Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan
Gwasanaeth Cymraeg
Hafan | Cysylltu â ni | English  
 
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin

Cwestiynau Mynych


Cwestiynau Cyffredin am Gywirio Anffurfiol

Beth yw Cywiro Anffurfiol?

Ar 1 Hydref 2009, daw adran 1075 o Ddeddf Cwmnïau 2006 i rym. Dyma ddarpariaeth newydd sy’n rhoi i’r Cofrestrydd y pŵer i gywiro dogfen sy’n ymddangos yn anghyflawn neu’n anghyson yn fewnol cyn ei chofrestru.

Mae’n rhaid i bobl sydd am fanteisio ar y ddarpariaeth hon gytuno’n gyntaf inni gysylltu â nhw a chytuno i roi i’r Cofrestrydd y cyfarwyddiadau hynny sydd angen i gywiro’r ddogfen. Gweld rhagor o fanylion am gywiro dogfennau a ffurflenni cysylltiedig yn anffurfiol.