i’w gwrthwyneb chwaith. Nid yw’r gangen/man busnes yn cael ei ddirwyn i ben na’i ddatod oherwydd ystyriaethau ariannol ac felly ni fydd hyn yn effeithio dim ar eich statws credyd. . |
|