Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Cofrestru Cyfaddawd neu Drefniadau – Cynllun Trefnu

 

Polisi Tŷ’r Cwmnïau ar Gwmnïau SE (Cwmnïau Ewropeaidd)

1. Beth sy’n digwydd i ddogfennau SE a gaiff eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau?

Bydd pob dogfen SE yn mynd drwy broses wirio arbennig. A bwrw bod y dogfennau’n bodloni’r gwirio angenrheidiol, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn eu cofrestru ac yn trefnu iddyn nhw fod ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd. Lle bo’r dogfennau’n methu’r gwirio angenrheidiol, fe gân nhw eu dychwelyd i’r cwsmer, a fydd yn golygu gohirio’r prosesu.

2. Alla i anfon dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau drwy negesydd?

Gallwch. Ar gyfer dogfennau pwysig, argymhellwn ddefnyddio negesydd i sicrhau trosglwyddo diogel. Dylai dogfennau gael eu marcio ‘I Sylw’r Adran Tramor a Materion Amrywiol’

3. Faint mae Tŷ’r Cwmnïau yn ei godi am gofrestru SE?

Y ffi am gofrestru SE yw £20. Rhaid cyflwyno siec am y swm perthnasol wrth gyflwyno dogfennau SE sy’n mynnu ffi (gweler rhestr brisiau Tŷ’r Cwmnïau am ragor o wybodaeth). Dylid gwneud sieciau’n daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’.

Bydd Tŷ’r Cwmnïau’n gwrthod unrhyw ddogfen sy’n mynnu ffi lle na chaiff mo’i chyflwyno gyda siec am y swm cywir. Bydd hyn yn golygu gohirio’r prosesu.

4. Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i Dŷ’r Cwmnïau gofrestru dogfen SE?

Gall dogfennau SE fod yn gymhleth a gofyn gwirio manwl. Nod Tŷ’r Cwmnïau yw prosesu pob dogfen SE o fewn 5 diwrnod i’w derbyn. Argymhellir bod cwmnïau SE sydd â therfyn amser buan yn cyflwyno dogfennau mewn digon o amser. Ar gyfer dogfennau pwysig, argymhellir gwasanaeth negeswyr.

Ni all Tŷ’r Cwmnïau warantu cofrestru dogfen SE ar unrhyw adeg neu ddyddiad arbennig.

Ni fydd Tŷ’r Cwmnïau yn cofrestru dogfennau ar ddiwrnodau pan fo’r swyddfa ar gau (gan gynnwys Gwyliau Banc).

Am fwy o wybodaeth ar gwmnïau SE (Cwmnïau Ewropeaidd) gweler ein Llyfryn Canllaw GB06 SE Companies

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies