|
|
Mathau amrywiol o gwmniCymdeithasau Diwydiannol a Darbodus (IP)
Sefydliad yw cymdeithas ddiwydiannol a darbodus sy’n cynnal diwydiant, busnes neu fasnach, naill ai fel cwmni cydweithredol neu er lles y gymuned, ac sydd wedi’i gofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965.
Nid yw'r sefydliadau hyn yn cofrestru dogfennau yn Nhŷ’r Cwmnïau. Maent yn cael eu cofrestru gyda’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) a’u rheoleiddio gan y corff hwn. Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn mynnu bod enw cymdeithas ddiwydiannol a darbodus yn cael ei gynnwys ar fynegai’r cofrestrydd cwmnïau o enwau cwmni. Gall cymdeithas ddiwydiannol a darbodus drosi’n gwmni wedi’i gofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006.
I gael mwy o wybodaeth am gymdeithasau diwydiannol a darbodus, sut i gofrestru a chwilio am gymdeithasau diwydiannol a darbodus sydd wedi’u cofrestru, ewch i wefan yr FSA . Trosi Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus yn Gwmni
Rhaid i’r gymdeithas gytuno i drosi trwy basio cynnig arbennig.
I drosi’n gwmni cofrestredig bydd angen i chi ffeilio’r dogfennau corffori safonol. I sicrhau y caiff y cais ei brosesu’n gywir dylech gynnwys llythyr neu ddatganiad yn cadarnhau bod y cais yn cael ei wneud gan gymdeithas ddiwydiannol a darbodus sy’n bwriadu trosi’n gwmni, a hefyd na ddylai gael ei gofrestru gan Dŷ’r Cwmnïau hyd nes y cytunir ar ddyddiad gyda’r FSA. Bydd yr FSA yn anfon copïau o’r cynnig arbennig perthnasol a ffurflenni B a/neu Z atom, ac ar ôl eu cael byddwn yn prosesu’r trosi ac yn cofrestru’r cwmni newydd.
Gall trosi gymryd unrhyw beth o ychydig o ddyddiau i gwpl o fisoedd, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Os yw’r cais yn anghyflawn neu os yw’r dogfennau’n anghywir gall achosi oedi i’r broses, ac mewn rhai achosion mae’n bosibl y bydd yr FSA angen 15 diwrnod i edrych ar y cais cyn y gellir bwrw ymlaen â’r cofrestru.
Ewch i wefan yr FSA sydd â gwybodaeth gynhwysfawr am drosi cymdeithas ddiwydiannol a darbodus yn gwmni. Cwmnïau Yswiriant (AC)
O dan Adran 3 o Ddeddf Yswiriant 1936, diffinnir “busnes aswiriant” fel unrhyw un o’r dosbarthiadau canlynol o fusnes:-
Daeth y gofyniad i ychwanegu enwau cwmnïau yswiriant i’r mynegai enwau cwmni i ben yn 2003. Mae pob cwmni yswiriant/aswiriant yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). I gael mwy o wybodaeth am gofrestru cwmni yswiriant cysylltwch â’r FSA gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol. http://www.fsa.gov.uk/pubs/other/ins_reg.pdf
Mae holl gofnodion cwmnïau aswiriant ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau’n hanesyddol. Yn dilyn newid i’r gyfraith yn 2003, nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn ffurflenni ar gyfer cwmnïau yswiriant mwyach. Fodd bynnag, mae yna gofnodion cwmnïau yswiriant ar y gofrestr o hyd oddi wrth gwmnïau yswiriant oedd wedi’u cofrestru ynghynt. Ewch i wefan yr FSA i chwilio am gwmnïau yswiriant sydd wedi’u cofrestru ers 2003 a hefyd am y rheiny sydd wedi’u cofrestru cyn y dyddiad hwnnw sydd wedi newid eu henw.
Rhoddwyd rhif AC i bob cwmni yswiriant i’w wahaniaethu oddi wrth gwmni cyfyngedig; roedd y rhif AC yn wahanol i’r rhif cwmni. Roedd hyn yn golygu bod gan gwmni yswiriant, oedd hefyd yn gwmni cyfyngedig, ddau gofnod ar wahân a dau rif ar wahân ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau.
Er bod y cofnodion a gedwir gan Dŷ’r Cwmnïau yn hanesyddol, mae’r enw cwmni yswiriant yn atal unrhyw gwmni rhag cael ei gorffori neu gwmni rhag newid ei enw i un sydd ‘yr un peth’ ag enw cwmni yswiriant. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os nad yw’r cwmni yswiriant yn bodoli mwyach neu os yw wedi newid ei enw. Mae hyn oherwydd bod yr enw cwmni yswiriant wedi’i gynnwys ar y Mynegai Enwau Cwmni ac felly’n ddarostyngedig i Reoliadau Enwau Cwmni a Busnes (Darpariaethau Amrywiol) 2009. I gael mwy o wybodaeth gweler pennod 6 o Ganllawiau Corffori ac Enwau GP01 ar wefan Tŷ’r Cwmnïau. Cwmnïau heb eu cofrestru (ZC)
Mae cwmnïau heb eu cofrestru’n cynnwys:
Maent yn ymddangos ar y Mynegai Enwau Cwmni ac yn cael eu nodi â rhif cyfeirnod ‘ZC’.
