Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cwestiynau Cyffredin am W einyddu Cwmnïau, Gwrthwynebiadau A Chyfarwyddiadau

Sut rhodda i wybod am anufuddhau i'r Ddeddf Cwmnïau?
Darparwch fanylion llawn yn ysgrifenedig, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth, megis copi o'r pennawd llythyr yn achos torcyfraith yn ymwneud â deunydd ysgrifennu, neu ohebiaeth berthnasol gan y cwmni, i gael eu hystyried.

All Tŷ'r Cwmnïau ganiatáu estyniad ar gyfer ffeilio cyfrifon?
Gallwn ystyried estyn yr amser ffeilio o dan amgylchiadau eithriadol ond byddai arnon ni angen cais ysgrifenedig (llythyr neu ffacs - Rhif ffacs: 029 2038 0652) yn egluro'r rhesymau dros yr oedi a phryd y disgwylir y bydd modd ffeilio. Rhaid i'r cais am estyniad ddod i law erbyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio neu ni ellir ei ystyried. Ni allwn drafod dros y ffôn a fydd y rhesymau a roir yn ddigon i gyfiawnhau estyniad.

Ble mae’n rhaid imi ddatgelu enw fy nghwmni?
Rhaid i bob cwmni (ar wahân i gwmnïau segur) ddangos ei enw cofrestredig yn ei swyddfa gofrestredig a’i fan archwilio.

Mae angen enw’r cwmni hefyd mewn unrhyw leoliad lle mae’n cynnal busnes. Ond os defnyddir y lleoliad hwnnw’n bennaf fel lle byw (er enghraifft, cyfeiriad cyfarwyddwr), caiff y cwmni ei eithrio.

Rhaid i’ch gohebiaeth a’ch dogfennau busnes (gan gynnwys copïau caled o ddogfennau neu’r diwyg electronig neu unrhyw ddiwyg arall) hefyd ddatgelu enw’r cwmni.

Sut mae’n rhaid datgelu enw’r cwmni?
Rhaid i enw’r cwmni gael ei ddangos yn ddi-baid, ond os ydych yn un o chwech neu ragor o gwmnïau sy’n rhannu swyddfa neu fan busnes, dim ond am bymtheg eiliad bob tair munud y bydd yn ofynnol ichi ddangos yr enw. Hwyrach y byddwch am fanteisio ar arddangosiadau electronig at y diben hwn.

Oes rhaid i enw cyhoeddedig y cwmni fod yr un fath yn union â’r enw cofrestredig?
Caiff mân amrywiadau ar ffurf yr enw eu caniatáu, gan gynnwys amrywio llythrennau bach a mawr, defnydd atalnodi, acenion, ac ati, a fformadu. Ond rhaid i’r gwahaniaethau beidio ag arwain at beryg dryswch.

Pa fanylion sydd eisiau ar bennawd llythyr y cwmni?
Rhaid i enw llawn y cwmni, ei rif cofrestru, cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig a lleoliad ei gofrestru (e.e. wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr) gael eu dangos ar bob llythyr busnes a ffurflen archebu.

Rydw i wedi cofrestru Cwmni Cyfyngedig - alla i wrthwynebu bod rhywun yn masnachu o dan fy enw?
Y Llysoedd ddylai ddelio ag unrhyw anghydfod sy'n codi rhwng Cwmni Cyfyngedig ac unig fasnachydd, neu sy'n ymwneud â phartneriaeth neu enw masnachu - awgrymwn eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol.

Alla i wrthwynebu enw cwmni cofrestredig sy’n debyg iawn i enw fy nghwmni i?
Gallwch. Os gallai’r tebygrwydd rhwng yr enwau arwain at ddryswch rhwng cwmnïau, gallwch ysgrifennu atom i gyflwyno’ch achos. Os cadarnhawn eich gwrthwynebiad, byddwn yn cyfarwyddo’r cwmni i newid ei enw ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

Gallwch hefyd wrthwynebu enw os yw’n ganlyniad i “gofrestru manteisgar”, h.y. lle cafodd cwmni ei gofrestru gyda’r bwriad o fynnu arian gan yr achwynydd neu ei (h)atal rhag cofrestru enw y mae ganddo/ganddi ewyllys da ynddo. Rhaid cyfeirio pob rhyw ymholiad a chwyn at y “Tribiwnlys Enwau Cwmni” newydd annibynnol (a elwir hefyd “y Dyfarnydd”). Mae gwybodaeth bellach ar gael gan www.ipo.gov.uk/cna

Alla i gofrestru fy musnes?
Na allwch. Gan i Ddeddf Enwau Busnes 1916 gael ei ddirymu ar 26 Chwefror 1982, does dim angen na modd cofrestru enw busnes mwyach, ac fe ddifodwyd pob ffeil a chofnod sy'n ymwneud â chofrestriadau blaenorol o dan y ddeddfwriaeth honno.

All Tŷ'r Cwmnïau ddarparu sêl gwmni?
Ni ddarparwn seliau cwmni ond gellir eu sicrhau gan ddogfenwyr cyfreithiol neu asiantiaid ffurfio cwmnïau y gwelir eu cyfeiriadau yn y Tudalennau Melyn.

Brig
Ein polisi ar gwcis