Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cwestiynau Cyffredin am Aelodau / Cyfranddeiliaid

Pryd y bydd modd i gwmni gael ei ryddhau rhag y rhwymedigaeth statudol i ganiatáu mynediad i'r gofrestr aelodau i unrhyw un?

Unwaith bod cwmni wedi ffeilio'i Ffurflen Flynyddol yn bodloni dyddiad ar ôl 30 Medi 2007, bydd o dan reolaeth darpariaethau Deddf 2006 gyda golwg ar fynediad i'w gofrestr aelodau. Mae hyn yn golygu:

  • bod rhaid i'r cais am fynediad gynnwys enw a chyfeiriad y sawl sy'n ceisio mynediad, gan nodi i ba ddiben y caiff yr wybodaeth ei defnyddio, p'un a gaiff ei rhannu â rhywun arall, ac os felly â phwy ac i ba ddiben;
  • bod rhaid i'r cwmni, o fewn pum diwrnod gwaith, naill ai cydymffurfio â'r cais am fynediad neu wneud cais yntau i'r llys;
  • y bydd y llys yn caniatáu i'r cwmni beidio â chydymffurfio os yw'n fodlon na cheisir mynediad i ddiben priodol.

I bwy mae Cyfyngu mynediad i'r Gofrestr Aelodau (adrannau 116 – 119) yn gymwys?

Mae'r cyfyngiad hwn yn gymwys i bob cais allanol am gael gweld y gofrestr aelodau o'r tu allan i'r cwmni.

O ganlyniad i gais am gael gweld y gofrestr aelodau, pa wybodaeth y caiff y cwmni ofyn amdani?

Enw a chyfeiriad yr ymgeisydd, neu os sefydliad sydd dan sylw, am enw rhyw unigolyn, a hefyd diben y cais ac a gaiff yr wybodaeth ei datgelu ac i bwy a'i bwrpas. Mae'n drosedd i wneud datganiad anwir wrth roi'r manylion sydd angen ar gyfer y datgelu.

Pa opsiynau sydd gan y cwmni gyda golwg ar ddatgelu gwybodaeth y gofrestr aelodau?

Rhaid i'r cwmni naill ai cydymffurfio â'r cais yn ddiymdroi neu fe gaiff wneud cais i'r llysoedd am gyfyngu mynediad i'r Gofrestr o fewn 5 diwrnod gwaith.

Pryd byddai'r llys yn caniatáu i'r cwmni beidio â chydymffurfio â'r cais am fynediad?

Dim ond os yw'n fodlon na cheisir y mynediad at ddiben priodol y byddai'r llys yn caniatáu i'r cwmni beidio â chydymffurfio.

Beth yw diben priodol lle mae mynediad i gofrestr aelodau'r cwmni yn y cwestiwn?

Mater i'r llys ei benderfynu yw a oes diben priodol i gais neilltuol.

Brig
Ein polisi ar gwcis