|
|
Cwestiynau Cyffredin am Gyfarfodydd a Phenderfyniadau Mae cwmni wedi galw cyfarfod cyffredinol anarferol ar gyfer 2 Hydref 2007. Oes angen i hwn fynd ymlaen yr un fath? Os cylchredwyd rhybudd am y cyfarfod cyn 1 Hydref 2007, dylai'r cyfarfod fynd ymlaen gan i'r rhybudd gael ei gylchredeg o dan Ddeddf Cwmnïau 1985. Ar ôl 1 Hydref 2007, a fydd angen o hyd i gwmni gynnal cyfarfod cyffredinol anarferol i fabwysiadu penderfyniad anarferol? Ar ôl 1 Hydref 2007, dim ond os dywedir hynny yn ei erthyglau y bydd yn rhaid i gwmni gynnal cyfarfod cyffredinol anarferol i fabwysiadu penderfyniad anarferol. Ydy Deddf 2006 wedi dileu'r gofynion o ran mabwysiadu penderfyniad anarferol? Ydy. Er enghraifft, roedd Deddf Ansolfedd 1986 yn dweud bod rhaid mabwysiadu penderfyniad anarferol i ddirwyn cwmni i ben. Nid yw hyn yn wir mwyach, gan fod diwygiad canlyniadol wedi'i wneud i Ddeddf Ansolfedd 1986 i newid y gofynion o benderfyniad anarferol i benderfyniad arbennig. Oes modd bellach i unrhyw benderfyniad a fabwysiadwyd fel penderfyniad anarferol o dan Ddeddf 1985 gael ei fabwysiadu fel penderfyniad arbennig? Oes. Beth yw'r darpariaethau newydd ynglyn â Chyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol? O dan Ddeddf Cwmnïau 2006 ni fydd yn ofynnol mwyach i gwmnïau preifat gynnal cyfarfodydd cyffredinol blynyddol. Ond bydd y cyfranddeiliaid yn dal i gyfrannu at broses benderfynu'r cwmni. Cafodd y Ddeddf ei llunio i lawer o'r penderfyniadau hyn allu cael eu gwneud drwy drefn ysgrifenedig, er y bydd angen o hyd i'r cwmni gynnal cyfarfodydd i ddiswyddo cyfarwyddwr neu derfynu penodiad archwilydd ariannol cyn diwedd ei gyfnod yn y swydd. Hefyd, mae gan y cyfranddeiliaid a'r cyfarwyddwyr y pŵer i alw cyfarfod o hyd os dymunant. Mae effaith y darpariaethau newydd yn dibynnu ar beth sydd wedi'i gynnwys ar hyn o bryd yn erthyglau'r cwmni. Bydd angen o hyd i gwmni preifat presennol fabwysiadu penderfyniad i ddileu o'i erthyglau unrhyw gymalau presennol sy'n ymwneud â chyfarfodydd cyffredinol blynyddol. Câi hysbysiad am y penderfyniad hwn ei gylchredeg ymhlith yr aelodau cyn y gellid ei fabwysiadu neu ei gymeradwyo. Mae gwybodaeth bellach am benderfyniadau a chyfarfodydd wedi'i chynnwys yn Neddf Cwmnïau 2006: Gwybodaeth Cwmni Preifat, ac ar wefan BIS: http://www.bis.gov.uk/files/file42261.pdf Ar ôl 1 Hydref 2007, oes yna newidiadau i'r geiriad neu'r gofynion ar gyfer mabwysiadu penderfyniadau arbennig / ysgrifenedig? Byddai Tŷ’r Cwmnïau yn disgwyl i'r penderfyniad nodi'r math o benderfyniad sydd dan sylw, y ffaith iddo gael ei fabwysiadu/gymeradwyo gan yr aelodau neu'r cyfarwyddwyr, a dyddiad ei fabwysiadu. Pryd daeth Rhan 13 ar benderfyniadau i rym? 1 Hydref 2007. Beth yw'r mwyafrif angenrheidiol ar gyfer penderfyniadau ysgrifenedig? Bydd y mwyafrif sydd angen yn debyg i'r mwyafrif ar gyfer cyfarfodydd cyfranddeiliaid – mwyafrif syml o'r cyfrannau cymwys ar gyfer penderfyniadau arferol, neu 75% ar gyfer penderfyniadau arbennig. Oes angen i benderfyniadau ysgrifenedig gael eu llofnodi gan bob un o'r unigolion sydd wedi'u henwi ar y penderfyniad? Dim ond un llofnod sydd eisiau ar benderfyniadau ysgrifenedig a gaiff eu mabwysiadu ar neu wedi 1 Hydref 2007 (o dan Ddeddf Cwmnïau 2006) (er y gall fod mwy o lofnodion arnynt). A fydd yn rhaid rhoi gwybod i'r archwilwyr ariannol am benderfyniadau ysgrifenedig? Bydd, caiff Adran 390 o Ddeddf Cwmnïau 85 ei diwygio fel bod hawl o hyd gan archwilwyr ariannol i dderbyn pob gohebiaeth a ddosberthir ymhlith yr aelodau gyda phenderfyniadau ysgrifenedig. Oes angen o hyd i'm cwmni gynnal Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol? Does