|
|
Tystysgrif statws cydnabyddedig, ffeithiau ardystiedig a thystysgrifau ardystiedigBeth yw tystysgrif statws cydnabyddedig?Mae tystysgrif statws cydnabyddedig yn datgan bod cwmni wedi bod mewn bodolaeth barhaol, di dor ers ei gorfforiad a does dim gweithred i ddileu'r cwmni o'r gofrestr yn gyfredol Pa feini prawf y mae'n rhaid i'r cwmni eu bodloni i gael tystysgrif statws cydnabyddedig?Rhaid i ffurflen flynyddol a chyfrifon diweddara'r cwmni fod wedi'u ffeilio, ac:
*lle daeth yn ofynnol i'r cwmni fod â chyfarwyddwr oedd yn berson naturiol ar 1 Hydref 2008 Oes modd cynnwys manylion (ffeithiau) ychwanegol ar y dystysgrif?Oes, ar gais gall y tystysgrif cynnwys unrhyw rai o'r manylion canlynol fel ffeithiau ardystiedig:
Gellir adio manylion ychwanegol (e.e. dyddiad geni, cenedligrwydd ac ati) os gofynnir am hynny. Sut galla i gael tystysgrif (statws cydnabyddedig, tystysgrif gwir, tystysgrif ardystiedig)?Gallwch archebu tystysgrif gan:
Mae archeb gwasanaeth safonol yn costio £20.00 ac yn cael ei phrosesu cyn pen 4 diwrnod gwaith. Mae archeb gwasanaeth yr un diwrnod yn costio £60.00 ac yn cael ei phrosesu'r diwrnod hwnnw os caiff ei harchebu cyn 2:00pm, neu ei chyflawni'r diwrnod gwaith nesaf os caiff ei harchebu ar ôl 2:00pm. Anfonir archebion tystysgrifau trwy'r post (post wedi'i warantu'r diwrnod nesaf ar gyfer archebion yr un diwrnod), neu gallwch ofyn am gael casglu'ch tystysgrif o un o'n swyddfeydd. Pwy sy'n cyfreithloni dogfen neu dystysgrif?Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) sydd â'r swyddogaeth o ddilysu (neu 'gyfreithloni') dogfennau i'w defnyddio yn y gwledydd a lofnododd Gonfensiwn yr Hâg 1961. Mae hyn yn caniatáu i'r dogfennau fod â'r un dilysrwydd yn y gwledydd hynny ag sydd ganddynt yn y DU. I gael 'cyfreithloni' un o ddogfennau Tŷ'r Cwmnïau gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad rhaid bod arni lofnod gwreiddiol neu sêl un o swyddogion cyhoeddus Prydain. |
|