Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 
 

Cofrestru Cwmni Newydd

Pam bod rhaid imi ffeilio Ffurflen 12?
Mae Ffurflen 12 yn ddatganiad statudol bod yr wybodaeth sydd wedi ei ffeilio fel rhan o gais corffori neu fel ateg iddo, yn gywir. Mae'r datganiad yn ei gwneud yn bosibl erlyn, o dan y Ddeddf Anudon, unrhyw un sy'n gwneud datganiadau anwir, ac felly mae'n lleihau'r tebygolrwydd bod ymgeiswyr yn osgoi gofynion datgelu'r Ddeddf Cwmnïau.

Os bydda i'n cywiro neu'n diwygio gwybodaeth ar Ffurflen 10 neu femorandwm cymdeithasiad, pam bod rhaid imi aildyngu fy Ffurflen 12?
Mae Ffurflen 12 yn ddatganiad statudol bod yr wybodaeth sydd wedi ei ffeilio fel rhan o gais corffori neu fel ateg iddo, yn gywir. Mae'n rhaid i unrhyw wybodaeth newydd a ychwanegir at y cais gael ei chyflwyno ochr yn ochr â datganiad arall yn dweud bod yr wybodaeth newydd honno yn gywir.

Pam bod rhaid i'r cyfarwyddwr a'r ysgrifennydd lofnodi Ffurflen 10?
I ddangos ei fod/bod yn cydsynio i weithredu yn y rhinwedd honno, ac i dderbyn y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau sy'n perthyn i'r swydd.

Pam bod rhaid i'r tanysgrifwyr neu'r asiantiaid lofnodi'r ffurflen pan fyddant ran amlaf eisoes wedi llofnodi'r memorandwm a'r erthyglau cymdeithasiad?
Maen nhw'n llofnodi i ddangos eu bod, fel perchnogion neu gynrychiolwyr y perchnogion, yn cydsynio i'r unigolion a nodir fel cyfarwyddwyr neu ysgrifenyddion weithredu dros y cwmni yn y rhinwedd honno.

Oes yna oedran isaf i rywun gael gweithredu’n gyfarwyddwr cwmni?
Crewyd terfyn oedran isaf pan weithredwyd adran 157 o Ddeddf Cwmnïau 2006 ar 1 Hydref 2008.  Mae hyn yn golygu na ellir penodi rhywun yn gyfarwyddwr nes ei fod/bod yn 16 oed.

A ganiateir i swyddogion cwmni roi cyfeiriad corfforaethol neu rif Blwch Post fel cyfeiriad?
Na chaniateir - mae'r Ddeddf Cwmnïau'n gwbl bendant yma. Mae'n rhaid i swyddogion cwmni roi eu cyfeiriad cartref preifat. Caiff Corff Corfforaethol sy'n sefyll fel Ysgrifennydd neu Gyfarwyddwr roi cyfeiriad Blwch Post ar yr amod y gallai'r Post Brenhinol ei gadarnhau.

Oes modd defnyddio Blwch Post fel cyfeiriad Swyddfa Gofrestredig?
Oes, ar yr amod y rhoir y cyfeiriad llawn, gan gynnwys y côd post, a'i fod yn cael ei gadarnhau gan y Post Brenhinol.

Oes rheidrwydd i danysgrifwyr neu swyddogion cwmnïau cyfyngedig Prydeinig fod yn drigiannol yn y DU?
Nac oes - caiff tanysgrifwyr neu swyddogion fod yn drigiannol y tu allan i'r DU.

Beth yw amcanion cwmni?
Yr amcanion yw yr hyn a wna'r cwmni. Un enghraifft yw 'Cwmni Masnachu Cyffredinol'.

Ble galla i brynu Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasiad?
Gellir prynu Memoranda ac Erthyglau Cymdeithasiad gan Ddogfenwyr Cyfreithiol neu Asiantiaid Ffurfio Cwmnïau. Eu cost yw tua £20-30. Edrychwch yn y llyfr ffôn am eich stocwyr lleol.

Am wybodaeth bellach ynghylch corffori, gweler ein llyfryn canllaw GBF1. http://www.companieshouse.gov.uk/welsh/about/guidance_W.shtml

A fydd tystysgrifau a roir gan y Cofrestrydd Cwmnïau yn cael eu derbyn at ddibenion rhoi tystysgrifau cyfreithloni?

Cyfreithloni tystysgrifau wedi eu rhoi gan y Cofrestrydd Cwmnïau
Caiff tystysgrifau a roir gan Dŷ’r Cwmnïau eu stampio neu eu llofnodi’n electronig ond ni dderbynnir mohonynt gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad at ddibenion rhoi tystysgrifau cyfreithloni.

Mae’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn mynnu bod dogfennau’n cynnwys y llofnod gwreiddiol neu sêl swyddog cyhoeddus Prydeinig.

I sicrhau tystysgrif wedi ei llofnodi’n bersonol gan swyddog yn Nhŷ’r Cwmnïau, mae angen i gwsmeriaid ofyn am ‘dystysgrif ardystiedig’.

‘Gellir archebu ‘tystysgrifau ardystiedig’ drwy:

Ffioedd tystysgrifau ardystiedig

Gwasanaeth 4 diwrnod gwaith £15.00
Gwasanaeth 24 awr (o archebu cyn 2pm) £50.00
Ffi ychwanegol am gopi ffacs o ddogfen o dan y gwasanaeth 24 awr £3.00

Am wybodaeth bellach ynghylch cyfreithloni dogfennau, ymwelwch ag http://www.fco.gov.uk (Cliciwch ar 'Legalisation' yn y ddewislen i'r chwith).

Sawl swyddog sydd i fod mewn cwmni?
Rhaid i gwmnïau preifat fod ag o leiaf un cyfarwyddwr a rhaid i gwmnïau cyhoeddus fod â dau gyfarwyddwr ac ysgrifennydd.

Oes modd i gwmni fod â chyfarwyddwyr corfforaethol yn unig?
Mae’n ofynnol i gwmnïau benodi o leiaf un cyfarwyddwr sy’n berson naturiol, sef yn unigolyn

Brig
Ein polisi ar gwcis