Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Rhaid gwneud pob ffi’n daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau.

Cyflwyno Dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau

Mae’n rhaid i gwmnïau sicrhau bod eu cyfrifon yn cael eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau erbyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio. Os caiff cyfrifon eu ffeilio’n hwyr, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn codi cosb ffeilio hwyr.
Byddwn yn gosod cosb:

  • Lle caiff cyfrifon eu ffeilio’n hwyr.
  • Lle caiff cyfrifon eu hanfon cyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio ond eu bod yn methu cyrraedd Tŷ’r Cwmnïau erbyn y terfyn amser.

Ni all y Cofrestrydd Cwmnïau dderbyn oedi wrth gludo fel rheswm dros anwybyddu cosb. Rydym am wneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb am ffeilio’n brydlon a bod ganddynt yr wybodaeth sydd eisiau i wneud felly. Dylai unrhyw un sy’n ffeilio dogfennau yn Nhŷ’r Cwmnïau:

  • Sicrhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau cyfreithiol.
  • Cadwch mewn cof y gall gwasanaethau’r post a gwasanaethau cludo eraill fod yn agored i ddioddef colli neu oedi. Mae ffigurau cyhoeddedig y Post Brenhinol eu hun ar y cyflawniad dosbarthu (Ebrill - Rhagfyr 2004) yn dangos ei bod yn bosib na fydd cymaint â 9% o bost y dosbarth cyntaf yn cyrraedd pen y daith erbyn y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y postio.
  • Cadwch mewn cof, yn arbennig, unrhyw anghydfod diwydiannol neu ffactorau eraill a all ei gwneud yn anodd i gludydd fodloni’r safonau dosbarthu a hysbysebir ganddynt.
  • Dewiswch wasanaeth dosbarthu dibynadwy, gan fanteisio ar y drefn dosbarthiad gwarantedig lle bo amser yn ffactor o bwys.
  • Gofynnwch inni gydnabod derbyn dogfennau, gan ddarparu amlen gyfeiriedig wedi’i stampio’n barod a chopi eich llythyr eglurhaol.
  • Gwiriwch eich cofnod cwmni eich hun yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod y manylion sydd wedi’u cadw yn Nhŷ’r Cwmnïau yn adlewyrchu’r sefyllfa ddiweddaraf.
  • Anfonwch ddogfennau cwmnïau Cymreig a Seisnig at y Cofrestrydd yng Nghaerdydd, a dogfennau cwmnïau Albanaidd at y Cofrestrydd yng Nghaeredin.
  • Anfonwch ddogfennau cwmnïau Gogledd Iwerddon at y Cofrestrydd yn Belfast.
Y tu allan i oriau gwaith, gofynnir i gwsmeriaid sy’n cyflwyno dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau yn Llundain a Chaeredin eu rhoi drwy’r blwch llythyrau. Yr unig swyddfa lle ceir staff fin nos a thros y penwythnos yw un Caerdydd

Gall cwsmeriaid sy’n cyflwyno dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau, Caerdydd, eu trosglwyddo fel mater o ffaith y tu allan i oriau swyddfa a dal i ddisgwyl derbynneb.

Mae cyfarwyddyd ynghylch cyfrifoldebau cyfreithiol cyfarwyddwyr cwmni, a’r dyddiadau dyledus ar gyfer ffeilio cyfrifon a chyflwyno dogfennau i’r Cofrestrydd Cwmnïau, i’w gael o dan 'Llyfrynnau Canllaw'.

Neu ffoniwch Ganolfan Cysylltu Tŷ’r Cwmnïau ar: 0303 1234 500.

Mae gan Dŷ’r Cwmnïau swyddfeydd yn:

Caerdydd

Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ

Caeredin

Companies House
4th Floor
Edinburgh Quay 2
139 Fountainbridge
Edinburgh EH3 9FF

LP - 4 Edinburgh 2 (Legal Post) neu
DX ED235 Edinburgh 1

Llundain

21 Bloomsbury Street
Llundain
WC1B 3XD 

Gogledd Iwerddon

Companies House
Second Floor
The Linenhall
32-38 Linenhall Street
Belfast
Northern Ireland BT2 8BG
neu
DX 481 N.R. Belfast 1

DIM BLWCH POST ALLANOL I DDERBYN DOGFENNAU ALLAN O ORIAU AGOR SWYDDFA

Brig
Ein polisi ar gwcis