Nid oes angen i gwmnïau heb eu cofrestru (ZC) ffeilio dogfennau yn Nhŷ’r Cwmnïau ond fel sy’n ofynnol gan y Rheoliadau Cwmnïau Heb Eu Cofrestru 2009. Mae’r rhestr isod wedi’i chymryd o’r rheoliadau hynny:
Mae Adran 1043 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf Cwmnïau i rai cwmnïau heb eu cofrestru. Mae dogfennau sy’n cael eu ffeilio gan gwmnïau heb eu cofrestru yn cael eu cofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau a’u cynnwys ar y cofnod cyhoeddus.
Gall. Gall cwmnïau heb eu cofrestru ddewis cofrestru fel cwmni o dan adran 1040 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Yna byddai’r cwmnïau hyn yn cael eu cofrestru gyda rhif Deddf Cwmnïau newydd a byddai’r cofnod cwmni heb ei gofrestru’n cael ei farcio fel wedi cau / wedi’i drosi a’i anodi’n briodol er budd y chwiliwr. Cwmnïau Siarter Frenhinol
Mae Siarteri Brenhinol yn dyddio’n ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg. Maent yn cael eu rhoi gan y brenin neu’r frenhines ar gyngor y Cyfrin Gyngor. Fel arfer cedwir siarteri newydd i gyrff sy’n gweithio er lles y cyhoedd (megis sefydliadau proffesiynol ac elusennau) ac a all ddangos amlygrwydd, sefydlogrwydd a pharhad yn eu maes penodol. Mae’r rhan fwyaf yn debyg i gwmnïau wedi eu cyfyngu drwy warant yn hytrach na chwmnïau wedi eu cyfyngu drwy gyfrannau.
Os nad oes unrhyw weithgarwch economaidd yn y cwmni nid yw’n ofynnol ffeilio unrhyw ddogfennau yn Nhŷ’r Cwmnïau a dylai unrhyw un ag ymholiad gysylltu â’r cwmni siarter frenhinol yn uniongyrchol. Nodir y gofynion ffeilio ar gyfer cwmnïau siarter frenhinol yn Rheoliadau Cwmnïau (Cwmnïau Wedi’u Hawdurdodi i Gofrestru) 2009. O ran y rheiny nad ydynt yn dewis cofrestru, mae rhai, ond nid pob un, yn ddarostyngedig i Reoliadau Cwmnïau Heb Eu Cofrestru 2009. Mae’r rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ffeilio rhai dogfennau penodol yn Nhŷ’r Cwmnïau. Mae’r fath gwmnïau’n cynnwys y rheiny:
I gwmnïau Siarter Frenhinol â rhagddodiad RC, dim ond yr enw sydd wedi’i gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau gan nad oes gweithgarwch economaidd gan y rhain ac felly nid yw’n ofynnol iddynt ffeilio dogfennau yn Nhŷ’r Cwmnïau. Ewch i wefan y Cyfrin Gyngor i gael mwy o wybodaeth am gwmnïau Siarter Frenhinol. I gwmnïau Siarter Frenhinol â rhagddodiad ZC bydd unrhyw ddogfennau sydd wedi cael eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau ar gael ar y cofnod cyhoeddus. Cwmni Buddsoddi â Chyfalaf Newidiol (ICVC)
Mae cwmni buddsoddi â chyfalaf newidiol yn gynllun cyd-fuddsoddi yn unol ag ystyr adran 75 o Ddeddf Gwasanaethau Ariannol 1986, y mae ei amcan yw buddsoddi mewn dosbarth cyfyngedig o fuddsoddiad. Mae hefyd yn cael ei ystyried yn gwmni buddsoddi penagored yn unol ag ystyr Adran 75 o’r Ddeddf honno.
Nid yw’n ofynnol ffeilio unrhyw ddogfennau yn Nhŷ’r Cwmnïau. Dim ond enw’r cwmni buddsoddi â chyfalaf newidiol sy’n cael ei gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau ar ôl cael hysbysiad oddi wrth yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Ewch i wefan yr FSA i gael mwy o wybodaeth am gofrestru cwmni buddsoddi â chyfalaf newidiol.
Mae’r holl wybodaeth am gwmnïau buddsoddi â chyfalaf newidiol yn cael ei chadw gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Cysylltwch â’r Awdurdod yn uniongyrchol i gael gwybodaeth neu ewch i wefan yr FSA. |
|