Canllaw ar gwblhau eich Cyfrifon Blynyddol
I’w chael yn iawn y tro cyntaf – mae’n haws ac yn gynt ffeilio’ch cyfrifon yn electronig...
Gall y rhan fwyaf o gwmnïau ffeilio eu cyfrifon ar lein trwy WebFiling neu drwy feddalwedd cyfrifon arbenigol
Rhestr wirio wrth gwblhau’ch Cyfrifon Blynyddol
- A yw’r cyfrifon yn dangos yr enw a’r rhif cywir ar gyfer y cwmni?
- A gawsant eu paratoi ar gyfer y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg cywir?
- Os yw’n briodol, a ydych chi wedi cynnwys y datganiad eithrio?
- A lofnodwyd adroddiad y cyfarwyddwyr?
- A lofnodwyd y fantolen?
- A lofnodwyd adroddiad yr archwilydd (os oes angen un) ac a nodwyd enw’r archwilydd arno?
- Os dechreuodd y cyfnod cyfrifeg ar 6/04/08 neu ers hynny, a baratowyd y cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006?
Dylai’r enw a’r rhif ymddangos ar un o’r dogfennau cyfansawdd o fewn y cyfrifon fel adroddiad y cyfarwyddwyr neu’r fantolen. Gellir dangos yr enw a’r rhif ar unrhyw esboniadol a gyflwynir gyda’r cyfrifon hefyd.
Tŷ’r Cwmnïau
Arddangosiad fideo WebFiling
Gweld pa mor symyl yw hi i ddefnyddio WebFiling i gyflwyno’ch dogfennau... (Saesneg yn unig)
|