|
|
AnghysondebauGorolwg C. Beth yw anghysondeb? A. Rydyn ni’n defnyddio’r ymadrodd ‘anghysondeb’ pan fyddwn yn cael gwybodaeth sydd i’w gweld anghyson â’r wybodaeth am swyddog cwmni neu PAC sydd eisoes ar ffeiliau Tŷ’r Cwmnïau. Pan fyddwn ni’n canfod anghysondeb, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi. Enghraifft o anghysondeb fyddai manylion penodiad rydyn ni eisoes wedi cael gwybod amdano, ond lle bo ffurflen benodi arall wedi cael ei ffeilio ag arni ddyddiad penodi gwahanol. C. Beth mae Tŷ’r Cwmnïau yn ei wneud â ffurflenni sy’n anghyson? A. Ni allwn wrthod ffurflen sydd wedi cael ei llenwi’n gywir yn unswydd am fod y wybodaeth i’w gweld yn gwrth-ddweud rhywbeth rydych eisoes wedi ei ddweud wrthym. Os derbynnir y ffurflen, byddwn ni’n rhoi gwybod i’r person a ffeiliodd y wybodaeth ddiweddaraf ei bod hi’n debyg bod rhywbeth yn anghyson â’r wybodaeth sydd eisoes ar gofnod y cwmni neu’r PAC. C. Ai dim ond y swyddogion a enwir sy’n cael eu trin fel anghysondebau? A. Nage, gellir ystyried bod unrhyw wybodaeth ar y Gofrestr yn anghyson. Fodd bynnag, dim ond anghysondebau sy’n gysylltiedig â’r swyddogion a enwir ar gofnod y cwmni neu’r PAC o dan sylw y bydd Tŷ’r Cwmnïau yn eich hysbysu yn eu cylch. Gallwn ysgrifennu atoch hefyd os daw cwyn am anghysondeb ar gofnod eich cwmni i law gan gwsmer. C. Beth fydd hyn yn ei olygu ar gyfer fy nghwmni neu PAC? A. Gallai hyn olygu bod camgymeriad wedi bod, neu eich bod wedi anghofio ffeilio ffurflen a ddylai fod wedi cael ei ffeilio cyn yr un ddiweddaraf. C. Beth ddylwn i ei wneud nesaf? A. Dylech wirio cofnod y cwmni neu’r PAC i weld beth rydych wedi ei ddweud wrthym eisoes, ac a oes unrhyw gamgymeriadau neu ffurflenni coll ar y gofrestr. Am gyngor mwy manwl cyfeiriwch at y math penodol o newid rydych wedi rhoi gwybod i ni amdano e.e. penodiad, newid i’r manylion neu derfyniad penodiad. Cewch gywiro unrhyw wallau ar gofnod eich cwmni trwy ffeilio’r ffurflenni coll neu trwy gywiro’r gwallau yn eich hanes ffeilio – mae rhagor o fanylion am hyn yn ein llyfryn canllaw GP6. Sicrhewch eich bod chi’n cywiro unrhyw wallau eraill cyn dychwelyd ffurflen a wrthodwyd i ni. C. Beth fydd yn digwydd os na fyddaf i’n gwneud dim i ddatrys anghysondeb ar ôl i Dŷ’r Cwmnïau dynnu fy sylw ato? A. Mae hi’n bwysig iawn eich bod chi’n cymryd camau i wirio cofnod eich cwmni neu PAC a’ch bod chi’n ymateb i ni os byddwn ni’n tynnu eich sylw at anghysondeb. Os na fyddwch chi’n gwneud dim, gallwn farcio cofnod eich cwmni neu PAC yn gyhoeddus i nodi ei fod yn anghyson. Bydd hyn yn weladwy i unrhyw berson sy’n darllen eich cofnod. Os na fyddwch chi’n gwneud dim wedyn, gall y cofrestrydd gyhoeddi hysbysiad i ddatrys yr anghysondeb yn y pendraw. Os na fyddwch chi’n ymateb i’r hysbysiad cyn pen 14 diwrnod, gall y cwmni, a phob swyddog sy’n gysylltiedig â’r diffyg fod yn euog o drosedd, a bod yn agored i ddirwy. Y Ffurflen Flynyddol – (Ffurflen AR01c) Mae’r ffurflen flynyddol yn rhoi ciplun