Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cwestiynau Cyffredin am Gywiro’r Gofrestr Arwystlon trwy Swyddfa’r Cyfreithiwr Erlyn

GWNEUD CAIS I'R LLYS I GYWIRO'R GOFRESTR ARWYSTLON STATUDOL YN UNOL AG ADRANNAU 873 AC 888 O DDEDDF CWMNÏAU 2006

Cyflwyniad

Ymysg yr ymholiadau mwyaf cyffredin a gawn ni yn ein hadran Morgeisi mae ceisiadau i gywiro manylion ar y gofrestr arwystlon. Camgymeriadau gan y bobl a gyflwynodd y wybodaeth am arwystlon sydd y tu ôl i’r mwyafrif o’r ceisiadau hyn, a hynny am eu bod wedi nodi'r wybodaeth anghywir ar y dogfennau a gyflwynwyd i'r Cofrestrydd Cwmnïau (y "Cofrestrydd") (sef y ffurflen MG01 neu’r ffurflen gyfatebol, a'r offeryn arwystlo fel rheol).

Mae Deddf Cwmnïau 2006 (y “Ddeddf”) yn rhoi awdurdodaeth i’r llys orchymyn i’r Cofrestrydd gywiro camddatganiad neu hepgoriad yn y manylion a gofnodwyd ar y gofrestr arwystlon (o dan adran 873 o’r Ddeddf yn achos cwmnïau a gofrestrwyd yn Lloegr a Cymru neu Ogledd Iwerddon, ac o dan adran 888 o’r Ddeddf yn achos cwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban).

Dylech fod yn ymwybodol nad yw grym y llys o dan yr adrannau hyn yn ymestyn y tu hwnt i gywiro manylion ar y gofrestr arwystlon. Is-set annibynnol o’r gofrestr gyhoeddus yw’r gofrestr arwystlon. Nid yw’r gofrestr arwystlon yr un fath â'r gofrestr gyhoeddus. Pan gaiff cais i gofrestru arwystl ei gyflwyno i'r cofrestrydd yn y ffordd briodol, bydd y cofrestrydd yn dethol y wybodaeth briodol, ac yn nodi manylion rhagnodedig yr arwystl ar y gofrestr arwystlon. Ar ôl cofrestru’r manylion ar y gofrestr arwystlon, bydd y Cofrestrydd yn paratoi’r dystysgrif cofrestru ac yn ei chyhoeddi, ac yn rhoi copi o’r dystysgrif a’r wybodaeth ffeilio wreiddiol (yr MG01 neu’r ffurflen gyfatebol) ar y gofrestr gyhoeddus. Ni fydd y wybodaeth ffeilio wreiddiol na'r dystysgrif cofrestru yn rhan o'r gofrestr arwystlon, ac nid yw awdurdodaeth y llys o dan adran 873 (neu Adran 888) yn cwmpasu cywiro diffygion ar y dogfennau hyn.

Nod y Cwestiynau Cyffredin isod yw trafod sefyllfa’r Cofrestrydd mewn perthynas â cheisiadau cywiro a gyflwynir i’r Llys o dan adrannau 873 ac 888 o’r Ddeddf. Nid ydynt yn trafod ceisiadau i ymestyn hyd cofrestriad arwystl, gan gynnwys Gorchmynion Re Charles

1. O dan ba amgylchiadau y bydd angen i mi wneud cais i gywiro’r Gofrestr yn unol ag adrannau 873/888 o’r Ddeddf?

Os ydych chi wedi cofrestru arwystl a grëwyd gan gwmni yn unol ag Adran 25 o’r Ddeddf (neu’r darpariaethau cyfatebol ar gyfer Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig) a’ch bod wedi sylwi bod manylion yr arwystl a gofrestrwyd yn anghywir, yna bydd angen i chi wneud cais i’w cywiro o dan adran 873/888 o’r Ddeddf. Mae rheoliadau [OS 2008/2996] yn rhagnodi manylion arwystlon, ac maent fel a ganlyn:

  • Dyddiad creu’r arwystl;
  • Disgrifiad o’r offeryn sy’n creu neu’n tystio i’r arwystl (os oes un);
  • Y swm a ddiogelir gan yr arwystl;
  • Enw a chyfeiriad y person a chanddo hawl i’r arwystl; a
  • Manylion cryno’r eiddo y mae’r arwystl yn ei gwmpasu.

Gallai achosion godi lle cyflwynir hysbysiad am foddhad ag arwystl ar gam. Mewn achosion o’r fath, bydd angen gwneud cais i ddileu'r cofnodion ar y Gofrestr o dan adran 873/888.

2. Pryd ddylwn i gysylltu â’r Cofrestrydd Cwmnïau?

Dylech gysylltu â’r Cofrestrydd cyn gynted â phosibl gyda’ch cais arfaethedig ar ffurf drafft (ynghyd â Gorchymyn drafft). Bydd hyn yn galluogi iddo gymeradwyo’r cais/Gorchymyn, neu awgrymu diwygiadau y gall y ddau barti gytuno arnynt.

