Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cyfarwyddwyr Corfforaethol

O 1 Hydref 2010 ymlaen, rhaid i bob cwmni benodi o leiaf un cyfarwyddwr sy’n berson naturiol (o dan adran 155 o Ddeddf Cwmnïau 2006).

Nid yw cwmnïau wedi cael corffori gyda swyddogion corfforaethol yn unig ers 1 Hydref 2008. Cafodd rhai cwmnïau a gorfforwyd cyn pasio Deddf Cwmnïau 2006 gydsyniad brenhinol a chawsant gyfnod trosiannol i gydymffurfio â hyn.

Daeth y cyfnod trosiannol hwn i ben ar 1 Hydref 2010.

Rydyn ni eisoes wedi ysgrifennu at nifer o gwmnïau i’w hysbysu am y gofyniad newydd hwn.

Rydyn ni’n bwriadu adolygu’r sefyllfa ar ddiwedd Hydref a phenderfynu ar gamau priodol ar gyfer y cwmnïau hynny sydd, yn ôl pob golwg, yn dal i fynd yn groes i adran 155.

O dan adran 156 gallwn gyhoeddi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau benodi cyfarwyddwyr naturiol. Os yw cwmni’n methu â chydymffurfio â’r cyfarwyddyd, mae’r cwmni, a phob un o swyddogion y cwmni sydd wedi methu â chydymffurfio (gan gynnwys cyfarwyddwyr cysgod), yn cyflawni trosedd.

Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored i ddirwy o £5000 o’u collfarnu.

Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn ymateb i gwynion, ond rydyn ni’n bwriadu mynd ati’n ymarferol hefyd i geisio sicrhau bod cwmnïau’n cydymffurfio ag adran 155. Ein prif amcan yw sicrhau bod cwmnïau’n cydymffurfio â’r Ddeddf ac mewn achosion priodol, byddwn ni’n ystyried cymryd camau i erlyn cwmnïau sy’n parhau i fethu â chydymffurfio.

Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Troseddau Technegol yn Nhŷ’r Cwmnïau trwy e-bostio enquiries@companieshouse.gov.uk

Brig
Ein polisi ar gwcis