|
|
* Gwnewch pob ffi yn daladwy daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’, Cwestiynau Cyffredin am Newid Enw Cwmni Am wybodaeth lawn, gweler ein llyfryn canllaw GP1 – Corffori ac Enwau Sut mae mynd ati i newid enw fy nghwmni? Gall cwmni newid ei enw:
Os ydych chi’n newid enw’r cwmni trwy benderfyniad arbennig, rhaid i chi ffeilio copi o’r penderfyniad a ffurflen NM01c . Rhaid i’r NM01c gynnwys y ffi briodol. Mae templed ar gyfer penderfyniad arbennig am newid enw ar gael yn - http://www.companieshouse.gov.uk/forms/generalForms/NewSpecialResolution.pdf Os ydych chi’n newid enw’r cwmni trwy ddull y mae erthyglau’r cwmni’n darparu ar ei gyfer, rhaid i chi ffeilio ffurflen NM04 a’r ffi briodol. Sut mae mynd ati i gyflwyno fy nghais i newid enw’r cwmni? Cewch ffeilio eich cais yn electronig trwy Software Filing, neu ar bapur. Software Filing Codir £8 am y gwasanaeth safonol, a £30 am y gwasanaeth yr un diwrnod. Dim ond trwy ddefnyddio meddalwedd pwrpasol y gellir ffeilio ceisiadau am Newid Enw yn electronig. Mae llawer o asiantau ffurfio cwmnïau a darparwyr meddalwedd wedi datblygu eu systemau er mwyn cynnig gwasanaeth electronig ar y we i gwsmeriaid (codir tâl am hyn). Mae rhestr o gwmnïau ffeilio meddalwedd ar gael ar ein gwefan yn y cyfeiriad canlynol - www.companieshouse.gov.uk/toolsToHelp/formationAgents.shtml Caiff ceisiadau electronig eu prosesu’n gynt na cheisiadau sy’n cael eu ffeilio ar bapur. WebFiling £8 yw’r ffi safonol neu £30 am y gwasanaeth yr un diwrnod. Fe allwch ddefnyddio’r gwasanaeth WebFiling er mwyn ffeilio’ch newid enw (dim ond yn Saesneg ar hyn o bryd) ynghyd â ffeilio dogfennau eraill. Gweler y tudalen we canlynol https://ewf.companieshouse.gov.uk/?lang=cy i gael gwybodaeth bellach ynglŷn â WebFiling. Ffeilio ar bapur Codir ffi o £10 am y gwasanaeth safonol neu £50 am y gwasanaeth yr un diwrnod. Ein nod yw prosesu dogfennau safonol cyn pen 5 diwrnod ar ôl iddynt ddod i law. Dylech ysgrifennu eich siec i ‘Tŷ’r Cwmnïau’. Os ydych chi’n ffeilio ceisiadau ‘Yr Un Diwrnod’ drwy’r post, trwy negesydd neu â llaw, sicrhewch eich bod yn ysgrifennu ‘Yr Un Diwrnod’ (‘Same Day’) yn glir ar yr amlen. Dim ond ceisiadau sy’n dod i law cyn 3pm dydd Llun-Gwener a gaiff eu prosesu’r diwrnod hwnnw. Bydd dogfennau sy’n cael eu ffeilio ar bapur yn cymryd mwy o amser i’w prosesu na dogfennau sy’n cael eu ffeilio’n electronig. Dylid nodi y caiff eich cais ei wrthod os na fyddwch chi’n cyflwyno’r ffi gyda’r ffurflen NM01c neu NM04. D.S. Defnyddiwch y gwasanaeth WebCHeck i sicrhau nad yw eich enw newydd arfaethedig yr un fath ag enw cwmni sy’n bodoli eisoes. Beth yw penderfyniad arbennig? Mae penderfyniad arbennig yn benderfyniad a gaiff ei fabwysiadu mewn cyfarfod cyffredinol o’r cwmni gan 75% o’r aelodau hynny sydd â hawl i bleidleisio. Beth yw penderfyniad ysgrifenedig? Gall penderfyniad ysgrifenedig fod yn benderfyniad cyffredin neu’n benderfyniad arbennig. Os yw’r cwmni’n cymeradwyo penderfyniad ysgrifenedig i newid ei enw, rhaid iddo fod yn benderfyniad arbennig ysgrifenedig. Nid oes angen cynnal cyfarfod, ond rhaid i o leiaf 75% o’r aelodau gymeradwyo’r penderfyniad. Mae rhagor o wybodaeth am benderfyniadau a newid enw cwmni ar gael yn ein llyfryn canllaw, ‘Bywyd Cwmni – Rhan 2 Ffeilio yn Sgil Digwyddiadau – GP3’. A gaiff cwmni sy’n ymddatod newid ei enw? Caiff, ond dim ond os oes gan y datodydd yr awdurdod i wneud hynny. A gaiff cwmni yn nwylo Gweinyddwr neu yn nwylo Derbynnydd Gweinyddol newid ei enw? Caiff, ond mae’n bosibl y bydd angen caniatâd y Gweinyddwr neu’r Derbynnydd Gweinyddol i wneud hyn. |
||