Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cwestiynau Cyffredin am Enwau Cwmni

Am wybodaeth ynghylch enwau cwmni, cyfeiriwch at ein canllaw Corffori ac Enwau (GP1).

O dan ba amgylchiadau y ca i gofrestru enw sydd yr un fath ag un arall ym mynegai’r Cofrestrydd o enwau cwmni?

O fis Hydref 2009 ymlaen, caiff cwmnïau, o dan rai amgylchiadau, gofrestru enw sydd yr un fath ag un arall yn y mynegai enwau cwmni. Er enghraifft, “XXX cyfyngedig” ac “XXX UK cyfyngedig”. Dim ond lle mae’r cwmni sydd i’w gofrestru yn rhan neu i fod yn rhan o’r un grŵp â’r cwmni y mae ei enw eisoes ar y mynegai y caniateir hyn. Bydd angen i gwmnïau sydd am wneud cais am enw o dan yr amgylchiadau hyn gyflwyno cydsyniad ysgrifenedig y cwmni sydd eisoes ym mynegai’r Cofrestrydd, yn cyfleu bod y cwmni’n rhan neu i fod yn rhan o’r un grŵp â’r cwmni sydd eisoes ar y Gofrestr.

A fydd cwmnïau wedi’u heithrio o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 rhag defnyddio “cyfyngedig” yn eu henw ac a fyddan nhw’n dal wedi’u heithrio rhag y gofynion ynglŷn â chyhoeddi’r enw ar ôl mis Hydref 2009?

Byddan. Mae adran 60 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn parhau ag eithriad adran 30 o Ddeddf Cwmnïau 1985 ar gyfer cwmnïau sydd eisoes wedi’u heithrio, cyhyd â’u bod yn dal i fodloni’r amodau a nes iddynt newid eu henw.

A fydd y rheolau o ran gwrthwynebu enwau tebyg yn newid ym mis Hydref 2008?

Byddan. O fis Hydref 2008 ymlaen, mae rhai rheolau newydd yn gymwys o dan adrannau 69 i 74 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Mae’r y rhain yn caniatáu cwyno lle cafodd cwmni ei gofrestru gyda’r bwriad o fynnu arian gan yr achwynydd neu er mwyn ei atal rhag cofrestru enw y mae ganddo ewyllys da ynddo (“cofrestru manteisgar”). Mae rhagor o wybodaeth am y Tribiwnlys Enwau Cwmni a’r gost mewn cysylltiad â’r wasanaeth hon i’w chael yn www.ipo.gov.uk/cna.

Pwy gaiff wrthwynebu enw cwmni o dan y rheolau newydd hyn?

Caiff unrhyw berson neu gwmni wrthwynebu enw cwmni.

Oes modd anfon i Dŷ’r Cwmnïau wrthwynebiad i enw cwmni ar sail cofrestru manteisgar?

Nac oes. Rhaid i bob gwrthwynebiad ynglŷn â chofrestru manteisgar gael ei anfon i’r Tribiwnlys Enwau Cwmni newydd annibynnol (a elwir hefyd y ‘Dyfarnydd’), fydd yn seiliedig yn Swyddfa Eiddo Deallusol y DU. Dim ond am wrthwynebiadau ‘rhy debyg’ ac ‘yr un fath’ y mae Tŷ’r Cwmnïau’n gyfrifol.

Beth fydd yn digwydd os derbynnir cwyn yng nghyswllt cofrestru manteisgar?

Gall y Tribiwnlys Enwau Cwmni wneud gorchymyn i gyfarwyddo’r cwmni i newid ei enw. Os bydd y cwmni’n methu cydymffurfio, gall y Tribiwnlys ddewis enw newydd i’r cwmni.

A gaiff cwmni apelio yn erbyn dyfarniad y Tribiwnlys Enwau Cwmni?

Caiff, caiff cwmni apelio i’r Uchel Lys.

A fydd y rheolau newydd hyn yn gymwys i gwmnïau a gafodd eu cofrestru cyn mis Hydref 2008?

Byddan. Bydd rheolau’r Tribiwnlys Enwau Cwmni yn ôl-weithredol.

Brig
Ein polisi ar gwcis