o’r cwmni. Ni ellir ei defnyddio i ddiweddaru gwybodaeth eich cwmni (ac eithrio’r cod SIC, y datganiad o gyfalaf a’r rhestr o gyfranddeiliaid). Rhaid defnyddio’r ffurflen briodol i roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i fanylion y swyddogion, y swyddfa gofrestredig neu lle cedwir eich cofnodion. Er mwyn hwyluso hyn, bydd ein gwasanaeth WebFiling yn eich galluogi i gyflawni’r newidiadau yn rhan o’r ffurflen flynyddol, ac yn cynhyrchu’r ddogfen briodol ar eich cyfer. C. Rydw i wedi cael hysbysiad i ddweud nad oes unrhyw gofnod gan Dŷ’r Cwmnïau am un neu ragor o’r swyddogion a enwir yn fy ffurflen flynyddol. Beth mae hyn yn ei olygu? A. Sicrhewch eich bod wedi nodi’r enwau a’r dyddiadau geni cywir ar gyfer pob swyddog. Os ydyn nhw’n gywir, hwyrach eich bod wedi penodi un neu ragor o’r swyddogion ond nad ydych wedi ffeilio’r ffurflen berthnasol gyda ni’n gyntaf. Gallai olygu hefyd bod ein cofnodion yn dangos bod y swyddog wedi cael ei benodi, ond bod y penodiad hwnnw wedi cael ei derfynu ers hynny. C. Rydw i wedi cael hysbysiad i ddweud nad yw’r ffurflen flynyddol yn cynnwys un neu ragor o’r swyddogion sy’n dal i ymddangos fel swyddogion cyfredol ar gofnodion Tŷ ’r Cwmnïau. Beth mae hyn yn ei olygu? A. Sicrhewch eich bod wedi nodi’r enwau a’r dyddiadau geni cywir ar gyfer pob swyddog. Os ydyn nhw’n gywir, hwyrach eich bod wedi anghofio cynnwys swyddog ar y ffurflen flynyddol neu fod penodiad y swyddog wedi cael ei derfynu ond nad ydych wedi ein hysbysu ni gan ddefnyddio’r ffurflen briodol. C. Beth ddylwn i ei wneud nesaf? A. Rhaid i chi wirio cofnod y cwmni neu’r PAC. Os yw ein cofnodion yn dangos bod dogfen ar goll neu’n anghywir, rhaid datrys hyn. Mae’r cwestiynau isod am benodiadau, newid manylion swyddogion a therfynu penodiadau swyddogion, yn cynnig rhagor o wybodaeth am sut i fynd ati wneud hyn, yn dibynnu pa fath o ddogfen ffeilio sydd ar goll. Penodiadau – (Ffurflenni AP01c, AP02c, AP03c, AP04c, LLAP01c, LLAP02c) C. Rydw i wedi cael hysbysiad i ddweud bod y person o dan sylw eisoes wedi cael ei benodi. Beth mae hyn yn ei olygu? A. Fel rheol, mae hyn yn golygu ein bod ni eisoes wedi cael ffurflen benodi ar gyfer y person hwn, ond bod y ffurflen gyntaf yn dangos dyddiad penodi gwahanol. Os derbyniwyd y ddwy ffurflen, byddwn ni’n nodi bod anghysondeb mewn perthynas â’r person o dan sylw yn ein cofnod, a byddwn yn disgwyl i chi gymryd camau i ddatrys hyn. C.Beth ddylwn i ei wneud nesaf? A. Rhaid i chi wirio cofnod y cwmni neu’r PAC. Os nad yw’r ffurflen wedi cael ei dychwelyd i chi a’i bod hi, neu’r ffurflen gynharach, yn nodi dyddiad penodi sy’n anghywir, hwyrach y byddwch am ei dileu. Cewch wneud hyn trwy wneud cais i’w chywiro. I gael rhagor o wybodaeth am sut i fynd ati i wneud hyn, cyfeiriwch at C9 ym mhennod 2 o’n llyfryn canllaw GP6. Os yw’r ffurflen wedi cael ei dychwelyd i chi, a bod y cofnod ar gyfer y person hwnnw yn gywir, yna nid oes angen dychwelyd y ffurflen i ni. Fodd bynnag, os