|
|
Cwestiynau Cyffredin am Gyfarwyddwyr – arall Oes unrhyw canllaw ar gael ar ddyletswyddau newydd cyfarwyddwyr? Ar y wefan, mae BIS wedi cyhoeddi casgliad strwythurol o ddyfyniadau defnyddiol o ddatganiadau a wnaed gan weinidogion yn ystod y trafodaethau Seneddol ar y Mesur. www.bis.gov.uk/files/file40139.pdf. Ac mae'r nodiadau eglurhaol y Ddeddf ar gael ar wefan OPSI: Mae mwy a mwy o gyhoeddwyr yn cynhyrchu gwerslyfrau ar y Ddeddf newydd. Does dim cynllun gan yr Adran i gynhyrchu unrhyw ganllaw pellach. A fydd oedran isaf ac uchaf i gyfarwyddwyr? Mae'r Ddeddf yn cyflwyno oedran isaf o 16 i gyfarwyddwr. Bydd unrhyw gyfarwyddwr sydd o dan 16 oed yn peidio'n awtomatig â bod yn gyfarwyddwr pan ddaw'r Ddeddf i rym yn Hydref 2008 O 6 Ebrill 2007 ymlaen, dilëwyd yr oedran uchaf i gyfarwyddwyr Cwmnïau Cyhoeddus Cyfyngedig, sef 70 gynt. Beth fydd yn digwydd i gyfarwyddwyr presennol sydd o dan yr oedran gofynnol pan weithredir Deddf 2006? Bydd cyfarwyddwyr presennol sydd o dan yr oedran gofynnol yn peidio â bod yn gyfarwyddwyr, heb fod eisiau hysbysu'r Cofrestrydd. Fodd bynnag, bydd angen i'r cwmni ddiwygio'i gofrestr gyfarwyddwyr i adlewyrchu'r ffaith bod y penodiad wedi dod i ben. A fydd y rheolau o ran oedran isaf cyfarwyddwyr yn gymwys yn ôl-weithredol? Byddant. Lle bo rhywun sydd wedi'i benodi'n gyfarwyddwr cyn i adran 157 Pryd y gweithredir y rheidrwydd newydd i bob cwmni fod ag o leiaf un person naturiol fel cyfarwyddwr? Ar 1 Hydref 2008, ond bydd cyfnod gras tan Hydref 2010 i unrhyw gwmni nad oedd ag o leiaf un cyfarwyddwr oedd yn berson naturiol pan gafodd Deddf 2006 y Gymeradwyaeth Frenhinol (8 Tachwedd 2006). I gael rhagor o wybodaeth am y gofyniad newydd hwn, darllenwch ein diweddariad ar Gyfarwyddwyr Corfforaethol yn sgil y newid Wrth gyflwyno'r cyfyngiadau newydd ar gyfarwyddwyr, e.e. dim cyfarwyddwyr corfforaethol yn unig na rhai o dan yr oedran gofynnol, a fyddant yn gymwys i gwmnïau segur? Byddant. Beth os na fydd cyfarwyddwr cymwys gan y cwmni o ganlyniad i'r newidiadau? Bydd cwmnïau sydd heb gyfarwyddwr cymwys yn methu'r gofynion cydymffurfio. Pryd bydd y gofynion sy'n diddymu'r angen am ddatgelu safleoedd eraill fel cyfarwyddwr yn dod i rym? Ni fydd y gofynion o ran 'safleoedd eraill fel cyfarwyddwr' yn cael eu diddymu nes 1 Hydref 2009, yr un pryd â gweddill Rhan 10 – Cyfarwyddwyr. Cafodd Ad.288 o Ddeddf 1985 ei diddymu ar 1 Hydref 2007. Os caiff cyfarwyddwr newydd ei benodi ar ôl y dyddiad hwnnw, pa ffurflen gwmni y dylwn ei defnyddio i gydymffurfio ag Ad.167 newydd Deddf 2006? Dim ond rhai adrannau o Ran 10 o'r Ddeddf sy'n cael eu gweithredu yn Hydref 2007; y rhain yw'r adrannau sy'n ymwneud â dyletswyddau cyfarwyddwyr. Ni chaiff Adran 288 mo'i diddymu nes 1 Hydref 2009, felly dylai cyfarwyddwyr barhau i gael eu penodi ar y ffurflen bresennol nes i Adran 167 o Ddeddf Cwmnïau 2006 ddod i rym. |
||