Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cwestiynau Cyffredin am Ymddatod ac Ansolfedd

Diddymu cwmnïau Lloegr a Chymru gydag achosion datod gorfodol dros ddeng mlwydd oed

Mae Tŷ'r Cwmnïau'n symleiddio ei broses i ddiddymu cwmnïau Lloegr a Chymru sydd wedi bod yn cael eu datod yn orfodol ers deng mlynedd neu ragor ac sydd heb gysylltu â Thŷ'r Cwmnïau ers deng mlynedd.

Ble ddylwn i droi am wybodaeth am ymddatod fy nghwmni (neu unrhyw weithrediadau ansolfedd eraill)?

Mae canllawiau Tŷ’r Cwmnïau yn cwmpasu ymddatod, derbynyddiaeth, mynd i ddwylo’r gweinyddwyr a chytundebau gwirfoddol corfforaethol. Maent hefyd yn cynnig gwybodaeth gyffredinol am faterion ansolfedd:

Rydyn ni’n argymell eich bod yn cael cyngor proffesiynol (gan gyfreithiwr neu ymarferydd ansolfedd) cyn parhau ag unrhyw un o’r camau hyn.

Dylid nodi yr ymdrinnir â materion sy’n ymwneud â dileu cwmni neu PAC o’r Gofrestr lle nad oes gweithrediadau ymddatod neu ansolfedd dan sylw, ar wahân yn y canllawiau canlynol:

Ble mae cael gafael ar y ffurflenni priodol i’w ffeilio gyda’r Cofrestrydd?

Mae ffurflenni LQ01 ac LQ02 a Ffurflen 600 ar gael ar wefan Tŷ’r Cwmnïau.

  • Mae’r Cofrestrydd Cwmnïau wedi pennu’r ffurflenni ansolfedd statudol ar gyfer Lloegr a Chymru yn rheolau’r Cofrestrydd .

A oes cymwysterau arbennig gan y bobl sy’n gyfrifol am y gweithrediadau hyn?

Rhaid i unrhyw un sy’n cyflawni dyletswyddau datodydd, derbynnydd gweinyddol, gweinyddwr neu oruchwylydd trefniadau gwirfoddol corfforaethol fod yn ymarferydd ansolfedd cymwys. Nid oes angen cymhwyster o’r fath er mwyn gwneud swydd derbynnydd neu reolwr, nac ar unrhyw un oedd eisoes yn eu swydd cyn i Ddeddf Ansolfedd 1986 ddod i rym.

Sut ddylwn i fynd ati i gwyno am ymddygiad un o’r ymarferwyr cymwys hyn?

Gellir gwneud cwynion drwy'r Porth Cwynion unigol.

Rwy’n deall bod cwmni’n cael ei ddiddymu dri mis ar ôl i’r camau ymddatod ddod i ben. Mae angen i mi gadw’r cwmni ar y Gofrestr fyw am gyfnod. Os byddaf i’n ysgrifennu atoch, a fyddwch yn gohirio’r dyddiad diddymu?

Na fyddwn. Ni all y Cofrestrydd ohirio diddymiad cwmni yn sgil camau ymddatod. Yn achos ymddatod gwirfoddol, gellir cyflwyno cais i’r llys i ohirio’r diddymiad. Yn achos ymddatod gorfodol, rhaid cyflwyno cais i’r Ysgrifennydd Gwladol.

Rhaid ffeilio’r hysbysiad/gorchymyn gohirio gyda’r Cofrestrydd ar ôl cofrestru’r dogfennau sy’n terfynu’r broses ymddatod a chyn y dyddiad diddymu. Ar ôl diddymu, rhaid gwneud cais i’r llys i ddatgan bod y diddymiad yn ddi-rym.

Mae rhagor o wybodaeth am ohirio diddymiad yn y ddeddfwriaeth berthnasol, sef:

  • Adran 201 o Ddeddf Ansolfedd 1986 ar gyfer ymddatod gwirfoddol, ac
  • Adrannau 202, 203 a 205 o Ddeddf Ansolfedd 1986 ar gyfer ymddatod gorfodol.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ymddatod gwirfoddol ac ymddatod gorfodol?

Gall ymddatodiad gwirfoddol fod yn ymddatodiad o wirfodd yr aelodau neu’n ymddatodiad o wirfodd y credydwyr. Mae’n codi yn sgil penderfyniad y cwmni ac ymarferydd cymwys sy’n cyflawni’r broses. Daw ymddatodiad gorfodol yn sgil gorchymyn llys a gall y Gweinyddwr Swyddogol neu ymarferydd cymwys gyflawni’r broses hon.

Mae gan gwmni ddyled ariannol i mi. Maen nhw’n dweud nad ydyn nhw’n masnachu mwyach ond nad ydyn nhw’n ymddatod ychwaith. Oes modd eu gorfodi i ymddatod?

Gall credydwr gyflwyno deiseb i’r llys i orfodi cwmni i ymddatod. Dylech ddarllen y canllawiau a gofyn am gyngor proffesiynol yn hyn o beth.

A yw gweithrediadau ansolfedd yn golygu bod y cwmni’n anhydal ac y caiff ei ddileu o’r Gofrestr yn y pen draw?

Ddim bob tro. Pan fo cwmni’n ymddatod o wirfodd yr aelodau, mae’r cyfarwyddwyr yn tyngu i ddatganiad hydaledd i ddweud y bydd y cwmni’n gallu talu ei holl ddyledion mewn cyfnod sydd heb fod yn fwy na deuddeg mis. O dan yr amgylchiadau hyn, nid yw’r cwmni’n ‘anhydal’.

Ble ddylwn i droi i gael rhagor o wybodaeth?

Mae gwybodaeth fanylach ar gael ar wefan y Gwasanaeth Ansolfedd.

Brig
Ein polisi ar gwcis