3. Sut mae mynd ati i wneud cais o’r fath?

Dylech ystyried gofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol cyn cyflwyno unrhyw gais i’r llys. Dylech gyfeirio hefyd at Reolau Gweithdrefnau Sifil 1998 (fel y’i diwygiwyd), gyda golwg ar wneud cais o dan Adran 8 o’r rheolau hyn. I gael rhagor o wybodaeth am y Rheolau Gweithdrefnau Sifil, ewch i www.justice.gov.uk/civil/procrules_fin/

Mae Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yn cynnig canllawiau ar wneud cais i gywiro hefyd. Mae’r rhain ar gael yn:

www.hmcourts-service.gov.uk/HMCSCourtFinder/GetForm.do?court_forms_id=2262

4. A fydd angen i mi gynnwys y Cofrestrydd Cwmnïau yn y cais?

Bydd, fe’ch cynghorir i gynnwys y Cofrestrydd fel Diffynnydd yn yr achos am mai ef fydd yn gorfod diwygio’r Gofrestr yn sgil Gorchymyn cywiro gan y llys.

5. A fydd y Cofrestrydd yn cydsynio i’r cais?

Nid yw’r Cofrestrydd yn cydsynio i geisiadau am ei fod yn teimlo bod rhyddid i gywiro’n beth disgresiynol, a’i bod yn bwysig bod y llys yn penderfynu a ddylid gorchymyn cywiriad ai peidio ar sail y dystiolaeth sydd ger ei fron. Fodd bynnag, os nad yw’r Cofrestrydd yn gwrthwynebu’r gorchymyn ac oes cytundeb na chaiff unrhyw orchymyn ei wneud yn ei erbyn o ran costau, bydd yn cadarnhau ei sefyllfa i'r llys yn ysgrifenedig.

6. Beth ddylwn i ei gynnwys yn fy Ngorchymyn drafft?

Mae’n bwysig bod y gorchymyn drafft yn glir wrth adnabod yr arwystl sydd dan sylw er mwyn sicrhau bod modd canfod yr arwystl cywir. Nid yw geiriad tebyg i hyn yn anghyffredin mewn gorchmynion drafft ar gyfer awdurdod i gywiro:

"PAN fydd y Llys yn fodlon bod y camddatganiad, [rhowch y manylion], yn fater o amryfusedd a'i bod yn gyfiawn ac yn deg rhoi awdurdod yn unol ag adran 873/888 o Ddeddf Cwmnïau 2006

GORCHMYNNIR FEL A GANLYN

1. Pan ddaw Copi Swyddogol o’r Gorchymyn hwn i law’r Diffynnydd, caiff y gofrestr arwystlon statudol mewn perthynas ag arwystl yr Hawliwr, dyddiedig [           ,] a gyflwynwyd gan yr Hawliwr ar gyfer [          ] ac a gofrestrwyd gan y Diffynnydd ar [          ] ei chywiro trwy ddileu’r geiriau [          ], a gosod y geiriau [          ] yn eu lle.

7. A fydd y Cofrestrydd yn mynychu unrhyw wrandawiad?

Os yw’r Cofrestrydd yn hapus i gymeradwyo’r cais, ni fydd yn mynychu unrhyw wrandawiad. Mae hyn am fod y Cofrestrydd am gadw’r costau i isafswm. Fodd bynnag, os yw’r cyflwynwyr yn codi meysydd newydd o ran y gyfraith, mae’r Cofrestrydd yn cadw’r hawl i gyflwyno ei sylwadau gerbron y llys.

8. Os bydd y llys yn gwneud Gorchymyn – beth ddylwn i ei wneud wedyn?

Dylech anfon copi o’r Gorchymyn i adran Gyfreithiol Tŷ’r Cwmnïau dan sêl. Bydd y cyfreithwyr yn sicrhau bod y Gorchymyn yn dderbyniol, ac yn ei anfon ymlaen i'r adran brosesu er mwyn gwneud y trefniadau priodol i gywiro'r Gofrestr.

9. Pa mor hir y bydd y Cofrestrydd yn ei gymryd i weithredu ar y Gorchymyn a diwygio’r Gofrestr?

Mae’n dibynnu ar y baich gwaith sydd ar Dŷ’r Cwmnïau ar y pryd. Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi pan fyddwn ni wedi diwygio’r Gofrestr.

10. Sut mae osgoi’r angen am wneud cais i ddiwygio’r Gofrestr?

Dylech sicrhau bod manylion yr arwystl yn gywir cyn eu hanfon at y Cofrestrydd. Mae’r ddeddfwriaeth yn gofyn bod manylion yr arwystl yn cael eu cyflwyno ar ffurflen bwrpasol, ynghyd â’r weithred wreiddiol a’r ffi. Mae hi bob amser yn syniad da edrych eto i sicrhau bod manylion yr arwystl yn y weithred yn cyd-fynd â’r manylion ar y ffurflen. Dylech sicrhau hefyd bod y manylion o ran bodloni’r arwystl yn adlewyrchu’r sefyllfa ar y pryd h.y. a fodlonwyd yr arwystl go iawn; a yw’r arwystl wedi ei fodloni’n rhannol yn hytrach na’n llwyr.

11. Ble mae cael rhagor o wybodaeth?

Cewch gysylltu â’r adran Cymorth Morgeisi trwy Ganolfan Gyswllt Tŷ’r Cwmnïau trwy ffonio 0303 1234 500.

Brig
Ein polisi ar gwcis