Rhaid i gyfarwyddwyr fod dros 16 mlwydd oed. Nid oes unrhyw derfyn uchaf ar oedran cyfarwyddwyr.
|
|
Cyfarwyddwyr a Chyfeiriadau ChyfarwyddwyrA oes unrhyw derfyn isaf neu uchaf o ran oedran cyfarwyddwyr?Rhaid i gyfarwyddwyr fod dros 16 mlwydd oed. Nid oes unrhyw derfyn uchaf ar oedran cyfarwyddwyr. Beth yw isafswm nifer y cyfarwyddwyr sydd ei hangen ar gwmni?Mae Deddf Cwmnïau yn mynnu bod gan gwmni preifat o leiaf un cyfarwyddwr. Rhaid i gwmnïau cyhoeddus fod ag o leiaf dau gyfarwyddwr. Yn y naill achos a’r llall, rhaid i o leiaf un o gyfarwyddwyr y cwmni fod yn unigolyn (h.y. ni all fod yn gwmni neu’n endid cyfreithiol o fath arall). Beth yw cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau?Cyfeiriad y gall cyfarwyddwr ei ddefnyddio i dderbyn gohebiaeth ynglŷn â’r cwmni gan drydydd parti yw cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau. Gall y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau fod yr un fath â chyfeiriad preswyl y person, neu’r un fath â chyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni, neu gall fod yn rhywle gwahanol. Cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth yw’r enw arall ar y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau. Beth yw’r cyfeiriad preswyl arferol?Y cyfeiriad preswyl arferol yw’r cyfeiriad lle mae’r person o dan sylw yn byw fel rheol. Rhaid ffeilio’r cyfeiriad hwn gyda’r Cofrestrydd o hyd, ond ni fydd ar gael ar y cofnod cyhoeddus i bawb ei weld. Caiff ei gadw ar gofrestr breifat sydd ar gael i gyrff a bennir ymlaen llaw yn unig. A oes rhaid i gyfarwyddwyr ddarparu cyfeiriad preswyl ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau?Oes. Rhaid darparu cyfeiriad preswyl arferol, a chyfeiriad cyflwyno hysbysiadau am bob swydd cyfarwyddwr. Bydd y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn ymddangos ar y cofnod cyhoeddus; ond caiff y cyfeiriad preswyl ei drin fel gwybodaeth a amddiffynnir. Gall cyfarwyddwr ddewis defnyddio ei gyfeiriad preswyl fel cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau; os yw hynny’n wir, bydd y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn dal i ymddangos ar y cofnod cyhoeddus, ond gwybodaeth am amddiffynnir yw’r ffaith fod y ddau gyfeiriad yr un fath â’i gilydd. Pwy sy’n gallu cael gafael ar gyfeiriad preswyl cyfarwyddwyr o Dŷ’r Cwmnïau?
Caiff cyfarwyddwyr bregus wneud cais i’r Cofrestrydd i atal eu cyfeiriadau rhag cael eu darparu ar gyfer asiantaethau asesu credyd. Cyfeiriadau pa gyfarwyddwyr fydd yn cael eu dal nôl wrth asiantaethau asesu credyd?Ni chaiff asiantaethau asesu credyd gael gafael ar gyfeiriad preswyl arferol unrhyw gyfarwyddwr a oedd yn destun Gorchymyn Cyfrinachedd dilys ar 30 Medi 2009, neu sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i’r Cofrestrydd o dan adran 243 o Ddeddf Cwmnïau 2006 ar y sail ei fod:
A yw Deddf Cwmnïau 2006 yn caniatáu i gyfarwyddwr gael ei wahardd rhag defnyddio cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau os canfyddir nad yw’n effeithiol?Ydy, os daw’r Cofrestrydd yn ymwybodol nad yw cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau cyfarwyddwr yn effeithiol, mae ganddo’r pŵer i’w wahardd rhag defnyddio’r cyfeiriad hwn a gosod cyfeiriad preswyl arferol y cyfarwyddwr ar y gofrestr gyhoeddus yn ei le. Wedyn, ni chaiff y cyfarwyddwr gofrestru cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau am 5 mlynedd. Os yw cwmni’n diffygdalu; a gaiff unrhyw lythyr wedi ei gyfeirio at y cyfarwyddwyr ei anfon i’w cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau neu eu cyfeiriad preswyl?Anfonir llythyrau i gyfeiriad cyflwyno hysbysiadau/gohebiaeth y cyfarwyddwyr. A fydd Tŷ’r Cwmnïau yn dal i gofrestru ‘Gorchymyn Cyfrinachedd’ ar gyfer cyfarwyddwyr sydd o dan fygythiad difrifol?Daeth Gorchmynion Cyfrinachedd i ben pan ddaeth y Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2009. Mae adran 243(5) yn caniatáu i gyfarwyddwyr sydd mewn perygl wneud cais i sicrhau nad yw eu cyfeiriad preswyl arferol yn cael ei ddatgelu i Asiantaethau Asesu Credyd. |
|