Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cwestiynau Cyffredin am Bartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig

Beth yw Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)?
Mae’n gyfrwng busnes corfforaethol amgen sy’n rhoi buddion atebolrwydd cyfyngedig ond sy’n cynnig i’w aelodau hyblygrwydd trefnu eu fframwaith mewnol fel partneriaeth draddodiadol. Mae PAC yn endid cyfreithiol ar wahân ac, er mai’r PAC ei hun fydd yn atebol am amrediad cyfan ei hasedion, bydd atebolrwydd yr aelodau yn gyfyngedig.

Pa fath o gorff all fynd yn PAC?
Gall unrhyw gwmni newydd neu bresennol o ddau neu ragor o bersonau gorffori fel PAC.

Alla i gorffori PAC yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon yn ogystal â Lloegr a Chymru?
Gallwch.

Alla i drosi o fod yn gwmni cyfyngedig i fod yn PAC?
Nid yw’r ddeddfwriaeth PAC yn darparu ar gyfer ‘proses drosi’ – fel y gallai cwmni cyfyngedig drosi i statws PAC o dan y Ddeddf Cwmnïau, er enghraifft. Dylai unrhyw un sydd â chwmni cyfyngedig presennol ac a fyddai’n hoffi trosglwyddo enw’r cwmni presennol i PAC newydd gysylltu ag Arweinydd y Tîm PAC. Bydd y broses yn golygu trefniadau dan reolaeth gaeth i newid enw’r cwmni a chorffori PAC. Bydd dod i gysylltiad cyn cyflwyno’r ffurflenni angenrheidiol yn sicrhau bod y broses yn mynd rhagddi mor llyfn â phosib.

Beth yw’r gofynion datgelu i PAC?
Maen nhw’n debyg i’r rhai ar gyfer cwmni. Mae’n ofynnol i bartneriaethau PAC ddarparu gwybodaeth ariannol yn cyfateb i’r drefn ar gyfer cwmnïau, gan gynnwys ffeilio cyfrifon blynyddol. Ymhlith pethau eraill, mae’n ofynnol hefyd iddynt:

  • Ffeilio ffurflen flynyddol
  • Rhoi gwybod am unrhyw newid i aelodaeth y PAC
  • Rhoi gwybod am unrhyw newid i enwau a chyfeiriadau preswyl eu haelodau
  • Rhoi gwybod am unrhyw newid i gyfeiriad eu Swyddfa Gofrestredig
Beth yw dyletswyddau aelod dynodedig?
Mae aelodau dynodedig yn gyfrifol am gyflawni dyletswyddau arbennig, gan gynnwys rhai o’r dyletswyddau y byddai cyfarwyddwr neu ysgrifennydd cwmni fel arfer yn eu cyflawni. Mae’r rhain yn cynnwys pethau fel:
  • Llofnodi’r cyfrifon blynyddol
  • Ffeilio’r cyfrifon blynyddol a ffurflenni blynyddol gyda Thy’r Cwmnïau
  • Mewn gweithrediadau ansolfedd, darparu datganiad yn egluro materion ariannol y busnes, h.y. asedion, dyledion a rhwymedigaethau.

Faint yw’r gost am gorffori PAC?
Y ffi am gofrestru partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn electronig adeg ei chorffori o dan Ddeddf 2000 yw £14.

Y ffi gofrestru partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ar bapur adeg ei chorffori o dan Ddeddf 2000 yw £40.

Y ffi gofrestru partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig Cymreig sy’n gyflwyno dogfennau yn y Gymraeg ar bapur adeg ei chorffori o dan Ddeddf 2000 yw £20.

Sut y caiff PAC ei threthu?
Ni all Tŷ’r Cwmnïau roi gwybodaeth am y dreth: cysylltwch â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

A fydd statws PAC ar gael i elusennau?
Na fydd. Dim ond i fusnes cyfreithlon a ddilynir er mwyn elw y mae statws PAC ar gael.

Ble galla i gael cymorth a chyngor pellach?
Cysylltwch â staff Ty’r Cwmnïau yn y cyfeiriadau isod. Dylech nod mai dim ond canllawiau cyffredinol y gall y staff eu rhoi. Ni allant ddyfalu ai PAC yw’r cyfrwng priodol i chi ac i’ch busnes. Dylech felly geisio cyngor cyfreithiol a phroffesiynol addas

Am ymholiadau penodol ynglyn â PACau yn Lloegr a Chymru, cysylltwch â’r canlynol:

Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ

Ffôn: +44(0)303 1234 500(pris galwad genedlaethol)
Ffacs: 029 20380900

Cysylltu â ni

Am ymholiadau penodol ynglyn â  PACau yn yr Alban, cysylltwch â’r canlynol:

Registrar for Scotland
Companies House
4th Floor
Edinburgh Quay 2
139 Fountainbridge
Edinburgh EH3 9FF
neu

LP - 4 Edinburgh 2 (Legal Post)
neu
DX ED235 Edinburgh 1

Ffôn: +44 (0)303 1234 500 (pris galwad genedlaethol)
Ffacs: 029 20380900

Cysylltu â ni

Am ymholiadau penodol ynglyn â  PACau yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’r canlynol:

Companies House
Second Floor
The Linenhall
32-38 Linenhall Street
Belfast
Northern Ireland BT2 8BG
neu
DX 481 N.R. Belfast 1

Cysylltu â ni
Brig
Ein polisi ar gwcis