dim angen i gwmnïau preifat yn cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol mwyach os nad oes rhwymedigaeth i wneud felly yn ei erthyglau. Rhaid i gwmni presennol barhau i gynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol oni bai ei fod yn newid ei erthyglau i ddileu pob rhyw gyfeiriad at Gyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol. Mae'n rhaid i gwmnïau cyhoeddus gynnal Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol o hyd. Mae adran 296 o'r Ddeddf newydd yn cyfeirio at 'ddogfen wedi'i dilysu'. Beth yw hyn? Mae 'dogfen wedi'i dilysu' yn cyfeirio at gymeradwyaeth yr aelodau o'r penderfyniad. Caiff yr aelodau naill ai llofnodi copi papur o'r penderfyniad neu ddangos eu cymeradwyaeth o fersiwn electronig. Dyma pam y dywedir dilysu yn hytrach na llofnodi. Ydy'r geiriad wedi newid ar benderfyniadau arbennig i newid enwau cwmnïau? Cafodd fformatiau'r penderfyniad arbennig a'r penderfyniad ysgrifenedig eu diweddaru ill dau ar 1 Hydref 2007 ac maen nhw ar gael ar wefan Tŷ’r Cwmnïau. Mae'r fersiwn ar-lein o Ddeddf Cwmnïau 2006 i'w weld ar wefan OPSI (www.legislation.gov.uk/ukpga), ac mae Pennod 5 adrannau 77-81 yn cyfeirio at newid enw. Beth yw'r cyfnod rhybudd ar gyfer cyfarfodydd cyfranddeiliaid? Bellach, gall cyfarfodydd cyfranddeiliaid cwmnïau preifat gael eu cynnal drwy roi rhybudd o 14 diwrnod, oni bai bod trefniadau gwahanol wedi'u pennu yn Erthyglau'r cwmni. A gafodd penderfyniadau drwy bleidlais eu diddymu? O dan Ddeddf Cwmnïau 2006 mae penderfyniadau drwy bleidlais, heb gynnwys adran 80a (bellach adran 549-55 o Ddeddf 2006), wedi eu diddymu. O 1 Hydref 2007 ymlaen, nid oes angen mwyach i bedwar o'r pum math o benderfyniad drwy bleidlais gael eu ffeilio ar gyfer cwmnïau cyfyngedig preifat - sef: Hepgor gosod cyfrifon ac adroddiadau gerbron cyfarfod cyffredinol (ad252) Beth fydd yn digwydd i benderfyniadau drwy bleidlais a gafodd eu mabwysiadu gan y cwmni'n barod? Lle bo cwmni eisoes wedi ffeilio penderfyniadau drwy bleidlais, byddant yn dal mewn grym ac ni fydd angen i'r cwmni ddiwygio'r erthyglau. Bydd penderfyniadau drwy bleidlais a gafodd eu cylchredeg cyn 1 Hydref 2007 yn dal yn dderbyniol i'w ffeilio. Gan fod penderfyniadau drwy bleidlais wedi'u diddymu, oes rhaid i'r cwmni roi cyfrifon gerbron yr aelodau etc o hyd? Fe erys y cyfrifoldeb am gyflenwi cyfrifon i rai pobl.Rhaid i bob cwmni anfon copi o'i gyfrifon a'i adroddiadau blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol at -
Oes rhaid i gwmni fabwysiadu penderfyniad i ddefnyddio gwefan fel ffordd o drefnu i'r cyfrifon fod ar gael i'r aelodau? Yn gyntaf, mae'n rhaid i'r cwmni wirio'r erthyglau cyfredol i weld beth sydd wedi'i bennu, ac os yw am fanteisio ar y cyfle i beidio â chynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol, rhaid iddo fabwysiadu penderfyniad i ddileu'r ddarpariaeth honno.Ond caiff barhau i gyflwyno'r cyfrifon i'r aelodau yn ôl ei arfer bresennol. Os na fydd y cwmni'n newid ei erthyglau, a yw hynny yn erbyn y gyfraith gwmnïau? Nid yw hyn yn orfodol. Dim ond lle bo'r cwmni am fanteisio ar y darpariaethau newydd a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2007, e.e. dyletswyddau cyfarwyddwyr, penderfyniadau a chyfarfodydd, y bydd angen i erthyglau'r cwmni newid. A gaiff cwmni fabwysiadu set gwbl newydd o erthyglau os nad yw un o'r aelodau'n cytuno ag un rhan? Wrth i'r cwmni fabwysiadu penderfyniad arbennig i gyflwyno set bwrpasol o erthyglau, bydd angen 75% o'r pleidleisiau sy'n gymwys. Felly, bydd yn dibynnu ar faint o bleidleisiau cymwys sydd gan y cwmni (h.y. faint o aelodau). |
||