|
|
Cwestiynau Cyffredin am Gofrestr Cyfarwyddwyr wedi eu Gwahardd C. Beth yw’r Gofrestr Cyfarwyddwr wedi eu Gwahardd? A. Cofrestr ydyw o unigolion sydd naill ai wedi cael eu gwahardd trwy orchymyn llys neu drwy ymgymeriad gan y Gwasanaeth Ansolfedd rhag bod yn gyfarwyddwyr cwmnïau neu’n aelodau o PACau. Mae’r gofrestr yn dangos pa mor hir mae’r cyfarwyddwr neu aelod wedi ei wahardd. Mae hefyd yn dangos yr adran o Ddeddf Gwahardd Cyfarwyddwyr Cwmni 1986 y mae’r cyfarwyddwr wedi cael ei wahardd o dani. C. Pam mae Tŷ’r Cwmnïau’n cadw Cofrestr o Gyfarwyddwyr wedi eu Gwahardd? A. Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gadw cofrestr o dan adran 18 o Ddeddf Gwahardd Cyfarwyddwyr Cwmni 1986. Tŷ’r Cwmnïau sy’n cyflawni’r swyddogaeth hon o dan awdurdod dirprwyedig dros yr Ysgrifennydd Gwladol. C. Allaf i gael copi o orchymyn gwahardd o Dy’r Cwmnïau? A. Na allwch. Nid yw’r llysoedd yn cyflwyno copïau o orchmynion gwahardd i Dŷ’r Cwmnïau. Mae swyddogion y llysoedd yn tynnu gwybodaeth o’r gorchmynion er mwyn llenwi ffurflenni rhagnodedig, a ddefnyddir wedyn i hysbysu Tŷ’r Cwmnïau bod unigolyn wedi cael ei wahardd. Yn yr un modd, mae’r Gwasanaeth Ansolfedd yn rhoi gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau lle mae ymgymeriad gwahardd wedi cael ei wneud. Y manylion hyn, a gafwyd oddi wrth y llys neu’r Gwasanaeth Ansolfedd, yw cynnwys y Gofrestr Cyfarwyddwyr wedi eu Gwahardd. C. Sut allaf i weld y Gofrestr Cyfarwyddwyr wedi eu Gwahardd? A. Gellir gweld y gofrestr yn Saesneg trwy’r ddolen ganlynol: Cofrestr Cyfarwyddwyr wedi eu Gwahardd C. Faint mae’n costio i chwilio trwy’r Gofrestr Cyfarwyddwyr wedi eu Gwahardd? A. Ni chodir tâl. C. Rwyf wedi edrych ar y Gofrestr Cyfarwyddwyr wedi eu Gwahardd ac nid yw’r unigolyn mae gen i ddiddordeb ynddo ar y gofrestr – beth mae hyn yn ei olygu? A. Gallai hyn olygu un o’r tri pheth canlynol:
C. Ydi rhywun sydd wedi cael ei wahardd yn cael gweithredu fel ysgrifennydd? A. Ydi. Nid yw’r ddeddfwriaeth hon ond yn atal unigolion sydd wedi eu gwahardd rhag gweithredu fel cyfarwyddwyr cwmnïau neu aelodau o PACau. Nid yw hyn yn berthnasol i ysgrifenyddion ar yr amod nad ydynt yn ymwneud â hyrwyddo, ffurfio neu reoli cwmni. C. Ydi’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i fethdalwyr? A. Ydi. Os ydych chi wedi methdalu a bod eich methdaliad yn dal i fod mewn grym, ni allwch weithredu fel cyfarwyddwr cwmni nac aelod o PAC. Fodd bynnag, mae’r gofrestr methdaliadau’n cael ei chadw gan y Gwasanaeth Ansolfedd a gellir ei gweld trwy www.insolvency.gov.uk Nid yw methdaliadau yn yr Alban yn ymddangos ar wefan y Gwasanaeth Ansolfedd. Gellir eu gweld ar y wefan ‘Accountancy In Bankruptcy’ sydd ar gael trwy www.aib.gov.uk Gellir gweld methdaliadau yng Ngogledd Iwerddon trwy www.courtsni.gov.uk C. O dan ba amgylchiadau fydd cyfarwyddwyr yn cael eu gwahardd? A. Dyma enghreifftiau o’r ymddygiad yr hysbysir amdano amlaf sy’n arwain at wahardd cyfarwyddwyr:
I gael gwybodaeth fwy manwl am pryd y gall unigolyn gael ei wahardd, ewch i wefan gwasanaeth Ansolfedd Lloegr, Cymru neu’r Alban neu wefan gwasanaeth ansolfedd Gogledd Iwerddon. C. Mae’ch Cofrestr Cyfarwyddwyr wedi eu Gwahardd yn cyfeirio at ‘Eithriadau.’ Beth yw ystyr hyn? A. O dan y ddeddfwriaeth gall unigolyn sydd wedi ei wahardd wneud cais i’r Llys am ganiatâd i weithredu fel cyfarwyddwr cwmnïau penodedig. Os yw’r cais yn llwyddo bydd y cwmnïau hyn yn ymddangos ar y gofrestr o dan “Eithriadau”. C. Ble allaf i gael mwy o wybodaeth? A. I gael gwybodaeth fwy manwl, ewch i wefan gwasanaeth Ansolfedd Lloegr, Cymru neu’r Alban neu wefan gwasanaeth ansolfedd Gogledd Iwerddon. |
||