Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cwestiynau Cyffredin am y Diwygiadau i Arwystlon

Mae canllawiau ar forgeisi ac arwystlon cwmnïau ar gael ym mhennod 9 o GP3 Bywyd cwmni Rhan 2 – Ffeilio yn Sgil Digwyddiadau.

Pa ddogfennau y mae angen i mi eu ffeilio i gofrestru arwystl a grëwyd ar 6 Ebrill 2013 neu'n ddiweddarach?

Rhif y Ffurflen Disgrifiad/Pwrpas Cyfnod a ganiateir i'w chyflwyno
MR01 / LL MR01 Manylion morgais neu arwystl. 21 diwrnod (sy'n cychwyn y diwrnod ar ôl dyddiad creu'r arwystl).
MR02 / LL MR02 Manylion arwystl y caffaeliwyd eiddo mewn cysylltiad ag ef. D/B
MR03 / LL MR03 Manylion arwystl i ddiogelu cyfres o ddyledebau. 21 diwrnod (sy'n cychwyn ar y diwrnod ar ôl dyddiad cyflawni'r weithred).
MR08 / LL MR08 Manylion morgais neu arwystl lle nad oes unrhyw offeryn. 21 diwrnod (sy'n cychwyn y diwrnod ar ôl dyddiad creu'r arwystl).
MR09 / LL MR09 Manylion arwystl y caffaeliwyd eiddo mewn cysylltiad ag ef lle nad oes unrhyw offeryn. D/B
MR10 / LL MR10 Manylion arwystl i ddiogelu cyfres o ddyledebau lle nad oes unrhyw offeryn. 21 diwrnod (sy'n cychwyn ar y diwrnod ar ôl cyflawni'r ddyledeb gyntaf yn y gyfres).

Dylid nodi bod angen ffeilio'r dogfennau MR08, MR09, MR10 a'r ffurflenni cyfatebol ar gyfer PACau  ar bapur am nad oes yna gyfleuster electronig i gyflwyno'r rhain ar hyn o bryd.

Rhaid i chi anfon copi ardystiedig o'r offeryn gyda phob ffurflen MR01/LL MR01, MR02/LLMR02, MR03/LLMR03. Os oes nifer o gwmnïau arwystlo mewn offeryn, rhaid i gopi ardystiedig o'r offeryn hwnnw ddod gyda phob ffurflen MR01; e.e. rhaid i 10 x copi ardystiedig o offeryn ddod gyda 10 x ffurflen MR01.

Wrth gyflwyno dogfennau MR10 / LL MR10, rhaid anfon copi ardystiedig o un o'r dyledebau yn y gyfres i gyd-fynd â'r ffurflen.

Pa ddogfennau y mae angen i mi eu ffeilio i gofrestru arwystl a grëwyd cyn 6 Ebrill 2013?

Rhif y Ffurflen Disgrifiad/Pwrpas Cyfnod a ganiateir i'w chyflwyno
MG01 / LL MG01 Neu
(MG01s / LL MG01s i gwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban.
Manylion arwystl. 21 diwrnod (sy'n cychwyn y diwrnod ar ôl dyddiad creu'r arwystl).
MG06 / LL MG06 neu
(MG06s / LL MG06s i gwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban
Manylion arwystl y caffaeliwyd eiddo mewn cysylltiad ag ef. 21 diwrnod ((sy'n cychwyn ar y diwrnod ar ôl dyddiad cwblhau'r caffaeliad).
MG07 / LL MG07 neu
(MG07s / LL MG07s i gwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban
Manylion cofrestru arwystl i ddiogelu cyfres o ddyledebau. 21 diwrnod (sy'n cychwyn ar y diwrnod ar ôl cyflawni'r ddyledeb gyntaf yn y gyfres).
MG08 / LLMG08 neu
(MG06s / LL MG08s i gwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban
Manylion dosbarthu dyledebau a ddiogelwyd mewn cyfres. D/B

Rhaid i gwmnïau a gofrestrwyd yn Lloegr a Chymru, Cymru a Gogledd Iwerddon gyflwyno'r offeryn gwreiddiol gyda'r ffurflen. Rhaid i gwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban anfon copi ardystiedig o'r offeryn.

A yw'r cyfyngiad amser o 21 diwrnod yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc?

Ydy.

Beth sydd angen ei nodi yn y disgrifiad cryno ar y ffurflenni hyn?

Mae'r disgrifiadau cryno'n berthnasol i ffurflenni MR01 / LL MR01, MR02 / LL MR02 a MR03 / LL MR03 yn unig

Y cyfan sydd angen ei chyflwyno yw disgrifiad cryno o unrhyw dir, llong, awyren neu eiddo deallusol a gynhwysir yn yr offeryn sy'n gofrestredig yn y DU (neu y mae angen ei gofrestru) ac sy'n destun arwystl (ond nid arwystl ansefydlog) neu ernes sefydlog.

Os oes nifer o ddarnau o dir, awyrennau a/neu longau, cewch ddisgrifio rhai ohonynt yn syml yn y maes testun ac ychwanegu datganiad tebyg i hwn, “am ragor o fanylion, cyfeiriwch at yr offeryn".

Ni all Tŷ'r Cwmnïau ddarparu cyngor manylach am beth y dylid ei gynnwys yn y disgrifiad. Os ydych chi'n ansicr o ran a ddylid cynnwys rhywbeth ai peidio ar sail y ddeddfwriaeth, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol priodol.

Pwy gaiff lofnodi'r ffurflenni?

Gall person a buddiant yn yr arwystl lofnodi'r ffurflenni (mae hyn yn cynnwys unrhyw berson ag awdurdod i lofnodi ar ran cwmni cyfreithiol neu asiant arall sy'n cynrychioli'r pridiannwr neu'r pridiannai).

