Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Llenwi eich Ffurflen Flynyddol

  • A ydych chi wedi cynnwys y ffi ffeilio o £40*? (*£13 os ydych chi’n ffeilio’r ffurflen yn electronig gan ddefnyddio ein gwasanaeth WebFiling neu Software Filing).
  • A yw cyfeiriad y swyddfa gofrestredig yn gywir?
  • Os rhoddwyd cyfeiriad SAIL, a yw hwnnw’n gywir?
  • Ydych chi wedi cwblhau’r datganiad cyfalaf, ac a yw’r datganiad yn gywir?
  • A ydych chi wedi llenwi’r blwch i nodi eich prif weithgarwch busnes?
  • A yw manylion Cyfarwyddwr ac Ysgrifennydd y Cwmni yn gywir?
  • A ydych chi wedi cynnwys ffurflen TM01 neu TM02 i roi gwybod bod penodiadau unrhyw Gyfarwyddwyr neu Ysgrifenyddion o’r cwmni wedi cael eu terfynu?
  • A ydych chi wedi cynnwys ffurflen CH01 – CH04 i roi gwybod am unrhyw newidiadau i fanylion Cyfarwyddwyr neu Ysgrifenyddion y cwmni?
  • Os ydych chi wedi nodi bod rhestr gyflawn o’r aelodau ynghlwm, a ydych chi wedi cynnwys y rhestr?
  • A oes llofnod ar y ffurflen?

Am ragor o wybodaeth, darllenwch GP2 - Rhan 1 Gofynion Blynyddol.

Brig
Ein polisi ar gwcis