yw’r cofnod ar gyfer y person hwnnw yn anghywir, yna hwyrach y byddwch chi’n gallu ffeilio ail gopi o’r ffurflen honno sy’n nodi’r manylion cywir. I gael rhagor o wybodaeth am sut i fynd ati i wneud hyn, cyfeiriwch at C14, ym mhennod 2 o’n llyfryn canllaw GP6. Fel arall, gallech gywiro cofnod eich cwmni neu’ch PAC trwy wneud cais am gywiriad. I gael rhagor o wybodaeth am sut i fynd ati i wneud hyn, darllenwch C9 ym mhennod 2 o’n llyfryn canllaw GP6. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cywiro unrhyw wallau eraill cyn dychwelyd ffurflen a wrthodwyd i ni. Newid manylion swyddogion – (Ffurflenni CH01c, CH02c, CH03c, CH04c, LLCH01c, LLCH02c) C. Rydw i wedi cael hysbysiad i ddweud nad oes unrhyw gofnod gan Dŷ’r Cwmnïau o’r person rydw i wedi ffeilio newid mewn perthynas ag ef. Beth mae hyn yn ei olygu? A. Fel rheol, mae hyn yn golygu nad ydym wedi cael ffurflen benodi ar gyfer y person hwn. Neu hwyrach ein bod ni wedi cael y ffurflen ond bod yr enw neu’r dyddiad geni yn wahanol, a bod hynny wedi creu penodiad arall ar gyfer y person. C. Beth ddylwn i ei wneud nesaf? A. Rhaid i chi wirio cofnod y cwmni neu’r PAC. Os nad yw’r ffurflen benodi ar ein cofnodion, yna rhaid ei chyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau ar unwaith. Os yw ein cofnodion yn dangos penodiad y person, ond o dan enw neu ddyddiad geni gwahanol, yna hwyrach y cewch ffeilio ail gopi o’r ffurflen honno gan nodi’r manylion cywir. I gael rhagor o wybodaeth am sut i fynd ati i wneud hyn, cyfeiriwch at C14 ym mhennod 2 o’n llyfryn canllaw GP6. C. Rydw i wedi cael hysbysiad i ddweud bod Tŷ’r Cwmnïau eisoes wedi terfynu penodiad y person rydw i wedi ffeilio ffurflen newid mewn perthynas ag ef. Beth mae hyn yn ei olygu? A. Gallai hyn olygu bod y dyddiad y terfynu neu’r newid i’r manylion yn anghywir. Fel arall, gallai olygu bod y person wedi ymddiswyddo ac wedi cael ei ailbenodi’n ddiweddarach, ond nad yw Tŷ’r Cwmnïau wedi cael hysbysiad yn hynny o beth. C. Beth ddylwn i ei wneud nesaf? A. Rhaid i chi wirio cofnod y cwmni neu’r PAC. Os yw dyddiad y newid neu’r terfyniad yn anghywir a bod y ddwy ffurflen wedi cael eu derbyn, hwyrach y cewch ffeilio ail gopi o’r ffurflen honno gan nodi’r manylion cywir. I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn, cyfeiriwch at C14 ym mhennod 2 o’n llyfryn canllaw GP6. Os yw’r person wedi cael ei ailbenodi ond nad ydych wedi ffeilio hysbysiad, rhaid ei ffeilio ar unwaith. Terfynu penodiad swyddog – (Ffurflenni TM01c, TM02c, LLTM01c) C. Rydw i wedi cael hysbysiad i ddweud nad oes unrhyw gofnod gan Dŷ’r Cwmnïau o’r person rydw i wedi ffeilio terfyniad penodiad mewn perthynas ag ef. Beth mae hyn yn ei olygu? A. Mae hyn siŵr o fod yn golygu na chawsom ffurflen benodi ar gyfer y person hwnnw. C. Beth ddylwn i ei wneud nesaf? A. Rhaid i chi wirio cofnod y cwmni neu’r PAC. Os nad yw ein cofnodion yn dangos y ffurflen benodi, rhaid ffeilio’r ffurflen gyda Thŷ’r Cwmnïau ar unwaith. |
||