A gaf i ddileu gwybodaeth bersonol o'r copi o'r offeryn y byddaf i'n ei anfon i Dŷ'r Cwmnïau?

Cewch olygu (dileu) rhai mathau o wybodaeth bersonol o'r copi ardystiedig o'r offeryn cyn ei gyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau. Disgrifir y manylion y wybodaeth y cewch ei golygu yn adran 859G o'r ddeddfwriaeth – yn benodol, cewch ddileu:

  • Gwybodaeth bersonol am unigolyn (ac eithrio enw'r unigolyn)
  • Rhif neu fanylion adnabod eraill cyfrif banc neu gyfrif ernesau cwmni neu unigolyn
  • Llofnod

Beth ddylwn i ei ffeilio i hysbysu bod yr arwystl wedi cael ei fodloni?

Os yw'r ddyled y rhoddwyd yr arwystl mewn perthynas â hi wedi cael ei thalu'n llwyr neu'n rhannol, dylech gyflwyno ffurflen MR04 / LL MR04. Dylech wneud hyn dim ots a gafodd yr arwystl gwreiddiol ei greu cyn neu ar ôl 6 Ebrill 2013.

Beth ddylwn i ei ffeilio i hysbysu bod yr eiddo neu'r ymgymeriad wedi cael ei ryddhau o'r arwystl?

Os yw rhan o'r eiddo neu'r ymgymeriad (neu'r cyfan ohono) wedi cael ei ryddhau o'r arwystl, neu os nad yw'n rhan o eiddo'r cwmni neu'r PAC mwyach, dylech gyflwyno ffurflen MR05 / LL MR05.

Pa ddogfennau gaf i eu ffeilio'n electronig gan ddefnyddio WebFiling neu Software filing?

Cewch ffeilio'r ffurflenni MR01 / LL MR01, MR02 / LL MR02, MR04 / LL MR04 a MR05 / LL MR05 yn electronig gan ddefnyddio naill ai WebFiling neu Software filing. Dyma'r dull cyflymaf, rhataf a mwyaf hwylus o ffeilio dogfennau.

Sut mae mynd ati i ffeilio'r copi ardystiedig o'r offeryn yn electronig?

Bydd angen i chi atodi copi o'r offeryn ar ffurf PDF i'r cyflwyniad electronig. Ni fydd ffeiliau PDF yn fwy na 10M B. Dylech sicrhau taw dim ond y copi ardystiedig o'r offeryn ei hun y byddwch yn ei gyflwyno fel PDF, ac nid unrhyw un o'r dogfennau cysylltiedig.

Beth yw'r ffi am gofrestru arwystl yn Nhŷ'r Cwmnïau?

Y ffi ar gyfer ffeilio ffurflen MR01 / LL MR01 neu ffurflen MR02 / LL MR02 yn electronig, trwy WebFiling neu Software Filing yw £10, a'r ffi ar gyfer ffeilio ar bapur yw £13.

Dim ond ar bapur y cewch ffeilio'r ffurflenni MR03 / LL MR03, MR08 / LL MR08, MR09 / LL MR09, MR10 / LL MR10, a'r ffi yw £13.

A fydd angen ffeilio'r Ffurflen 466 o hyd yn yr Alban?

Bydd. Bydd y ffurflen hon sef “Manylion offeryn i ddiwygio arwystl ansefydlog” yn dal i fod yn berthnasol i arwystlon a gofrestrir yn yr Alban.

A fyddwch chi'n derbyn copïau ardystiedig o'r offeryn sydd mewn lliw heblaw du ar wyn?

Byddwn, er nad yw systemau delweddu Tŷ'r Cwmnïau yn cynnal lliw ar hyn o bryd a chaiff planiau neu ddelweddau lliw eu cynhyrchu mewn du a gwyn. Fodd bynnag, gall chwilwyr ofyn am gopi o'r fersiwn lliw gwreiddiol o weithred sy'n cynnwys plan sy'ndefnyddio lliw neu lle nad yw unrhyw destun lliw yn y weithred yn ddarllenadwy ar ôl ei throsi o'r system ddelweddu. Caiff yr esiamplau hyn eu hanodi er mwyn rhoi cyfarwyddiadau i'r cwsmeriaid o ran sut i fynd ati i ofyn am gopïau, a chaiff y rhain eu darparu heb unrhyw gost ychwanegol.

A fyddwch chi'n derbyn copïau ardystiedig o offerynnau arwystlon sy'n fwy na maint A4?

Byddwn. Bydd Tŷ'r Cwmnïau yn offerynnau arwystlon sy'n fwy na maint A4 ond byddwn yn eu lleihau i faint A4 wrth eu storio ar ein system ddelweddu. Byddwn yn derbyn offerynnau sy'n fwy na maint A3, ond ni fydd modd eu prosesu trwy ein systemau delweddu.

A ddylai'r copïau o offerynnau'r arwystlon gael eu rhwymo?

Rydyn ni'n argymell nad ydych chi'n rhwymo copïau ardystiedig o offerynnau a gyflwynir ar bapur er mwyn sicrhau nad yw'r wybodaeth yn cael ei difrodi. Bydd angen i staff Tŷ'r Cwmnïau dynnu'r rhwymiad er mwyn sganio'r wybodaeth ar gyfer y cofnod cyhoeddus.

A fydd Tŷ'r Cwmnïau yn gosod stamp y goron ar yr offeryn o hyd os oes angen?

Nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn rhoi'r stampiau'r goron ar offerynnau mwyach. Ni ddylech anfon yr offeryn gwreiddiol i Dŷ'r Cwmnïau am fod angen copi ardystiedig arnom.

Brig
Ein polisi ar gwcis