Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cwestiynau Cyffredin am Ddeddf Cwmnïau 2006

Beth yw Deddf Cwmnïau 2006?

Mae deddf Cwmnïau 2006 yn ddarn o ddeddfwriaeth gynradd sydd i raddau helaeth yn gymwys i gwmnïau'n uniongyrchol. Mae nifer o ddarpariaethau ar hyn o bryd wedi'u cyfleu drwy ddeddfwriaeth eilaidd, yn bennaf mewn rheoliadau neu orchmynion a gafodd eu gwneud drwy offeryn statudol.

Pam bod Deddf Cwmnïau 1985 yn newid?

Newidiwyd Deddf Cwmnïau 1985 er mwyn bodloni pedwar amcan allweddol:

  • Hybu llais cyfranddeiliaid a diwylliant buddsoddi tymor-hir;
  • Sicrhau gwell rheoleiddio ac ymagwedd 'Meddwl yn Fach yn Gyntaf';
  • Ei gwneud yn haws sefydlu a rhedeg cwmni; a
  • Gwarantu hyblygrwydd i'r dyfodol.

Ble galla i gael copi o Ddeddf Cwmnïau 2006?

Mae copi o Ddeddf Cwmnïau 2006 ar gael gan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus, neu drwy dudalen Cyhoeddiadau'r Ddeddf Cwmnïau ar wefan Tŷ’r Cwmnïau.

Pwy awdurdododd y newidiadau a wnaed gan Ddeddf Cwmnïau 2006?

Sefydlodd y llywodraeth Grŵp Diwygio'r Gyfraith Gwmnïau ym 1998 i ystyried yn fanwl sut y gellid moderneiddio'r gyfraith gwmnïau. Daeth argymhellion yr Arolwg o'r Gyfraith Gwmnïau yn flaengynllun i'r diwygiadau a gafodd eu cynnig yn y Papur Gwyn ar Ddiwygio'r Gyfraith Gwmnïau a gyhoeddwyd ym Mawrth 2005.Yn sgil ymgynghori, esblygodd cynigion y Papur Gwyn yn Fesur drafft a gafodd ei drafod wedyn yn ystod ei hynt drwy'r Senedd. I gloi, cafodd y Mesur Gydsyniad Brenhinol (cymeradwyaeth swyddogol) ar 8 Tachwedd 2006.

Ble galla i gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Cwmnïau 2006?

Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf Cwmnïau 2006 ar gael ar wefan BERR http://www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/

Ydy Deddf Cwmnïau 2006 bellach yn gyflawn?

Nac ydy. Caiff y Ddeddf ei hategu gan gyfres o Reoliadau'n defnyddio pwerau a roir i'r Ysgrifennydd Gwladol mewn rhannau arbennig o'r Ddeddf. Caiff ei hategu hefyd gan Orchmynion Cychwyn sy'n dod i rym â'r Ddeddf. Wrth gyhoeddi'r rhain, bydd y manylion i'w gweld yn http://www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/made-or-before-parliament/page35232.html

Beth yw prif newidiadau Deddf Cwmnïau 2006 / Sut bydd Deddf Cwmnïau 2006 yn effeithio ar fy nghwmni i?

Mae rhai o brif effeithiau'r Ddeddf yn cynnwys:

Pob cwmni

  • Mae datganiad diamwys o ddyletswyddau cyffredinol cyfarwyddwyr yn eglurhau'r rheolau presennol sy'n seiliedig ar achosion.
  • Bydd modd i gwmnïau wneud mwy o ddefnydd o gyfathrebu electronig i gysylltu â chyfranddeiliaid.
  • Bydd cyfarwyddwyr yn cael yr opsiwn awtomatig o ffeilio cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau ar y cofnod cyhoeddus (yn hytrach na'u cyfeiriad cartref preifat).
  • Rhaid i gyfarwyddwyr fod o leiaf 16 oed a rhaid i bob cwmni fod ag un person naturiol fel cyfarwyddwr– h.y. ni chânt fod â chyfarwyddwyr corfforaethol i gyd.
  • Bydd gwell rheolau i enwau cwmni.
  • Ni fydd mwyach yn ofynnol i gwmnïau nodi'u hamcanion wrth gorffori.
  • Sail cyfansoddiad y cwmni fydd ei erthyglau.

Cwmnïau preifat

  • Bydd modelau symlach ar wahân ar gyfer Erthyglau Cymdeithasiad cwmnïau preifat.
  • Fel rhan o'r agenda "meddwl yn fach yn gyntaf", bydd "côd" gofynion cyfrifeg ac adrodd cynhwysfawr ar wahân ar gyfer cwmnïau bach.
  • Ni fydd yn ofynnol i gwmnïau preifat fod ag ysgrifennydd cwmni.
  • Ni fydd angen i gwmnïau preifat gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol, oni bai eu bod yn gwneud dewis cadarnhaol i gynnal un.
  • Bydd yn haws i gwmnïau wneud penderfyniadau drwy gydsyniadau ysgrifenedig.
  • Bydd rheolau symlach ynghylch cyfalaf cyfrannau, gan ddileu darpariaethau sydd i raddau pell yn amherthnasol i'r mwyafrif llethol o gwmnïau preifat a'u credydwyr.

Buddion allweddol: Cyfranddeiliaid

  • Bydd mwy o hawliau i gyfranddeiliaid wedi'u henwebu. Bydd y rhain yn cynnwys yr hawl i dderbyn gwybodaeth yn electronig neu fel copi caled os dymunant.
  • Bydd atebolrwydd mwy amserol i gyfranddeiliaid drwy fynnu bod cwmnïau cyhoeddus yn cynnal eu cyfarfod cyffredinol blynyddol o fewn 6 mis i ddiwedd y flwyddyn ariannol
Brig
Ein polisi ar gwcis